Transcript
ZAINAB AL MUHARRAMI:
Diwrnod cynefino oedd fy niwrnod cyntaf o waith. Cefais gyfarfod grŵp â dau o'r newydd-ddyfodiaid a'n swyddog adnoddau dynol, Ploy, a roddodd gyflwyniad i ni i'r cwmni a'n gwaith, a gwnaeth ein cyflwyno i'n gilydd fel bod gennym bobl i siarad â nhw a ymunodd ar yr un pryd â ni. Ar ôl hynny, cefais gyfarfod â fy rheolwr a aeth drwy fanylion fy rôl yn y cwmni, yr hyn y byddwn yn ei wneud, manylion y prosiect roeddem yn gweithio arno ar y pryd, a hefyd pwy y gallwn siarad â nhw pe bai angen help neu gymorth arnaf gydag unrhyw beth.
Yna, cawsom gyfarfod grŵp â phawb ar draws y cwmni gan fod iungo, wel, yn gwmni eithaf bach ar y pryd. Doedd dim llawer o bobl. Diben y cyfarfod grŵp oedd cyflwyno pawb i'w gilydd, ac er mwyn i mi allu ymgyfarwyddo Ac roedd croeso i ni ofyn unrhyw gwestiynau i unrhyw un. A bydden nhw'n barod i helpu.
Felly roedd y profiad cynefino yn eithaf da. Cawsom y wybodaeth am y cwmni ei hun. Cawsom y llawlyfr staff a gwybodaeth berthnasol am y rôl ei hun. A chawsom wybod at bwy y gallem fynd pe bai angen help neu gymorth, y cyfeiriadau e-bost gwahanol y byddai eu hangen arnom ar gyfer gwybodaeth gyswllt wahanol.
Wrth weithio gartref, mae'n bwysig bod gennych ardal benodol i weithio. Penderfynais droi ystafell wag yn fy nhŷ yn swyddfa, drwy ychwanegu desg, fy ngliniadur, a chadair desg. A defnyddiais yr ystafell honno yn benodol i weithio, er mwyn i mi allu gwahanu fy ngwaith oddi wrth fy mywyd bob dydd.
Mae'n bwysig creu cynllun hefyd ar gyfer eich diwrnod os ydych yn gweithio gartref, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cymryd eich seibiannau ar yr adeg gywir. A'ch bod yn gweithio-- eich oriau contract heb fynd dros yr amser hwnnw. Mae'n bwysig hefyd nad ydych yn oedi cyn gwneud rhywbeth a'ch bod yn gwneud yr hyn rydych i fod i'w wneud yn hytrach na meddwl, 'Wna i hwnnw'n hwyrach'. Ond wedyn, yn y pen draw, dydych chi ddim yn ei wneud ac yna rydych o dan bwysau i gyrraedd terfynau amser ac ati.
Ond mae'n bwysig eich bod yn cymryd seibiant yn ystod y dydd hefyd er mwyn mynd am dro i ymestyn eich coesau, gwneud rhywbeth, gan eich bod yn eistedd am oriau ar y tro wrth eich cyfrifiadur. Ac mae'n bwysig iawn eich bod yn eistedd yn ôl, yn cymryd seibiant, ac yn codi o'ch amgylchedd gwaith.
Mae ein cyfarfodydd i gyd yn cael eu cynnal drwy Google Teams. Felly mae'n rhaid eich bod yn gallu defnyddio'r dechnoleg honno a gwybod sut i gyfathrebu â phawb ar-lein. Felly yn wahanol i gyfarfodydd personol, lle y gallwch siarad â rhywun wyneb yn wyneb, mae angen i chi wybod sut i lunio'r negeseuon e-bost proffesiynol hynny a sut i drefnu'r cyfarfodydd hynny ag aelodau eraill o'r tîm.
Rydym hefyd yn defnyddio apiau gwahanol o fewn iungo, yn enwedig o fewn y tîm technegol, a phan ddechreuais, doeddwn i ddim yn gyfarwydd â phethau fel GitHub a'r stiwdio codio rydym yn eu defnyddio. Felly roedd yn eithaf brawychus ar y dechrau oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod sut i ddefnyddio'r rheini. Ond fel sy'n wir am unrhyw swydd-- os dydych chi ddim yn gyfarwydd â rhywbeth, gallwch ofyn am help a bydd pobl yn gallu eich helpu. Ac maen nhw'n fwy na hapus i'ch helpu, er mwyn i chi allu datblygu'r sgiliau hynny a defnyddio'r holl raglenni y mae angen iddyn nhw eu defnyddio.
Mewn gwirionedd, mae gweithio yn y swyddfa yn wahanol iawn i weithio gartref. Felly rydym yn dod i'r swyddfa unwaith yr wythnos. Ac rwy'n teimlo, pan fyddaf yn y swyddfa-- wel, pan wnaethom ddechrau dod i'r swyddfa yn gyntaf, roeddwn yn llawer mwy cynhyrchiol yn y swyddfa o gymharu â gartref. A'r rheswm dros hynny yw am fy mod yn gwybod bod pobl arall o'm cwmpas yn gweithio. Ac felly, roedd yn rhaid i mi weithio hefyd.
Ond, yn y pen draw, gwnaethom newid strwythur y cyfarfodydd roeddem yn eu cael fel ein bod yn cael cyfarfodydd dyddiol. A gyda'r cyfarfodydd dyddiol yna wedyn, oherwydd bod yn rhaid i chi ddangos eich cynnydd a dweud yn union beth roeddech wedi bod yn ei wneud, hyd yn oed wrth weithio gartref, roedd rhywun yn dal i gadw llygad arnoch. Felly rwy'n credu bod hynny wedi fy ngwneud yn fwy cynhyrchiol wrth fy ngwaith. Roeddwn yn gwneud yn siŵr fy mod yn gosod tasgau dyddiol i fi fy hun y byddwn yn gallu eu cyflawni. Roeddent yn debyg i'r tasgau y byddwn yn eu gwneud yn y swyddfa, ond roeddwn yn gallu eu gwneud gartref.
Rhywbeth arall sy'n wahanol i weithio yn y swyddfa yw eich bod, yn amlwg, ar eich pen eich hun, felly does neb yn gweithio gyda chi. Ac mae'n wahanol. Ac os bydd angen help arnoch gyda rhywbeth, allwch chi ddim codi a mynd i'r ystafell nesaf i siarad â rhywun neu ofyn am help gan rywun sy'n eistedd wrth eich ymyl. Mae'n rhaid i chi e-bostio rhywun neu drefnu cyfarfod. Felly mae'n cymryd mwy o amser i rywun ddod yn ôl atoch pan fydd angen help arnoch, ond mae'n rhaid i chi ddysgu bod yn amyneddgar a byddwch yn cael yr atebion sydd eu hangen arnoch.