4.5 Agweddau cadarnhaol a negyddol ar lesiant gwaith digidol
Mae Ffigwr 7 yn ffeithlun gan Jisc sy'n crynhoi agweddau cadarnhaol a negyddol ar lesiant gwaith digidol o bersbectif eu galluoedd digidol.

Byddwch yn cydnabod nad yw'r cwrs hwn wedi ymdrin â'r pwyntiau hyn i gyd. Ymdrinnir â rhai ohonynt (fel cyfathrebu) yn adrannau diweddarach; crybwyllir eraill ond maent wedi'u labelu'n wahanol; ac mae eraill y tu hwnt i gwmpas y cwrs hwn. Efallai yr hoffech ddefnyddio termau Jisc i wneud ymchwil annibynnol ar y pynciau nad ydynt wedi'u hymdrin â nhw yma.
Mae ffordd wahanol o ddarlunio effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl gweithio o bell a thechnoleg ar gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd wedi'i hamlygu mewn ymchwil gan Dr Lara Pecis o Ysgol Reolaeth a Work Foundation Prifysgol Caerhirfryn, melin drafod sy'n gysylltiedig â'r Sefydliad Addysg Uwch hwnnw (Pecis a Florisson 2021).

Mae'r diagram hwn yn adlewyrchu dull y cwrs hwn at lesiant.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
