Long description
Mae'r model yn cynnwys tri rhanbarth, wedi’u dangos fel haenau llorweddol. Cysur/diogelwch (sy'n cael ei dangos yn las ar waelod y ffigwr), yw'r amgylchedd gwaith arferol. Yr haen ganol yw Pryder/ansicrwydd (sy’n cael ei dangos yn felyn), sy’n gallu cynnwys gostyngiad mewn cynhyrchiant, anfodlonrwydd gweithwyr a gwrthiant goddefol. Yr haen uchaf yw Risg/hedfan (sy’n cael ei dangos yn oren), lle mae trosiant gweithwyr gwerthfawr ac effaith diriaethol ar gwsmeriaid yn broblemau, ac mae ymwrthedd gweithredol i newid yn amlwg ymhlith rhai gweithwyr. Ar hyd yr echelin fertigol, mae ofn a gwrthiant gweithwyr yn cynyddu. Ar hyd yr echelin llorweddol, mae amser yn symud ymlaen. Mae llinell doredig, sy'n dechrau ar waelod chwith yr haen Cysur/diogelwch, yn symud yn syth i fyny trwy Bryder/ansicrwydd i mewn i Risg/hedfan ac yna croesi'n llorweddol i ochr dde Risg/hedfan nes iddi ddechrau dirywio, yn cynrychioli llwybr posibl y gall grŵp o weithwyr ei ddilyn wrth wynebu newid. Mae'r llwybr hwn yn dechrau â chyfathrebu gan reolwyr neu si bod newid yn dod ac yn cael ei labelu fel rheolaeth wael ar newid. Mae llinell ddi-dor yn dechrau o'r un pwynt ond yn symud yn raddol allan o Gysur/diogelwch i lefelau is Pryder/ansicrwydd, cyn dychwelyd i Gysur/diogelwch. Mae'r llinell hon yn darlunio profiad y gweithwyr o dan reolaeth ragorol ar newid.