2.5 Cyn derbyn swydd
Os ydych wedi dod trwy'r broses gyfweld ac wedi cael cynnig y swydd, llongyfarchiadau! Fodd bynnag, cyn derbyn cynnig swydd, mae'n bwysig cymryd golwg dda ar y sefydliad a deall beth yn union y gofynnir i chi ei wneud. Ond yn bwysicaf oll efallai, sut beth yw'r model gweithio hybrid yn y sefydliad?
Mae angen i chi archwilio eu gosodiad gwerth gweithwyr (strategaeth) ar gyfer gweithio hybrid, a pha mor drefnus ydynt o ran dyddiau i mewn/allan o’r gwaith (Sto, 2022). Trwy ddeall yr amserlen a'u cynlluniau at y dyfodol, byddwch yn gallu gweld sut mae hyn yn gweithio i chi. Mae hefyd yn bwysig oherwydd ei bod yn dangos faint y gallai sefydliad ofalu am les eu gweithwyr. Os nad oes ganddynt werthoedd a strwythur clir, gallech gael patrwm gwaith nad yw'n addas i chi yn y pen draw: er enghraifft, rôl hollol o bell neu amgylchedd hollol wyneb-yn-wyneb.
Dylech hefyd edrych ar ddiwylliant y sefydliad, a gweld a yw'n cyd-fynd â'ch personoliaeth. Mae mwy na thraean o gyflogwyr yn cael trafferth i gynnal diwylliant cwmni priodol (Sto, 2022).
Fel mae Ploy a Zainab yn awgrymu yn y fideo isod, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod y diwylliant yn cyd-fynd â'ch credoau a'ch gwerthoedd eich hun. A yw’r amgylchedd gwaith yr hyn rydych yn chwilio amdano? A yw’r oriau gwaith yn addas i chi?
Transcript
Mae angen i chi sicrhau bod y diwylliant sefydliadol yn rhywbeth rydych yn teimlo'n gyfforddus ag ef, oherwydd ei fod yn hynod bwysig, ac ni ellir peidio â sylweddoli ei bwysigrwydd wrth benderfynu a ddylid derbyn cynnig swydd ai peidio.