8.1 Cyfarfodydd rhith-wir
Pan fyddwch chi'n dechrau ar eich rôl newydd, yn aml byddwch yn cael eich cyflwyno i nifer o gyd-weithwyr i gyd ar unwaith, a gall fod yn anodd cofio pwy ydyn nhw a pha rôl maent yn ei chwarae. Gall cyfarfodydd rhithwir â’ch tîm helpu i atgyfnerthu perthnasau a'ch esmwytho i'ch rôl newydd. Gallant hefyd fod yn bwysig ar gyfer rheoli eich lles. Efallai y gallech awgrymu cyfarfod rhithwir i'ch rheolwr, neu efallai bod ganddynt un yn ei le eisoes, er mwyn i chi allu dod i adnabod y bobl y byddwch yn gweithio â nhw fwyaf agos. Fel y nodwyd yn Adran 7, mae gwaith cydweithredol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y gweithle hybrid, a bydd ffurfio perthnasoedd gwaith effeithiol â'ch cydweithwyr yn help mawr i gyflawni hyn.
OpenLearn - Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
