Long description

Mae'r ffigwr yn dangos enghreifftiau o offer gweithio o bell sy'n cael eu defnyddio yn 2020. Mae'n eu categoreiddio yn ôl tri chwestiwn: 1) Sut gall timau gyfathrebu â'i gilydd?; 2) Sut gall timau reoli prosiectau a rhannu gwybodaeth?; 3) Sut gall timau ddatblygu gweithwyr a meithrin diwylliant? Mae’r categori cyntaf yn cynnwys: 'negeseuon ac e-bost' (yn cynnwys logos offer fel Slack, Teams, Gmail, ac Outlook); 'fideo a llais' (yn cynnwys logos offer fel Zoom, Google Meet, Teams a Facebook); a 'chalendrau a chyfarfodydd' (yn cynnwys logos offer fel calendly, Google Calendar a Microsoft Exchange). Mae’r ail gategori yn cynnwys: 'rheoli prosiectau' (y logos enghreifftiol yw Jira, asana a Monday.com); 'gwybodaeth' (y logos enghreifftiol yw Office a Dropbox); a 'dylunio' (logos enghreifftiol yr offer yw Figma, Sketch, a Canva). Mae'r trydydd categori yn ymdrin â 'hyfforddiant a datblygiad gweithwyr', ag enghreifftiau fel BetterUp, strive a Culture Amp.