2.1 Mesurau ystadegol o lesiant
Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU (SYG, 2020) yn mesur llesiant i bobl ifanc ar lefel genedlaethol gan ddefnyddio cyfres o ddangosyddion y maent yn eu defnyddio i ofyn i bobl rhwng 16–19 oed a 20–24 oed i sgorio eu lefel bodlonrwydd mewn agweddau gwahanol ar eu bywydau. Mae'r dangosyddion hyn yn cynnwys y cwestiynau canlynol:
- Llesiant personol – e.e. a ydynt yn fodlon gyda'u bywydau yn gyffredinol; pa mor werthfawr maen nhw'n credu yw'r pethau maen nhw'n eu gwneud; sut fyddent yn sgorio eu hapusrwydd ddoe; sut fyddent yn sgorio eu gorbryder ddoe?
- Perthnasoedd – e.e. a oes ganddynt bobl a fyddai yno iddynt petaent angen cymorth; a ydynt yn ffraeo gyda rhiant yn amlach nag unwaith yr wythnos; a ydynt yn siarad â rhiant am bethau sy'n bwysig iddynt yn amlach nag unwaith yr wythnos?
- Iechyd – a ydynt wedi adrodd bod ganddynt anabledd; a ydynt y fodlon gyda'u hiechyd; a oes tystiolaeth o iselder neu orbryder; a ydynt dros eu pwysau neu'n ordew?
- Galwedigaeth ('ein gwaith') – a ydynt yn ddi-waith; a ydynt yn fodlon gyda'r amser hamdden maen nhw'n ei gael; a ydynt wedi gwirfoddoli yn fwy nag unwaith yn y 12 mis diwethaf; a ydynt wedi ymgysylltu â gweithgareddau celfyddydol neu ddiwylliannol neu gymryd rhan ynddynt o leiaf deirgwaith yn y flwyddyn ddiwethaf?
- Lleoliad ('lle'r ydym ni'n byw') – a ydynt wedi bod yn ddioddefwr o drosedd; a ydynt wedi teimlo'n ddiogel yn cerdded ar eu pen eu hunain ar ôl iddi dywyllu; a ydynt yn teimlo eu bod yn perthyn i'w cymdogaeth; a ydynt wedi mynd i'r amgylchedd naturiol o leiaf unwaith yn y 12 mis diwethaf; a ydynt yn fodlon gyda'u llety?
- Cyllid personol – a ydynt yn fodlon gydag incwm eu haelwyd; a ydynt wedi'i chael hi'n anodd yn ariannol?
- Addysg a sgiliau – a ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; pa lefel o addysg maen nhw wedi'i derbyn?
Mae'r cwestiynau hyn yn cynnig golwg ehangach o lesiant nag yr oeddech wedi'i ystyried yn wreiddiol. Bydd rhai o'r rhain yn cael eu trafod eto yn Adran 3. Serch hynny, rydych nawr am ystyried llesiant o bersbectif seicolegol.
OpenLearn - Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
