Transcript

JESSICA LEIGH JONES:
Fel cyflogwyr, gallwn greu gweithleoedd mwy cynhwysol drwy, yn gyntaf, fabwysiadu dull A triphlyg o recriwtio a chynnig cyfleoedd. Felly, ystyr A triphlyg yw agwedd yn gyntaf, wedyn gallu, ac wedyn uchelgais. Mae hynny'n golygu, yn hytrach na meddwl am gymwysterau a phrofiad blaenorol, rydym yn meddwl am y potensial sydd gan unigolion i'w gynnig i'ch sefydliad. Ac rydym yn meddwl am y meysydd lle y gallai'r unigolion hynny ddatblygu yn y dyfodol a'r gwerth y gallen nhw ei ychwanegu unwaith y byddwch wedi buddsoddi ynddyn nhw, boed hynny drwy ymchwil a datblygu, drwy intrapreneuriaeth, neu drwy ddulliau eraill. Efallai ein bod wedi penodi rhywun i rôl weinyddol sy'n digwydd gwybod llawer am y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft. Felly byddwn yn edrych ar ffyrdd o gynnwys hynny yn y rôl honno.
PORNNARAI NILDUANG:
Un o fanteision gweithio i gwmni sydd ar flaen y gad o ran gweithio hybrid, gweithio hyblyg, a gweithle 4.0 yw ein bod yn defnyddio sgiliau pawb, boed hynny o fewn eu disgrifiad swydd neu fel arall. Felly dydyn ni ddim am gyfyngu neb i'w rôl yn unig. Os bydd rhywun am weithio ar brosiect sydd y tu allan i'w adran, ac rydym yn gwybod bod ganddo'r sgiliau i wneud hynny, neu hyd yn oed os nad oes ganddo'r sgiliau hynny, byddwn yn ei annog i ddysgu sgiliau newydd a datblygu ei sgiliau presennol. Rwy'n credu bod mwy o gwmnïau'n gwneud hynny, yn ymddiried ym mlaengaredd eu cyflogeion, ac yn gweld sut mae pethau'n mynd.
JESSICA LEIGH JONES:
Felly mae'r fframwaith hwn yn helpu cyflogwyr i gymryd y safbwynt ehangach tymor hwy hwnnw o ran y ffordd maen nhw'n datblygu eu gweithlu i gyflawni'r gorau. Mae angen i sefydliadau newid eu modelau busnes a chreu strategaethau newydd er mwyn symud ymlaen mewn oes newydd. A dyma lle mae intrapreneuriaeth yn bwysig.
Felly yn hytrach na bod yn ymyrraeth ymchwil a datblygu ffurfiol, mae intrapreneuriaeth yn ymwneud yn fwy â manteisio ar brofiadau, rhinweddau a phriodweddau unigryw gweithlu cymdeithasol amrywiol er mwyn helpu i ddatblygu sefydliad i'r lefel nesaf. Felly mae'n ymwneud ag arloesi. Ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn meddwl bod yn rhaid i chi fod yn entrepreneur, bod yn rhaid i chi ddechrau eich busnes eich hun er mwyn bod yn entrepreneuraidd. Ond mewn gwirionedd, dyma'r union fath o rinweddau y mae pobl gymdeithasol amrywiol yn gallu eu cynnig i gwmnïau i'w helpu i ddatblygu'n gynt.
Meddylfryd yw intrapreneuriaeth, y gallwn ei fabwysiadu ar bob lefel o'r busnes, ond yn enwedig o ran yr unigolion hynny a all fod wedi'u tangyflogi. Mae'n gyfle da iawn i wella eu proffil, i'w noddi i weithio ar fenter newydd, ac i feithrin eu hyder a'u datblygiad a'u symudedd cymdeithasol o fewn y sefydliad.
Felly rydym wedi datblygu fframwaith o fewn yr adroddiad sy'n helpu cyflogwyr i feddwl mewn ffordd gyfannol am y ffordd maen nhw'n recriwtio, yn gwobrwyo, ac yn cadw talent gymdeithasol amrywiol yn eu sefydliadau. Felly, meddwl am anghenion allweddol y busnes, meddwl am y bylchau o ran sgiliau, edrych ar feysydd gwahanol o'r busnes y gallwn dynnu sgiliau ohonyn nhw nad ydym o bosibl wedi meddwl amdanyn nhw.
Felly, yn gyntaf ac yn bennaf, byddwn yn dweud wrthych am fabwysiadu dull A triphlyg. Yn ail, byddwn yn dweud wrthych am greu gweithle cynhwysol - mae angen i ni greu diwylliant o ddealltwriaeth. Felly mae angen i ni ddeall amrywiaeth gymdeithasol ein gweithlu, er mwyn i ni allu nodi a datblygu dulliau i fynd i'r afael â rhwystrau penodol fel ein bod yn sicrhau tegwch ac yn cynnig yr un cyfle i bawb wneud eu gorau.