Transcript
ZAINAB AL MUHARRAMI:
Fe wnes i gais am y rôl bresennol hon gan ddefnyddio cynllun i raddedigion. Y broses gyfweld ar gyfer hwnnw oedd dau gyfweliad â’r cynllun i raddedigion, ac yna un cyfweliad ag iungo. Ac wedyn ar ôl y broses honno, ges i'r swydd. Y broses gyfweld oedd fy mod wedi llwyddo i ddod trwy'r cyfweliad grŵp â’r cynllun graddedigion, a oedd wedyn yn fy rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliadau iungo.
Cefais gyfweliad â dau unigolyn o'r tîm technoleg a'n dynes Adnoddau Dynol, Ploy. Ac fe wnaethon nhw ofyn rhai cwestiynau i mi am fy nghefndir a’m profiad, a dywedais wrthyn nhw nad oedd gen i lawer o brofiad yn y diwydiant codio mewn gwirionedd, oherwydd fy mod newydd ddysgu fy hun sut i godio. Ac mi wnes i'r rhaglen, a oedd yn gwrs i ddechreuwyr. A dyma nhw'n dweud ei fod yn iawn, ac y byddwn i'n gallu dysgu mwy yn y gwaith beth bynnag. Felly roedd hynny'n gwneud i mi deimlo'n well am y swydd.
PORNNARAI NILDUANG:
Hi, fy enw i yw Ploy. Rydw i'n dod o iungo Solutions ac rydw i’n gweithio fel Swyddog Gweithredol Adnoddau Dynol a Recriwtio. Fe wnes i gais am fy rôl bresennol trwy’r rhaglen ‘kickstart’. Felly roedd yn ddiwrnod pan ddaethon nhw i'r ganolfan waith i gyfweld â llwyth o ymgeiswyr, ac roeddwn i'n digwydd bod yn un ohonyn nhw.
Felly, bûm yn sgwrsio am gyfnod byr ag un o'r bobl uwch. Ac yna, ges i gyfweliad ffôn manwl â Phrif Swyddog Gweithredol y cwmni. Roedd yn weddol hamddenol, yn sgyrsiol. O'i gymharu â'r rolau eraill roeddwn wedi gwneud cais amdanyn nhw, byddwn i'n dweud ei fod ychydig yn llai ffurfiol. Felly roedd gan y rhan fwyaf o'r rolau eraill brosesau gwneud cais eithaf hir, profion personoliaeth efallai, ac yna byddech chi'n mynd i mewn am gyfweliad. Ac yna o bosib, gallai fod yn un-i-un neu bydd yn gyfweliad grŵp. Os oedd yn gyfweliad grŵp, bydden ni'n cael ein gwahodd yn ôl am gyfweliad unigol, ac yna'n cael gwahoddiad eto am ddiwrnod profiad. Ac yna byddan nhw'n dweud wrthych chi beth oedd canlyniad hynny. Felly o'i gymharu â'r rolau eraill dwi wedi gwneud cais amdanyn nhw, roedd yr un yma'n eithaf byr a syml.
Felly o ran rhwystrau, dwi'n meddwl mai proses gwneud cais hir, gymhleth fyddai’r prif un, yn enwedig os ydych chi'n niwrowahanol. Felly os nad ydych chi'n dda â rhestrau a sawl cwestiwn, dwi'n meddwl y byddai'n achosi dipyn o straen. Felly byddwn i'n argymell pobl sy'n niwrowahanol, yn teimlo straen o wneud hynny, i ofyn i aelod o'r teulu fynd trwy’r broses â nhw ar lafar a'u helpu trwy’r broses.
Gan ddibynnu ar y rôl rydych chi'n ei gwneud, efallai y bydd gofyn i chi wneud tasg dechnegol. Felly mae'r rhyngrwyd yn gyfoeth o wybodaeth. Felly rwy'n bendant yn argymell pobl i wneud eu hymchwil yn drylwyr ar y cwmni. Mae yna lawer, yn enwedig, os ydych chi'n mynd am gwmni adnabyddus, corfforaethol iawn, bydd cwestiynau cyfweliad, a phrofion, a stwff. Felly yn bendant, meddyliwch am eich cwestiynau, yn enwedig os oes gennych gyfweliad rhithwir. Dydyn nhw ddim yn gallu gweld eich gliniadur, felly os dymunwch roi nodiadau nesaf at eu hwynebau, dwi'n golygu, dyna wnes i pan ges i gyfweliadau, ac mae'n dipyn o hac fach, yn enwedig os yw'n gwmni eithaf mawr, ac mae ganddyn nhw lawer o wybodaeth allan yna.