5.5 Problemau diogelwch ar gyfryngau cymdeithasol

Crybwyllodd Adran 3 eich llesiant digidol, ac atal unigedd, adnabuwyd bod magu a chynnal perthnasoedd a lleihau unigedd i gyd yn agweddau cadarnhaol o weithgaredd digidol. Gellir cyflawni hyn drwy gymryd rhan mewn cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio cymdeithasol. Serch hynny, mae materion diogelwch yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â phostio amhriodol. Gallai hyn fod o ganlyniad i chi'n rhannu cynnwys amhriodol yn ddiofal neu'n fwriadol, neu gallai fod yn ymateb amhriodol i'ch gweithgaredd ar gyfryngau cymdeithasol.

Dylai bod gan eich sefydliad ganllawiau ynghylch yr hyn sy'n cael ei ganiatáu ar gyfryngau cymdeithasol, gyda chanlyniadau eglur yn cael eu nodi os na lynir wrth y cyngor hwn.

Efallai y cewch ymatebion negyddol gan ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae sylwadau nad ydynt yn cytuno â'ch safbwyntiau neu'ch persbectifau yn gwbl dderbyniol, ond gallwch deimlo wedi'ch llethu gan adlach o sylwadau, neu ddioddefwr seiberfwlio neu aflonyddwch. Os felly, mae angen i chi ystyried sut mae ymateb i hyn, neu ba un ai a ydych am ymateb hyd yn oed.

Blwch 2 Cefnogaeth ac arweiniad