Long description

Mae tair colofn yn y diagram hwn. Mae'r golofn ganol (sydd â phennawd o eiconau cyfrifiadur a'r ddaear) yn rhestru dau ddatganiad ynghylch gweithio o bell a thechnoleg. Pennawd y golofn chwith yw eicon 'bawd i lawr' ac mae'n rhestru'r effaith negyddol. Pennawd y golofn dde yw eicon 'bawd i fyny' ac mae'n rhestru'r effaith gadarnhaol. Y datganiad cyntaf yw 'Y gallu i weithio lle bynnag (a pha bryd bynnag) sy'n addas'. Effaith negyddol: 'Yn gallu arwain at ffiniau niwlog rhwng gwaith a bywyd ac anallu i ymlacio'r ymennydd'. Effaith gadarnhaol: 'Yn gallu gwella hyblygrwydd, cynhyrchedd a rheolaeth ganfyddedig dros waith'. Yr ail ddatganiad yw 'Dwysáu cysylltedd a chyfathrebu'. Effaith negyddol: 'Yn gallu arwain at "bresenoliaeth ar-lein", gostyngiadau mewn cynhyrchedd oherwydd hysbysiadau yn denu sylw, a gorlwytho gwybodaeth'. Effaith gadarnhaol: 'Yn gallu gwella cynhyrchiant ac ymgysylltiad, a chadw timau yn gysylltiedig.'.