6.5 Sut mae gwneud y mwyaf o amrywiaeth?
Felly, sut ydych chi'n creu neu'n cynnal sefydliad amrywiol? Cyflwyna Groysberg a Connolly (2013) wyth ymarfer sefydliadol a ymddengys yn effeithiol am wneud y mwyaf o amrywiaeth:
- Mesur amrywiaeth a chynhwysiant: bod yn ymwybodol o'r lefel amrywiaeth yn y sefydliad. Casglu data i fesur yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yn dda a'r hyn y gellir ei wella er mwyn gwneud y sefydliad yn lle mwy amrywiol.
- Gwneud rheolwyr yn atebol: dylai bod amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith nodau'r sefydliad. Er enghraifft, ymgorfforwch nhw fel rhan o ddatblygiad proffesiynol y rheolwr, gofynnwch iddynt gymryd rhan neu cynigiwch hyfforddiant.
- Cefnogi trefniadau gwaith hyblyg: cynnig buddion sy'n helpu gweithwyr i gydbwyso ymrwymiadau proffesiynol a phersonol, darparu hyblygrwydd gwell i oriau gwaith, caniatáu cyfnodau trawsnewidiol, cynnig cefnogaeth gofal plant etc.
- Recriwtio a dyrchafu o gronfeydd amrywiol o ymgeiswyr: chwilio am ddoniau yn y cam recriwtio yw'r cam cyntaf, ond mae hefyd yn bwysig cynnal y doniau hyn ar ôl hynny.
- Darparu addysg arweinyddiaeth: darparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i bawb yn y sefydliad a cheisio cefnogi grwpiau sydd dan fwy o anfantais neu heb gynrychiolaeth ddigonol. Cynnig hyfforddiant ar amrywiaeth a chyfleoedd i dderbyn addysg a datblygiad allanol.
- Noddi grwpiau adnoddau a rhaglenni mentora i weithwyr: cynnig dulliau llai strwythuredig o ddatblygiad proffesiynol drwy grwpiau adnoddau, rhwydweithiau, rhaglenni mentora etc.
- Cynnig esiamplau o ansawdd: mae llu amrywiol o arweinwyr yn dangos bod sefydliad yn ymrwymedig i amrywiaeth ac yn cynnig esiamplau da i uniaethu â nhw.
- Gwneud i safle'r Prif Swyddog Amrywiaeth gyfrif: creu swydd Prif Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a gofyn i'r Prif Swyddog Gweithredol uchafu ei effeithiolrwydd.
Mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru adnodd Newid Syml yn ymwneud â gwella amrywiaeth yn eich gweithle. Dilynwch y ddolen ym Mlwch 3 am ragor o wybodaeth.
Blwch 3 Newid Syml #39
Newid Syml #39 Rhoi mentrau ar waith i recriwtio pobl o blith grwpiau a dangynrychiolir yn eich gweithlu.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
