Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Addasu i newid

I lawer o bobl, mae dechrau gweithio neu newid gyrfaoedd yn newid mawr y mae angen arnynt addasu iddo. Gall fod yn gyffrous ac arwain at nifer o gyfleoedd. Gall hefyd gofyn am rywfaint o gynllunio i wneud y gorau o'r swydd newydd, a’r newidiadau y gallai eu golygu ar gyfer eich amgylchiadau personol.

Wrth ymuno â'r gweithlu hybrid, mae angen dysgu nifer o sgiliau ac ymddygiadau penodol er mwyn llwyddo i reoli’r disgwyliadau newydd a allai fod gan eich cyflogwr.

Mae rheoli newid wedi bod yn faes trafod yn y gweithlu ers amser maith, ond dim ond yn ddiweddar y trafodwyd rheoli newid a gweithio hybrid â’i gilydd (Power, 2021; Lenka, 2021). Gellir defnyddio modelau traddodiadol i ddangos sut y gall newid sylweddol, fel symud i'r gweithlu hybrid am y tro cyntaf, arwain at fwy o bryder, anfodlonrwydd, a gostyngiad mewn cynhyrchiant.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 1: Model Risg-Hedfan Prosci (Prosci, 2004)
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 2: Cromlin Trawsnewid Personol Fisher (Fisher, 2012)

Mae amrywiaeth o fodelau rheoli newid, fel y rheiny yn Ffigyrau 1 a 2, yn darlunio problemau tebyg, hynny yw, heb reoli newid yn briodol yn yr amgylchedd gwaith, gall unigolion wynebu ofn, gwrthwynebiad, ac iselder, y mae pob un ohonynt yn gostwng yn sylweddol eu gallu i weithio'n effeithiol (Fisher, 2012; Prosci, 2004). Dyma pam ei bod mor bwysig bod yn barod ar gyfer newid, deall yr anawsterau y gallech eu hwynebu, a gwella unrhyw sgiliau y gallai fod eu hangen i helpu i reoli'r newid hwn.

Gweithgaredd 2 Delio â newid

Timing: 5 munud

Edrychwch ar Gromlin Fisher (Ffigwr 2) a meddwl am gyfnod pan rydych wedi wynebu newid sylweddol.

  • Ble ddaethoch chi o hyd i chi’ch hun ar y gromlin?

  • Os oedd mewn rhan negyddol o'r gromlin, sut wnaethoch chi oresgyn y teimladau hynny?

  • Os oedd mewn rhan bositif o'r gromlin, sut wnaethoch chi fanteisio i’r eithaf ar y teimladau hynny?

Gadael sylw

Mae pawb yn ymateb yn wahanol i newid, felly nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir. Efallai y byddwch yn darganfod eich hun ar wahanol bwyntiau ar y gromlin ar wahanol gyfnodau o fewn un newid. Os ydynt yn teimlo'n flin neu'n ofnus, mae rhai pobl yn teimlo bod siarad â ffrindiau a chydweithwyr yn ddefnyddiol. Efallai y bydd cymorth ar gael trwy eich sefydliad, neu mae elusennau fel Mind yn darparu gwybodaeth ar eu gwefan a allai fod o ddefnydd. Mae hefyd yn bwysig adeiladu ar adegau pan fyddwch chi'n teimlo'n hapus ac wedi cyffroi; efallai y gallech rannu eich syniadau o sut y gallai'r newid fod o fudd i chi a’ch cydweithwyr, neu wneud awgrymiadau i wneud y newid hyd yn oed yn well?