4.4 Sefydlu ffiniau

Pan ydych yn weithiwr wedi'ch lleoli gartref, nid yw'n amlwg i deulu, ffrindiau neu aelodau eraill o'ch aelwyd pa bryd ydych chi'n gweithio a pha bryd nad ydych chi'n gweithio, a pha bryd mae modd iddynt amharu arnoch chi neu nad oes modd eich amharu – mae angen i chi wneud eich ffiniau yn glir.

Does dim gwahaniaeth gan rai pobl gael negeseuon e-bost neu negeseuon y tu hwnt i oriau'r swyddfa, ond mae'n well gan eraill gadw gwaith a bywyd y tu hwnt i'r gwaith ar wahân. I ba un o'r grwpiau hyn ydych chi'n perthyn?

Os hoffech chi gael gwahaniaethu eich gwaith a'ch bywyd, ystyriwch gynnwys neges fer ynghylch eich arferion gweithio yn eich llofnod e-bost, a fydd yn helpu i reoli disgwyliadau eich cydweithwyr mewn perthynas ag amseroedd ymateb.

Defnyddiwch y nodweddion llesiant – megis ‘peidiwch â tharfu' – ar eich dyfeisiau digidol er mwyn lleihau hysbysiadau, nodi amseroedd pan na fyddwch yn edrych arnynt, neu beth am ystyried eu diffodd yn llwyr y tu hwnt i'ch oriau gwaith? Mae'r syniad o ‘ddatgysylltiad digidol’ – i'r gwrthwyneb i'r broblem bresenoliaeth – yn bwnc llosg yn y sectorau adnoddau dynol ac iechyd galwedigaethol ar hyn o bryd, fel y gwelwch yn y gweithgaredd nesaf.

O ran agweddau ar weithio hybrid sydd wedi'u lleoli ar y safle, pa ffiniau sydd yno mewn perthynas â dod i mewn i'r swyddfa? A oes gan eich sefydliad neu adran ddisgwyliadau penodol mewn perthynas â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd ar y safle? Os nad oes gennych eich desg eich hun yn swyddfa eich sefydliad, a oes canllawiau clir ynghylch ymhle a pha bryd y cewch weithio ar y safle?

Gweithgaredd 8 Datgysylltiad digidol

Caniatewch tua 30 munud

Darllenwch What is the right to digital disconnection? (1300 gair) ar wefan ifeel (Rodríguez, 2022). Mae ifeel yn fusnes sy'n cynnig adnoddau llesiant emosiynol i sefydliadau.

Wrth i chi ei ddarllen, nodwch y pwyntiau allweddol sy'n apelio atoch chi a'ch profiad o weithio hybrid/digidol. Cewch ddefnyddio'r blwch isod i nodi'ch safbwyntiau.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

I rai pobl, fel y rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu neu sy'n dioddef o salwch cronig neu anabledd, mae gweithio hybrid/digidol wedi agor drysau ar gyfer mwy o hyblygrwydd yn eu hamserlen waith. Wedi dweud hynny, mae'r perygl yn parhau bod gweithwyr yn teimlo dan bwysau i weithio oriau hir, e.e. efallai fod y rheini sy'n cyflawni eu rhwymedigaethau cytundebol yn gynnar yn y bore/yn hwyr yn y nos a/neu yn ystod y penwythnos yn teimlo bod rhaid iddynt fynychu cyfarfodydd neu ymateb i ohebiaethau a gafwyd yn ystod oriau swyddfa traddodiadol.