3.3 Arwain llesiant
Os ydych mewn swydd arwain, dylech fod yn:
- edrych ar y darlun ehangach, yn cadw ar flaen tueddiadau llesiant y gweithle a gosod blaenoriaethau strategol mewn modd rhagweithiol, lefel uchel, yn hytrach nag ymateb i sefyllfaoedd unigol
- ystyried llesiant eich pobl dros gylchred oes cyfan y gweithiwr, e.e. yn cynnwys cyfrifoldebau gofalu, beichiogrwydd (a cholli babi yn ystod beichiogrwydd) a chyflyrau iechyd cronig
- dangos ymddygiadau sy'n cefnogi llesiant yn y gweithle, h.y. ymarfer yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud
- helpu'ch rheolwyr, drwy gymryd cyfrifoldeb am eu llesiant a llesiant eu timau.
Mewn cyd-destun digidol, mae Jisc (2019b) wedi adnabod wyth egwyddor arfer dda ar gyfer dulliau ymdrin â llesiant digidol ar gyfer y sefydliad cyfan:
- darparu gwasanaethau cynhwysol ac ymatebol sy'n cefnogi gwaith digidol neu weithgareddau dysgu
- ymgorffori llesiant digidol ym mholisïau a strategaethau cyfredol, yn enwedig polisïau hygyrchedd a chynhwysiant
- darparu amgylcheddau ffisegol ac ar-lein diogel
- cydymffurfio â dyletswydd gofalu am staff a myfyrwyr mewn perthynas â gwaith digidol neu weithgareddau dysgu
- bodloni cyfrifoldebau moesegol a chyfreithiol mewn perthynas â hygyrchedd, iechyd, cydraddoldeb a chynhwysiant
- darparu hyfforddiant priodol, cyfleoedd addysgol, arweiniad a chefnogaeth i gymryd rhan mewn gwaith digidol neu weithgareddau dysgu
- deall effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl sydd ynghlwm wrth waith digidol neu weithgareddau dysgu ar lesiant
- darparu systemau, adnoddau a chynnwys digidol cynhwysol a hygyrch.
Am enghreifftiau o'r camau gweithredu y gallech eu cymryd i weithredu'r egwyddorion hyn, lawrlwythwch y papur briffio llawn ar gyfer uwch-arweinwyr. Gweler dolen yn yr adran Cyfeiriadau ar ddiwedd y cwrs. Yn ogystal, cyhoeddodd Jisc bapur briffio ar lesiant digidol wedi'i anelu at ymarferwyr, sy'n pwysleisio'r canlynol:
Although education organisations have a duty of care to make sure their employees and students have a safe, legally compliant and supportive digital environment to work and learn in, individuals have responsibility for aspects within their control and should take appropriate steps to ensure they achieve and maintain a positive approach to digital wellbeing.
Efallai fod cyngor Jisc wedi'i fwriadu ar gyfer cyd-destun digidol, ond mae yr un mor berthnasol i weithio hybrid.
Mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru chwe 'Newid Syml' yn ymwneud â llesiant y gallech chi, fel arweinydd, eu rhoi ar waith yn eich sefydliad. Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod mwy (agorwch nhw mewn ffenestr/tab newydd er mwyn i chi gael dychwelyd yma yn rhwydd).
Blwch 1 Newid Syml #21–22, 24–27
Newid Syml #21 Ystyried iechyd meddwl yn eich gweithle.
Newid Syml #22 Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl a hunanladdiad i bob aelod o staff.
Newid Syml #24 Darparu loceri ar gyfer eich gweithwyr.
Newid Syml #25 Cael polisi gweithio hyblyg.
Newid Syml #26 Annog eich cyflogeion i gymryd seibiant a bwyta i ffwrdd o’u desgiau.
Newid Syml #27 Annog pwyllgorau ar eich traed neu wrth gerdded, ble bo’n addas.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
