Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Eich swyddfa gartref

Fel y clywsoch yn y fideos yn yr adran flaenorol, mae cael lle pwrpasol ar gyfer eich gweithio o bell yn well, os yw’n bosibl. Mae pethau yn y cartref sy’n tynnu sylw yn un o'r prif broblemau sy'n effeithio ar gynhyrchiant yn y gweithle cartref (Franken et al., 2021). Yn ddelfrydol, dylech ddewis lleoliad sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn unig, â lle i bopeth sydd ei angen arnoch i gyflawni eich rôl. Dylid cael cyn lleied o sŵn â phosibl hefyd: mae ymchwil wedi dangos bod ffactorau fel cael mwy o blant yn y tŷ yn gallu effeithio'n negyddol ar gynhyrchiant gwaith (Franken et al., 2021). Felly rhywle na fydd aelodau eraill o'ch aelwyd yn crwydro i mewn yn annisgwyl bydd y lleoliad gorau posibl ar gyfer eich swyddfa gartref.

Dylech hefyd gymryd gofal wrth osod eich gwe-gamera a meicroffon. Dylai'r rhain fod o ansawdd priodol, a dylech geisio dod o hyd i gefndir proffesiynol (neu blaen). Galwadau fideo yw un o nodweddion amlycaf y gweithle hybrid, felly gall cael cefndir proffesiynol helpu i atal unrhyw adegau sy’n codi cywilydd pan fyddwch chi'n dechrau gyntaf. Yn ddelfrydol, dylai’ch gweithfan gael ei lleoli fel nad yw unrhyw un (gan gynnwys unrhyw anifeiliaid anwes) yn gallu cerdded y tu ôl i chi ac ymddangos ar y camera.

Fodd bynnag, dyma'r dull delfrydol o weithredu, ac un o'r manteision yn sgil pandemig COVID-19 yw'r profiad gweithio o bell a rennir. Mae'r rhan fwyaf o weithleoedd a chydweithwyr yn deall bod pobl sy’n byw yn yr un cartref â ni, plant ac anifeiliaid anwes yn rhan o'n bywyd gwaith, ac wedi esblygu i fabwysiadu dull mwy cynhwysol o weithredu sy'n derbyn bod ein bywydau cartref a'n gwaith yn gwrthdaro weithiau.

Gweithgaredd 6 Cynllunio eich swyddfa gartref

Timing: 5 munud

Meddyliwch am eich cartref eich hun. Ar sail y cyngor uchod, ble fyddai'r lle gorau i'ch swyddfa gartref? Pam?