8.2 Buddion a chostau cynnal llesiant yn y gweithle

Mae pob sefydliad yn dibynnu ar gael gweithwyr iach a chynhyrchiol, felly os ydych yn cefnogi llesiant eich staff, maent yn llawer mwy tebygol o gyflawni'ch nodau busnes. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn, yn y sector AU, nid yn unig y mae'r nodau hyn yn effeithio gweithwyr eich sefydliad, ond hefyd eich myfyrwyr.

Mae adroddiad 2021 Jisc, Student and staff wellbeing in higher education, yn pwysleisio pedair egwyddor ar gyfer llesiant mewn AU:

  • Mae llesiant ar gyfer pawb: dull poblogaeth gyfan – Cawn i gyd ein heffeithio gan ein llesiant meddwl a llesiant meddwl eraill.
  • Mae llesiant yn brosiect gydol oes: dull bywyd cyfan – Nid yw llesiant yn dechrau pan ddaw rhywun yn fyfyriwr israddedig ac yn dod i ben pan mae'n graddio. Mae angen dysg gydol oes a datblygu sgiliau gydol oes i ddatblygu gwytnwch.
  • Mae llesiant wedi'i fewnosod ym mhob gweithgaredd: dull cwricwlwm cyfan – Mae prifysgolion yn sefydliadau iechyd yn ogystal â sefydliadau dysgu. Er mwyn i unigolion ffynnu a dysgu, ni ellir gwahaniaethu cynnydd iechyd a chynnydd dysgu.
  • Mae llesiant yn ymdrech gyfunol: dull prifysgol gyfan – Mae'r dull prifysgol gyfan yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb. Mae'n newid llesiant meddwl o fod yn bryder i wasanaethau cefnogi iechyd ac iechyd meddwl myfyrwyr yn unig, a chynnwys y gymuned gyfan. Mae angen ymdrech ac arweinyddiaeth barhaol ar gyfer hyn.