Long description

Mae'r diagram hwn yn dangos graff gyda 'lefelau straen' ar yr echelx, a 'chynhyrchedd' ar yr echely, ac mae'n dangos cromlin siâp cloch. Mae gwahanol segmentau a labeli. Y segment ar yr ochr isaf (h.y. lefel straen isaf, cynhyrchedd isel) yw 'dim digon o straen (tanlwytho)'. Ar waelod y gromlin mae'r label ' anweithredol'. Ychydig i fyny'r gromlin mae'r label 'hamddenol'. Y segment nesaf, sy'n cyrraedd canol y gromlin gloch wrth iddi gyrraedd ei chrib (h.y. straen cymedrol, cynhyrchedd uchel), yw 'Straen optimwm', gyda'r label 'Perfformiad gorau' ychydig cyn y crib. Yna, mae'r segment nesaf yn dechrau'r disgyniad i lawr y gromlin gloch (h.y. straen yn cynyddu, cynhyrchedd yn lleihau). Y segment hwn yw 'Gormod o straen (gorlwytho)', gyda'r label 'Blinder/tensiwn. Cwsg gwael, tymer bigog, poeni' ar yr ochr hon o'r grib. Yr ochr uchaf (h.y. straen uchel, cynhyrchedd isel) yw 'Llosgi'r gannwyll'. Hanner ffordd i lawr y gromlin mae'r label 'Gorflinder. Gorbryder, panig, dicter, iselder, diffyg cwsg'. Ar waelod y gromlin mae 'Gwaeledd. Clefyd/heintiau parhaus, trawiad ar y galon, canser, diabetes, ayyb.'