Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Dysgu o bob ymgais

Fel yn achos unrhyw gais am swydd, mae angen i chi ddod i arfer â bod yn aflwyddiannus. Amcangyfrifir y gall gymryd hyd at 80 o geisiadau am swyddi cyn i rai pobl dderbyn cynnig (Zippia, 2022). Mae yna filoedd o ymgeiswyr profiadol, felly'r peth pwysig yw peidio â phoeni pan nad ydych yn llwyddiannus, yn hytrach ceisiwch ddysgu o'ch profiad.

Gweithgaredd 5 Gwneud gwrthodiad yn bositif

Timing: 5 munud

Meddyliwch am gyfnod pan oeddech chi'n wynebu gwrthodiad. Beth wnaethoch ei ddysgu ohono? Sut wnaethoch ddefnyddio'r profiad hwn i'ch helpu i wella yn y tymor hwy, neu sut allech ei ddefnyddio yn y dyfodol?

Gadael sylw

Gall gwrthodiad fod yn anodd, yn enwedig os oeddech yn teimlo bod cyfweliad wedi mynd yn dda. Mae datblygu strategaethau ymdopi, a dysgu ymdopi, yn rhan bwysig o adeiladu eich gwytnwch. Gwyliwch y fideo Job Rejection: How to deal with Rejection [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar YouTube, lle mae Cindy Makita-Dodd, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol PEMA, yn awgrymu pedwar cam i ddelio â gwrthodiad:

  • Digolledu
  • Rhesymu
  • Dargyfeirio
  • Codi (Recoup Reason Redirect Rise).

Weithiau, byddwch yn cael adborth gan y cyflogwr ynglŷn â pham na chawsoch y swydd. Gall hyn amrywio o beidio â meddu ar ddigon o brofiad perthnasol ar eich CV, i ansawdd eich atebion mewn cyfweliad, neu'n syml bod ganddynt ystod fawr a chryf iawn o ymgeiswyr. Y gobaith yw y gallant roi ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i chi (os na fyddant, gallwch bob amser ofyn) y gallwch fynd ymlaen i’w defnyddio yn achos rolau eraill. Sicrhewch eich bod yn diweddaru eich CV/llythyrau eglurhaol ag unrhyw wybodaeth newydd, a cheisiwch wella eich techneg cyfweliad ar sail ar unrhyw adborth a roddir i chi.