5.2 Dylanwad tueddiadau cenedliadol ar gyfathrebu

Yn Sefydliadau Addysg Uwch, mae'n gyffredin gweld gweithwyr o sawl cenhedlaeth yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd. Er bod ein cymeriad a'n tueddiadau gweithio yn cael eu llywio gan ein personoliaethau, yn hytrach na'n hoedran, mae ffactorau dylanwadol hanesyddol a chymdeithasol sydd wedi effeithio ar bob cenhedlaeth, a deall y gall y rhain helpu i wella cyfathrebu a chynhwysiant ar draws cenedlaethau.

Yn dibynnu ar bwy ydych chi'n gofyn, mae pedwar neu bum cenhedlaeth wedi'u cynrychioli yn y gweithle, sy'n cael eu diffinio'n gyffredin fel a ganlyn:

  • Traddodiadwr (a elwir weithiau yn y Genhedlaeth Fud) – ganwyd rhwng 1928 a 1945.
  • Cenhedlaeth y Cynnydd (baby boomers)– ganwyd rhwng 1946 a 1964.
  • Cenhedlaeth X – ganwyd rhwng 1965 a 1980.
  • Cenhedlaeth Y (a elwir hefyd yn bobl y milflwydd) – ganwyd rhwng 1981 a 1996.
  • Cenhedlaeth Z – ganwyd rhwng 1997 a 2012.

Daw pob cenhedlaeth â'i chyfuniad ei hun o nodweddion yn seiliedig ar amgylchedd magwraeth ei aelodau, e.e. ar ôl y rhyfel, yn ystod argyfwng ariannol, etc.

The amount of technological development that has happened between the birth of the first traditionalists and Gen Z was so vast that it has created two entirely different life experiences. When Baby Boomers first got a job, a computer at each desk wasn’t commonplace, whereas Millennials and Gen Z have never known a world without one.

(Rice, 2021)

Gadewch i ni edrych ar rai o'r gwahaniaethau allweddol yn ymwneud â gwaith sydd wedi'u hadnabod ar gyfer pob grŵp. Wedi dweud hynny, noder bod y rhain yn bethau cyffredin, felly nid ydynt yn berthnasol i bawb mewn grŵp oedran penodol!

Traddodiadwyr

Dim ond oddeutu 3% o'r gweithlu sy'n perthyn i'r traddodiadwyr yn 2022. Maent yn adnabyddus am eu moeseg gref o ran gwaith ac ymddygiad ffurfiol yn y gweithle, er eu bod nhw hefyd yn ymdrechu i helpu cydweithwyr. Maent yn gwerthfawrogi sicrwydd swydd ac yn fwy cyfarwydd ag agweddau ffurfiol yn amgylcheddau gwaith, yn hytrach nag amgylcheddau gwaith anffurfiol, hyblyg.

Cenhedlaeth y Cynnydd

Gall cenhedlaeth y cynnydd addasu i gyfathrebu wyneb yn wyneb a gwybodaeth wedi'i hargraffu. Maent yn ffyddlon i'w swydd ac yn ei thrin fel blaenoriaeth mewn bywyd, gan ganolbwyntio ar ddilyniant mewn gyrfa. Maent yn fodlon cymryd risgiau yn y gwaith er mwyn llwyddo. Maent yn disgwyl parch am eu teitl swydd. Mae nifer ohonynt nawr mewn oedran ymddeol, a chredir bod y pandemig wedi cyflymu cyfraddau ymddeol, ond i'r rheini y mae angen iddynt barhau i weithio, mae nifer yn symud ymlaen i swyddi ymgynghorol.

Cenhedlaeth X

Bu i Genhedlaeth X gorddi'r dyfroedd yn y gweithle traddodiadol gyda'u hannibyniaeth a'u natur fentrus – nhw yw'r genhedlaeth 'cychwyn arni', yn gweld gwerth mewn ymreolaeth ac arloesedd. Maent eisiau parch am eu syniadau ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Cânt gydnabyddiaeth hefyd am gyflwyno'r cysyniad o gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, gan wyro tuag at 'gweithio i fyw' yn hytrach na 'byw i weithio'. Yn y gwaith, maent yn dueddol o gyfathrebu drwy e-bost neu negeseua gwib, ac yn ffafrio dogfennau meddal yn hytrach na chopïau caled.

Cenhedlaeth Y/Pobl y Milflwydd

Pobl y milflwydd yw rhan o'r gweithlu sy'n tyfu gyflymaf. Maent yn canolbwyntio ar sgiliau, yn enwedig creadigrwydd, ac yn gwerthfawrogi gwaith ystyrlon mewn amgylchedd anffurfiol. Maent yn disgwyl i'w gweithwyr gael agweddau rhagweithiol a chadarnhaol at gynaliadwyedd, ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant. Maent yn gyfforddus yn defnyddio technoleg i gaffael gwybodaeth 'jest mewn pryd'. Maent yn blaenoriaethu cyfeillgarwch a chyfranogiad.

Nodwedd 'pobl y milflwydd' a drafodir yn gyffredin yw eu hawydd am fwy o adborth na chenedlaethau blaenorol. Gall hyn fod yn gadarnhaol iawn, ond mae angen agwedd wahanol at gyfathrebu gan genedlaethau eraill.

Cenhedlaeth Z

Fel y genhedlaeth ddiweddaraf yn y gweithlu, nid oes cymaint o ymchwil i'w nodweddion yn y gweithle, ac maent yn llai diffiniedig na grwpiau eraill. Mae un peth yn sicr, serch hynny, maent wedi'u hamlygu i fyd digidol yn unig. Mae pandemig COVID-19 wedi amharu ar gam datblygu hollbwysig i Genhedlaeth Z – fel arfer, dyma'r cyfnod y byddant yn magu cysylltiadau newydd ac yn trosi i fywyd fel oedolyn, ond mae hynny wedi'i effeithio'n ddramatig gan gyfnodau clo a chyfyngiadau eraill. Maent wedi'u cyflogi'n anghymesur yn niwydiannau megis lletygarwch a manwerthu, felly mae nifer ohonynt wedi colli eu swydd yn ystod y pandemig. Maen nhw'n gwerthfawrogi dilysrwydd, tryloywder, arloesedd a thwf personol.

Beth mae hyn yn ei olygu i'ch dull cyfathrebu?

Gall y nodweddion cenedliadol arwain at sawl her yn y gweithle. Mae addasu'ch arddull cyfathrebu a chynnwys yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn ystyriaeth bwysig yn y cyd-destun hwn. Er enghraifft, os yw arweinydd yn dod o genhedlaeth wahanol i'w tîm, gall arwain atynt yn defnyddio dulliau cyfathrebu y tu hwnt i'w parth cyfforddus er mwyn ymgysylltu'n llawn a rhannu gwybodaeth gydag aelodau'r tîm.

Yn y fideo isod, mae cyfranwyr yn rhannu eu mewnwelediad i weithio ar draws cenedlaethau a sut y gallwch chi adeiladu gweithleoedd mwy cynhwysol.