Transcript
PORNNARAI NILDUANG:
Byddwn yn dweud mai fy mhrif gyngor fyddai ymchwilio'n drylwyr i'r cwmni, yn enwedig os mai dyna eich profiad cyntaf o weithle, er mwyn dysgu am y cwmni. A ydych yn rhannu'r un credoau? A ydych yn rhannu'r un cenadaethau? A yw'n gweddu i'r hyn rydych am ei wneud a'ch moesau?
Rwy'n credu, pan fyddwch yn chwilio am swydd a sefydlogrwydd ariannol, weithiau rydych yn colli gafael ar eich credoau personol eich hun neu'r effaith y byddai'n ei chael ar eich iechyd meddwl a'ch llesiant. Mae'r broses gyfweld yn un ddwyffordd. Rwy'n credu bod llawer o bobl yn meddwl mai proses unffordd ydyw, yn draddodiadol o leiaf. Ond erbyn hyn, rwy'n credu bod gennym y dewis i wrthod cynnig os nad yw'r cwmni hwnnw'n iawn i chi, os nad ydych yn meddwl y byddwch yn ffynnu yno neu yn y rôl honno, ac na fydd yn brofiad gwerth chweil. Rwy'n credu y dylai fod gennych y dewis hwnnw i wrthod cynnig a chwilio am rôl sy'n fwy gwerth chweil i chi.
ZAINAB AL MUHARRAMI:
Felly roedd y disgrifiad swydd a gefais yn dweud mai swydd gyfan gwbl o bell ydoedd. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n un o'r pethau a wnaeth fy nenu i'r swydd gan y byddwn yn gallu gweithio gartref a hefyd, roedd yr oriau'n gwbl hyblyg. Ac er nad oeddwn yn gwybod ar y pryd, roedd fy swydd raddedig mewn partneriaeth â chynllun Kickstart. Felly, cefais fy swydd drwy'r cynllun i raddedigion, ond roedd hefyd yn rhan o gynllun Kickstart y ganolfan waith.
Felly byddan nhw'n eich ffonio i weld sut mae pethau'n mynd bob rhyw ddeufis ar ôl i chi ddechrau Kicktart er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud yn dda yn eich swydd ac i weld a oes unrhyw beth y gallan nhw ei wneud i'ch cefnogi. Ac yna, os byddwch y penderfynu nad ydych am wneud y swydd honno neu os na fyddwch yn cael cynnig swydd ar ôl i gynllun Kickstart dod i ben, byddan nhw'n eich helpu i ddod o hyd i rywbeth arall y gallech chi fod am ei wneud.
Felly o ran adnoddau, rwy'n credu y byddai'n syniad da edrych ar gynlluniau i raddedigion. Mae llawer o rai gwahanol ar gael. A byddan nhw'n anfon negeseuon e-bost atoch pan fydd swydd newydd ar gael, a hynny mewn llawer o sectorau gwahanol fel arfer. Tanysgrifiais i gynllun a anfonodd wybodaeth am lawer o wahanol swyddi technegol, ond roedd rhai ym meysydd marchnata a chyllid hefyd. Felly mae llawer o sectorau gwahanol y gallwch ddewis ohonynt. A gallwch hefyd fynd i'r ganolfan waith. Mae'r staff yno fel arfer yn dda iawn am roi cyngor a'ch helpu i ddod o hyd i swydd.