7.1 Nodweddion gwarchodedig: mynd i'r afael â gwahaniaethu

Fel y soniwyd yn yr adran flaenorol, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw maes o'r enw 'nodweddion gwarchodedig'. Bydd adran nesaf y cwrs yn archwilio agweddau ar rai o'r rhain (anabledd), ond o ran gwahaniaethu, mae gan ddau sefydliad yn y DU lu o adnoddau a chyfeiriadau ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig:

  • y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS), corff cyhoeddus annibynnol sy'n cael cyllid gan y llywodraeth i weithio gyda chyflogwyr a gweithwyr i wella perthnasoedd yn y gweithle
  • y sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), corff proffesiynol y DU ar gyfer adnoddau dynol a datblygiad pobl.

Gweithgaredd 14 Archwilio adnoddau gwrth-wahaniaethu

Caniatewch tua 90 munud

Dilynwch y dolenni at bob un o'r adnoddau isod am drosolwg o'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Dylech dreulio o leiaf 10 munud ar bob nodwedd, ond os ydych yn dymuno treulio mwy o amser yn ymchwilio i'r pwnc hwn, mae adnoddau ychwanegol gan y CIPD ac adnoddau o ffynonellau allanol ar waelod pob tudalen.

Mae sgyrsiau sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig yn gofyn am agwedd sensitif ac empathig. Yn aml, mae’r rhain yn cynnwys sefyllfaoedd nad yw’r person efallai’n teimlo’n gyfforddus yn eu trafod, neu bryderon posibl y mae’n dymuno eu codi am ymagwedd y sefydliad. Mae llawer o sefydliadau yn dod yn fwy ymwybodol ac mae ganddynt rwydweithiau priodol ar waith i gefnogi gweithwyr a rheolwyr llinell i ddechrau cael gwell sgyrsiau.