3.3 Yr offer iawn
Yn y gweithle pell, mae nifer o offer y dylech fod yn gyfarwydd â nhw (o'ch astudiaethau, neu efallai eich bod eisoes yn eu defnyddio gartref), ac mae llawer ohonynt wedi dod yn anghenraid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Ffigwr 3 yn rhoi trosolwg o rai o'r offer sydd ar gael i sefydliadau.

Peidiwch â chael eich llethu gan y gwahanol raglenni a systemau sy'n helpu i yrru gwaith hybrid, oherwydd y gallech fod yn gyfarwydd â rhai ohonynt eisoes, ac mae'n annhebygol y bydd angen i chi ddefnyddio pob un o'r rhai a ddangosir yn Ffigwr 3. Mae’n weddol hawdd mynd i'r afael â llawer ohonynt, felly os dymunwch ennill y blaen, mae llawer o'r cwmnïau a'u datblygodd yn cynnig mynediad am ddim, canllawiau i ddefnyddwyr neu diwtorialau ar eu gwefannau; fel arall, gallech chwilio ar-lein am fideos sut-i-wneud.
Fodd bynnag, mae'n bwysig i chi ddeall yr offer sylfaenol y mae’ch cwmni newydd yn eu defnyddio. Oes ganddynt system rheoli llif gwaith? Sut maent yn cyfathrebu? Gallai fod yn ddefnyddiol gofyn y cwestiynau hyn cyn i chi ddechrau, oherwydd gallai mynd i'r afael â rhai o'r rhaglenni hyn eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus yn eich rôl newydd.
Gweithgaredd 7 Ymchwilio i offer gweithio o bell
Archwiliwch y ffigwr uchod o offer gweithio o bell. Faint o'r rhain ydych yn eu nabod? Oes unrhyw rai rydych yn ei ystyried yn hanfodol sydd ar goll? Ymchwiliwch i rai o'r offer efallai nad ydych wedi clywed amdanynt.
Darllenwch yr erthygl hon: Top 22 work from home tools to make your remote work life easy (Kashyap, dim dyddiad). Faint o'r offer gweithio-o-gartref hyn fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer yr yrfa dymunwch ddechrau ynddi?
OpenLearn - Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
