5.4 Osgoi unigedd

Mae unigedd cymdeithasol yn her sy'n aml yn gysylltiedig â gweithio o bell. Er bod rhai pobl yn ffafrio gweithio oddi wrth swyddfa brysur, mae'n bwysig sicrhau bod gan unigolion a thimau bobl neu rwydweithiau y gellir siarad â nhw'n ddibynadwy. Mewn byd gweithio rhithiol fel rhan o dîm rhithiol, mae'n rhwydd i bobl ddod yn anweladwy.

Yn rhai sefydliadau, mae'r cynnydd mewn gweithio hybrid ac o bell yn golygu bod swyddfeydd llawn, cynllun agored lle'r oedd gan bawb ei ddesg ddynodedig ei hun wedi'u trawsnewid yn ardaloedd sydd â system o weithio o sawl gweithfan, y mae modd mynnu'ch lle i'w defnyddio ymlaen llaw. Golyga hyn pan ydych yn trefnu i fynd i'r swyddfa, efallai mai dim ond chi yw'r unig un yn yr ystafell drwy'r dydd, a gall hynny wneud i chi deimlo'n unig neu'n anghyfforddus.

Sicrhewch eich bod yn cael sgwrs reolaidd gyda'ch rheolwr llinell ac os ydych yn gweithio mewn sefyllfa rheolaeth fatrics, sefydlwch gysylltiadau rheolaidd gydag unrhyw gydweithwyr arall yr ydych yn gwneud gwaith iddo, gan sicrhau eich bod chithau a hwythau yn deall y gwaith sydd angen ei wneud, yr amcanion, a pha bryd a sut y mae angen i chi eu cyflawni.

Os oeddech yn arfer cael digwyddiadau cymdeithasol mewn timau yn y swyddfa, a ydych wedi rhoi cynnig ar ddigwyddiadau tîm rhithiol? Gallai'r rhain fod mor syml ag egwyl de neu goffi am hanner awr drwy alwad fideo, lle allwch gael y math o sgyrsiau y gallech fod wedi'u cael yn flaenorol yng nghegin y swyddfa, neu gallai fod yn rhywbeth mwy ymarferol fel helfa eitemau. Mae rhagor o enghreifftiau ac ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm yn teambuilding.com (sicrhewch eich bod yn agor y ddolen mewn tab/ffenestr newydd).