2 Beth ydym yn ei olygu gyda llesiant?

Does dim amheuaeth bod llesiant wedi dod yn bwnc llosg mewn cymdeithas gyfoes – yn enwedig ers i COVID-19 ein gorfodi ni i gyd i dalu mwy o sylw i'n hiechyd. Ond beth mae'r gair yn ei olygu i chi?

Gweithgaredd 1 Beth mae llesiant yn ei olygu i chi?

Caniatewch tua 10 munud

Treuliwch ychydig funudau yn nodi'r geiriau yr ydych chi'n eu cysylltu â llesiant. Ceisiwch feddwl am o leiaf un, ond dim mwy na deg.

Yna dewiswch eich hoff air – yr un sy'n disgrifio orau beth mae llesiant yn ei olygu i chi.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Dengys Ffigwr 2 gwmwl geiriau yn cynnwys rhai geiriau cyffredin sy'n ymwneud â llesiant.

Ffigwr 2 Geiriau sy'n ymwneud â llesiant.

A wnaeth eich gair dewisol ymddangos? A ydych wedi synnu gan unrhyw rai o'r geiriau sydd wedi'u cynnwys yn y cwmwl?

A yw llesiant yn golygu rhywbeth gwahanol i chi yng nghyd-destun y gweithle? Cadwch y cwestiwn hwnnw mewn cof, gan y gofynnir i chi fyfyrio arno yn ddiweddarach.

Nesaf, gadewch i ni glywed rhai myfyrwyr yn siarad beth mae llesiant yn ei olygu iddyn nhw, mewn cyfres o Vox Pops sydd wedi'u creu gan SHARP (Strong, Healthy and Resilient People) (Be Sharp, 2019), adnodd sy'n cael ei gynnal gan yr elusen Strong Young Minds.

What is wellbeing? (agorwch y ddolen mewn tab/ffenestr newydd er mwyn i chi allu dychwelyd yn rhwydd).

A oedd safbwyntiau'r myfyrwyr ynghylch llesiant yn debyg i'ch safbwyntiau chi? A oedd unrhyw beth y gwnaethant sôn amdano nad oedd wedi croesi eich meddwl? Efallai eich bod wedi sylwi na wnaeth yr un ohonynt grybwyll gwaith, gan fod y cwbl ohonynt mae'n debyg yn dal i fod mewn addysg lawn amser, ond os ydych chi o oedran/cenhedlaeth wahanol, efallai fod eich gwaith yn cael effaith lawer mwy ar eich llesiant yn gyffredinol. Byddwn yn trafod effaith gwahaniaethau rhwng cenedlaethau ar lesiant yn hwyrach ymlaen yn y cwrs hwn.