8 Datblygu a chynnal gweithle hybrid cefnogol a chynhwysol

Cyn 2020, mae'n bosibl na fyddai 'gweithle hybrid' wedi bod yn eich geirfa hyd yn oed:

At the start of the COVID-19 pandemic, employers took swift action to create a mentally healthy workplace – often while simultaneously navigating the challenges of an entirely remote workforce for the first time. Now, as workplaces adopt a hybrid model, in which they combine remote and onsite working, employers again need to face the challenge of how to care for the mental health and wellbeing of their workforce – this time in a hybrid model.

(Deligiannis, 2022)

Wedi dweud hynny, fel y soniasom yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn, wrth i COVID-19 newid o fod yn bandemig i fod yn endemig, a gweithio hybrid yn y sector addysg uwch yn dod y 'ffordd arferol newydd', mae'n amser sicrhau bod gan eich gweithle y systemau a'r strategaethau allweddol ar waith i gefnogi llesiant a chynhwysiant yn briodol ar gyfer pob aelod o staff, beth bynnag yw eich model hybrid.