1.2 Cyd-destun digidol
Gan fod y cwrs hwn yn rhan o gasgliad trawsnewid digidol, bydd yn archwilio llesiant a chynhwysiant o bersbectif digidol. Yn sail i hyn fydd un elfen o Fframwaith Datblygu Galluoedd Digidol Jisc (Jisc, 2018), sef 'Hunaniaeth a Llesiant Digidol'. Mae Jisc yn diffinio 'Llesiant Digidol' fel y capasiti i:
- warchod iechyd, diogelwch, perthnasoedd a chydbwysedd gwaith–bywyd personol mewn cyd-destun digidol
- defnyddio adnoddau digidol mewn ymgais i gyflawni nodau personol (e.e. iechyd a ffitrwydd) a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol
- gweithredu'n ddiogel a chyfrifol mewn amgylcheddau digidol
- trafod a datrys unrhyw groestynnu
- rheoli llwyth gwaith digidol, gorlwytho a phethau sy'n denu sylw oddi wrth y gwaith
- gweithredu gyda phryder am yr amgylchedd dynol a naturiol wrth ddefnyddio adnoddau digidol.
Bydd nifer o'r pwyntiau hyn yn cael eu harchwilio drwy gydol y cwrs. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar agweddau ar ran 'Hunaniaeth Ddigidol' fframwaith Jisc, sy'n ymwneud â chael dealltwriaeth o'r buddion i enw da a'r risgiau sydd ynghlwm wrth gyfranogiad digidol.
Archwilir elfennau eraill yn Fframwaith Datblygu Galluoedd Digidol Jisc yn y cyrsiau canlynol o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol yng Nghymru :
- Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
- Gweithio hybrid: cyfathrebu a chydweithio digidol
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
