Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Yr offer iawn

Yn y gweithle pell, mae nifer o offer y dylech fod yn gyfarwydd â nhw (o'ch astudiaethau, neu efallai eich bod eisoes yn eu defnyddio gartref), ac mae llawer ohonynt wedi dod yn anghenraid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Ffigwr 3 yn rhoi trosolwg o rai o'r offer sydd ar gael i sefydliadau.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3: Offer gweithio o bell (Yang, 2020)

Peidiwch â chael eich llethu gan y gwahanol raglenni a systemau sy'n helpu i yrru gwaith hybrid, oherwydd y gallech fod yn gyfarwydd â rhai ohonynt eisoes, ac mae'n annhebygol y bydd angen i chi ddefnyddio pob un o'r rhai a ddangosir yn Ffigwr 3. Mae’n weddol hawdd mynd i'r afael â llawer ohonynt, felly os dymunwch ennill y blaen, mae llawer o'r cwmnïau a'u datblygodd yn cynnig mynediad am ddim, canllawiau i ddefnyddwyr neu diwtorialau ar eu gwefannau; fel arall, gallech chwilio ar-lein am fideos sut-i-wneud.

Fodd bynnag, mae'n bwysig i chi ddeall yr offer sylfaenol y mae’ch cwmni newydd yn eu defnyddio. Oes ganddynt system rheoli llif gwaith? Sut maent yn cyfathrebu? Gallai fod yn ddefnyddiol gofyn y cwestiynau hyn cyn i chi ddechrau, oherwydd gallai mynd i'r afael â rhai o'r rhaglenni hyn eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus yn eich rôl newydd.

Gweithgaredd 7 Ymchwilio i offer gweithio o bell

Timing: 20 munud
  1. Archwiliwch y ffigwr uchod o offer gweithio o bell. Faint o'r rhain ydych yn eu nabod? Oes unrhyw rai rydych yn ei ystyried yn hanfodol sydd ar goll? Ymchwiliwch i rai o'r offer efallai nad ydych wedi clywed amdanynt.

  2. Darllenwch yr erthygl hon: Top 22 work from home tools to make your remote work life easy [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Kashyap, dim dyddiad). Faint o'r offer gweithio-o-gartref hyn fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer yr yrfa dymunwch ddechrau ynddi?