3 Paratoi i ddechrau eich swydd newydd
Gall paratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf mewn unrhyw weithle fod yn hynod anodd, ac mae hynny'r un mor wir yn achos gweithle hybrid. Heb wybod yn union beth i'w ddisgwyl, y dull gorau o weithredu yw sicrhau eich bod wedi gwneud popeth posibl i sicrhau trosglwyddiad llyfn a di-straen.
Mewn astudiaeth bwysig o 29 o wledydd Ewropeaidd yn ystod pandemig COVID-19, canfuwyd mai tri chyfyngiad mawr gweithio o bell oedd:
cyfyngiadau'r swyddfa gartref,
ansicrwydd gwaith, ac
offer annigonol.
(Ipsen et al., 2021).
Mae'r rhain i gyd yn feysydd y dylech feddwl amdanynt cyn i chi ddechrau ar eich rôl newydd. Yn y fideos canlynol byddwch yn clywed gan Ploy a Zainab yn iungo Solutions eto, y tro hwn yn trafod ystyriaethau pwysig mewn perthynas ag ymddygiad, diwylliant, cefnogaeth a gweithleoedd mewn sefydliadau pell neu hybrid-gyntaf.
OpenLearn - Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.

