Casgliad
Dechreuodd y cwrs hwn drwy ddyfynnu Barbara Bassa, Cyfarwyddwr Rhaglen Advance HE, a sylwodd fod ansawdd profiad myfyrwyr y brifysgol yn dechrau gydag ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan staff prifysgol. Drwy gydol y cwrs, rydych wedi bod yn myfyrio ar sut mae'r staff yn eich sefydliad yn ymdopi gyda'r trosglwyddiad i fwy o ffyrdd digidol/hybrid o weithio, yn ogystal ag ystyried effaith yr 'addasu i ar-lein' ar eich llesiant chi a'u llesiant nhw, a'r prosesau a'r ymarferion a ddaeth yn sgil hynny.
Dylai bod gennych ddealltwriaeth well o beth mae 'llesiant yn y gweithle' yn ei olygu mewn byd gweithio hybrid, yn enwedig:
- cyfrifoldeb pwy ydyw
- yr heriau sydd ynghlwm wrth greu a'i gynnal
- y buddion y gall meithrin llesiant ei gyflwyno i'ch sefydliad.
Bydd sut mae cyflogwyr yn ymateb i lesiant gweithwyr drwy'r pandemig hwn a thu hwnt yn allweddol i gynnal ymgysylltiad a chynhyrchiant gweithwyr a lleihau absenoldeb staff a/neu drosiant staff.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn aml yn cael ei wawdio fel 'cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhemp' neu ymarfer tic bocs ar gyfer gofynion cyfreithiol, ond mae'r cwrs hwn wedi pwysleisio'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae yn cyflawni diwylliant llesiant. Mae gwneud eich sefydliad yn gynhwysol, yn amrywiol ac yn hyrwyddwr cyfleoedd cyfartal yn fwy na dyletswydd foesol neu gyfreithiol, mae'n fuddsoddiad yn yr ased pwysicaf sydd gan eich sefydliad: y bobl sy'n gweithio yno.
Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi Gweithio Hybrid a Thrawsnewid Digidol, efallai yr hoffech ei archwilio ymhellach.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
