Transcript

ZAINAB AL MUHARRAMI:
Zainab yw fy enw i. Rwy'n Ddadansoddwr Cynnwys Technegol yn iungo Solutions, sef darparwr hyfforddiant. Ac mae fy rôl o fewn y cwmni yn un dechnegol a chreadigol. Felly, rwy'n helpu gyda'r strategaeth cynnwys a phostiadau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â phethau fel y wefan a datblygu cynnwys codio.
Gwnes gais ar gyfer nifer o rolau ar ôl i mi raddio o'r brifysgol. Ar y dechrau, a dweud y gwir, roeddwn i'n chwilio am rolau ym maes seiberddiogelwch gan mai gradd yn y maes hwnnw y gwnes i ei hennill yn y brifysgol. Ond oherwydd fy mod yn chwilio yn ystod COVID, cefais hi'n anodd iawn dod o hyd i swyddi. Yn y pen draw, penderfynais ddilyn rhaglen codio yn annibynnol, a dysgais sut i godio drwy'r rhaglen honno. Ac yna gwnes gais am y rôl hon drwy gynllun i raddedigion.
PORNNARAI NILDUANG:
Helo, Ploy yw fy enw i. Rwy'n gweithio i iungo Solutions fel Swyddog Gweithredol Adnoddau Dynol a Recriwtio. Gwnes gais am fy rôl bresennol drwy raglen Kickstart. Felly roedd yn sefyllfa lle daethon nhw i'r ganolfan waith i gyfweld â llwyth o ymgeiswyr. Ac fel mae'n digwydd, roeddwn i'n un ohonyn nhw.
Fel myfyriwr, efallai na fyddwch chi'n meddwl bod rhwydwaith eang ar gael i chi. Ond rwy'n credu bod estyn allan, creu eich proffil LinkedIn, yn help mawr i estyn allan i'ch cyn-fyfyrwyr, sy'n gyfle gwych, yn fy achos i o leiaf, yn enwedig os ydych mewn diwydiant lle dydych chi ddim yn siŵr a ydych am fod yn rhan ohono ai peidio, dim ond i gael y profiad ac maen nhw bob amser yno i'ch helpu.
Unwaith eto, gallech ddilyn cyrsiau er mwyn gwella eich sgiliau os nad ydych yn meddwl bod gennych y cymwysterau neu'r profiad sydd eu hangen - mae cyrsiau am ddim neu am ffi, ar-lein neu wyneb yn wyneb ar gael. Bydd hynny yn sicr yn helpu hefyd.
JESSICA LEIGH JONES:
Jessica Leigh Jones ydw i. Fi yw Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr iungo Solutions a chyn-gadeorydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru. Fi hefyd yw awdur y papur gwyn sy'n edrych ar rôl timau dysgu a datblygu wrth alluogi symudedd cymdeithasol yn y gweithle, a ysgrifennwyd ar y cyd â'r Brifysgol Agored a TrainingZone.
O safbwynt personol, fel cyflogwr sefydliad digidol, felly sefydliad gweithio o bell yn gyntaf, byddwn i'n dweud mai'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithredu'n effeithiol yn yr amgylchedd hwn ac i fod yn llwyddiannus a datblygu yn yr amgylchedd hwn fyddai sgiliau cyfathrebu rhagweithiol, oherwydd byddwch yn treulio llawer o amser yn gweithio pethau allan ar eich pen eich hun.
PORNNARAI NILDUANG:
O ran sut rydym yn recriwtio pobl, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o gwmnïau'n recriwtio ar gyfer rôl benodol. Ond rydym yn recriwtio ar eu cyfer fel person. Felly er ein bod yn edrych ar y rôl y bydd rhywun wedi gwneud cais amdani, os bydd rolau eraill sy'n addas ar ei gyfer, yn ein barn ni, byddwn yn awgrymu'r rolau hynny hefyd. Felly rydym yn edrych ar yr unigolyn ei hun yn hytrach na'i CV, ac yn ei baru yn unol â hynny. Felly, pan fyddwn yn penodi rhywun newydd, byddwn bob amser yn edrych ar ei bersonoliaeth.
Rydym yn cynnal cyfweliadau mewn ffordd ychydig yn wahanol i lawer o gwmnïau corfforaethol. Felly, mae gennym banel cyfweld sy'n cynnwys y bobl y bydd yr unigolyn yn gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd. Felly, pe bai rhywun yn cael ei gyfweld ar gyfer un o'n rolau technegol, byddem yn cynnwys y tîm technegol. Byddem yn paratoi aelodau'r tîm ar gyfer y cyfweliad ac yn gofyn iddyn nhw weld a chael teimlad o'r person y byddan nhw'n gweithio gydag ef. Os yw'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen, gwych! Os nad yw'n meddu ar y sgiliau hynny ond mae ganddo'r agwedd a'r cymhelliant a'r uchelgais ar gyfer y rôl honno, byddwn yn ystyried a yw'n addas ar gyfer ein tîm. Ac os yw'n addas, byddwn yn trefnu iddo gwblhau'r cyrsiau angenrheidiol.
Yn amlwg, byddem yn annog rhywun i gael ychydig o brofid yn dibynnu ar y rôl y mae'n gwneud cais amdani. Os nad oes ganddo lawer o brofiad, ond mae ganddo'r cymhelliant a'r brwdfrydedd, yna byddwn yn ei ystyried yn gryf fel ymgeisydd.