1.3 Cyd-destun eich sefydliad

Mae'n bosibl bod gan eich sefydliad strategaethau llesiant a chynhwysiant ar waith eisoes, ond ai dogfennau polisi yn unig ydynt, neu a ydynt yn cael eu corffori drwy ymddygiadau a sgiliau staff ar bob lefel a gwerthoedd, diwylliant ac ymarferion yn eich gweithleoedd ffisegol a digidol? Fel yr awgryma'r teitl, bydd y cwrs hwn yn archwilio amrywiol agweddau ar lesiant a chynhwysiant, cyn ystyried sut allwch chi eu dwyn ynghyd i ddatblygu a chynnal gweithle hybrid cefnogol a chynhwysol.

I gael gwybod am agweddau eraill ar ddatblygiad cyfundrefnol yn y gweithle hybrid, efallai yr hoffech astudio'r cwrs Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol sy'n rhan o'r casgliad hwn.

Yn y fideo isod mae cyfranwyr yn rhannu eu dirnadaeth a'u dulliau o gefnogi llesiant a chreu sefydliad mwy cynhwysol.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn cydnabod yr angen i ymgorffori llesiant a chynhwysiant ar draws gwahanol lefelau sefydliad. Ar gyfer llesiant, gallai hyn olygu amrywio’r dull cymorth, yn hytrach na dibynnu ar un gwasanaeth cymorth i weithwyr sy’n cael ei gontractio’n allanol. O ran cynhwysiant, gall hyn olygu cydnabod bod problem gynhenid o fewn strwythurau'r sefydliad yn seiliedig ar normau cymdeithasol.