3.1.2 Eich llesiant digidol
Soniwyd yn gynharach y byddai'r cwrs hwn yn archwilio llesiant o bersbectif digidol, yn seiliedig ar elfen 'Llesiant Digidol' Fframwaith Datblygu Galluoedd Digidol Jisc (Jisc, 2018). Gadewch i ni edrych ar honno nawr.
Digital wellbeing is a term used to describe the impact of technologies and digital services on people’s mental, physical, social and emotional health.
Weithiau, gall gweithio hybrid, cyfathrebu a chydweithio digidol fod yn heriol neu drwm, a gall effeithio ar eich llesiant.
Gall fod yn fwy anodd datblygu diwylliant sefydliadol a magu ymddiriedaeth mewn amgylcheddau gweithio hybrid. Datblygir diwylliant ac ymddiriedaeth drwy gysylltiadau dynol, ac fel bodau dynol, rydym wedi gorfod addasu er mwyn gallu datblygu'r rhain, yn wyneb yn wyneb ac yn y byd rhithiol, digidol.
Er bod y sefyllfa yn dal i ddatblygu, mae'n werth gofyn cwestiynau megis: A ydym ni wedi addasu? Sut mae'n wahanol nawr? Os feddyliwch chi sut ydych yn gweithio gyda'ch cydweithwyr a'ch sefydliad ar ôl COVID-19, efallai eich bod wedi sylwi bod eich diwylliant a'ch ymddiriedaeth wedi datblygu'n naturiol, a'ch bod wedi addasu i ffyrdd o weithio hybrid. Efallai fod rhai ohonoch chi wedi sylwi bod gennych lefel uwch o ymddiriedaeth yn y rheini yr ydych yn byw gyda nhw, gan eich bod wedi bod drwy brofiad tebyg. Yn ogystal, mae bod yn amgylchedd eich cartref yn gallu arwain atoch yn teimlo'n fwy diogel, oherwydd ei fod yn gyfarwydd, a gall hynny wella'ch ymdeimlad o lesiant.
Gweithgaredd 4 Effaith technoleg ddigidol ar eich llesiant
Edrychwch yn ofalus ar y diagram isod.
- Ystyriwch sut all technolegau wella eich llesiant digidol yn y gwaith drwy adnabod yr effeithiau cadarnhaol a negyddol maent wedi'u cael, naill ai o'ch profiad eich hun neu'r rheini yr ydych wedi sylwi arnynt ymhlith eich cydweithwyr.
- Yn eich barn chi, pa gapasiti sydd gennych chi i newid eich ymarferion digidol i wella'ch llesiant?

Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.
Discussion
Mae gallu 'Hunaniaeth Ddigidol a Llesiant' Jisc yn cynnwys y gallu i:
- warchod iechyd, diogelwch, perthnasoedd a chydbwysedd gwaith–bywyd personol mewn cyd-destun digidol
- defnyddio adnoddau digidol mewn ymgais i gyflawni nodau personol (e.e. iechyd a ffitrwydd) a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol
- gweithredu'n ddiogel a chyfrifol mewn amgylcheddau digidol
- rheoli llwyth gwaith digidol, gorlwytho a phethau sy'n denu sylw oddi wrth y gwaith
- gweithredu gyda phryder am yr amgylchedd dynol a naturiol wrth ddefnyddio adnoddau digidol.
Sut mae hyn yn berthnasol i'ch ymateb i'r gweithgaredd hwn?
Yn ôl Jisc (2019b), i unigolion mewn cyd-destun addysg, mae llesiant digidol yn 'cysylltu'n agos â'u llesiant personol a'u llesiant digidol cymdeithasol, ac i ddatblygu a rheoli eu hunaniaethau a'u hôl troed proffesiynol a digidol.'
Yna gwyliwch y fideo lle mae Sas Amoah, Cynhyrchydd Cyfryngau Digidol yn Y Brifysgol Agored, yn rhannu sut mae'n rheoli ei lesiant digidol.
Mae model Jisc yn canolbwyntio ar bedwar cyd-destun – cymdeithasol, personol, dysgu a gwaith – a all eich helpu chi i ystyried meysydd yr hoffech ganolbwyntio arnynt er eich llesiant eich hun o bosibl. Mae'r rhain wedi'u rhestru yn Nhabl 3.
Tabl 3
| Cyd-destun llesiant digidol | Ffactorau cadarnhaol | Ffactorau negyddol |
|---|---|---|
| Ffactorau cymdeithasol |
|
|
| Personol |
|
|
| Dysgu |
|
|
| Gwaith |
|
|
Dyma rai o'r awgrymiadau mae Jisc yn eu hawgrymu i helpu i wella'ch llesiant digidol:
- Gofynnwch am hyfforddiant a chefnogaeth gyda'r systemau a'r adnoddau digidol sy'n berthnasol i'ch swydd, er mwyn i chi allu eu defnyddio'n effeithiol a diogel.
- Treuliwch amser yn archwilio a deall eich dewisiadau a'ch anghenion digidol.
- Ystyriwch effaith gweithgareddau digidol ar eich iechyd ac iechyd eraill.
- Rheoli eich gweithlu digidol drwy ddysgu sut mae defnyddio adnoddau yn effeithiol, rheoli'ch negeseuon e-bost ac osgoi pethau sy'n denu'ch sylw.
- Creu hunaniaeth ddigidol gadarnhaol.
Bydd nifer o'r rhain yn cael eu harchwilio yn Adrannau 4 a 5 o'r cwrs hwn.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.

