7 Cydraddoldeb
Fel y soniwyd yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn, un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw 'Cymru sy'n Fwy Cyfartal', a ddiffinnir fel:
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Mae cyflawni amrywiaeth well yn ein sefydliad, mewn swyddi arweinyddiaeth/gwneud penderfyniadau ac yn y gweithlu ehangach, yn gam agosach at gyflawni'r nod hwn, ond nid yw amrywiaeth a chydraddoldeb yr un fath. Mae cydraddoldeb yn y gweithle yn ymwneud â chyfleoedd cyfartal i bawb, sy'n golygu bod pawb yn gyfartal o ran:
- gwneud cais am swyddi a chael eu dethol am swyddi (cyn-gyflogaeth)
- derbyn hyfforddiant a chael eu dyrchafu yn eu gwaith
- terfynu cyflogaeth yn gyfartal a theg.
Yn y DU, y brif ddeddfwriaeth sy'n amddiffyn hawliau pobl i gael cyfleoedd cyfartal o'r fath yw Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y bôn, gwahaniaethu yw gwrthod yr hawl i gyfleoedd cyfartal yn y gweithle, ac mae hynny'n anghyfreithlon o dan y Ddeddf.
Sefydlwyd corff o'r enw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2007 i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau yn y gweithle sy'n cael eu nodi yn y Ddeddf. Daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn lle'r Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn Hawliau Anabledd a'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw maes o'r enw 'nodweddion gwarchodedig'. Dyma nhw (yn nhrefn y wyddor):
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- statws priodasol neu bartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil (yn cynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenhedlig)
- cefndir crefyddol
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol.
Mae'n debyg y byddwch yn cydnabod bod y rhain yn debyg iawn i'r categorïau sydd wedi'u hadnabod gan Ahmed (2018) yn y drafodaeth yng Ngweithgaredd 12. Cyn archwilio rhai o'r nodweddion gwarchodedig yn fwy manwl, dyma weithgaredd byr i egluro'r gwahaniaeth rhwng cydraddoldeb ac ecwiti.
Gweithgaredd 13 Cydraddoldeb neu ecwiti?
Darllenwch yr erthygl fer hon (650 gair) sy'n dwyn y teitl Equality and Equity ar wefan Social Change UK. Yna, treuliwch ychydig funudau yn ceisio meddwl am enghraifft o sut mae ecwiti wedi cyfrannu – neu sut allai gyfrannu – at gydraddoldeb gwell yn eich sefydliad eich hun. I'r gwrthwyneb, efallai fod gennych chi enghraifft o adeg y defnyddiwyd cydraddoldeb yn anghywir; os felly, sut fyddech chi'n mynd i'r afael â hyn?
Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.
Discussion
Fel y nodir yng nghasgliad yr erthygl:
Equality and equity may be inherently different but are also bound together. In order to create true equality of opportunity, equity is needed to ensure that everyone has the same chance of getting there. However, we must act cautiously when dealing with equity; providing too little to those who need it and too much to those who do not can further exacerbate the inequalities we see today.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
