3.2 Cefnogi llesiant eich cydweithwyr
Dechreuodd yr adran hon drwy ofyn i chi ystyried eich llesiant eich hun yn y gwaith. Nawr mae'n amser i chi feddwl am lesiant eraill – eich cydweithwyr.
Gweithgaredd 5 Sut allwch chi helpu eraill?
Darllenwch yr erthygl fer hon (500 gair) sy'n dwyn y teitl How can I support my colleagues?, gan National Wellbeing Hub yr Alban (dim dyddiad), yna treuliwch ychydig o amser yn myfyrio ar y cwestiynau canlynol:
- Ydych chi wedi rhoi cynnig ar unrhyw rai o'r awgrymiadau yn yr erthygl? Os felly, pa mor llwyddiannus oeddent? Pa fath o ymateb a gawsant?
- I ba raddau ydych chi'n teimlo bod gennych chi gyfrifoldeb am gefnogi llesiant eich cydweithwyr yn y gwaith?
- Pa weithredoedd, syniadau, dulliau a strategaethau eraill ydych chi wedi'u hadnabod sydd â'r potensial i wella llesiant eich cydweithwyr?
Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.
Discussion
Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gyfrifoldeb ffurfiol am gefnogi llesiant eich cydweithwyr, os gofiwch chi am y model PERMA, mae helpu eraill – cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant yn y gwaith – yn ffordd rwydd o ychwanegu mwy o ystyr i'ch bywyd yn y gwaith.
Bydd rhai o'r gweithgareddau a grybwyllwyd yn yr erthygl yn cael eu harchwilio'n fwy manwl yn ddiweddarach yn Adran 5.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
