Transcript

SHARON MALLON
Y prif bryderon i mi wrth i ni ddod allan o'r pandemig a pharhau i weithio gartref yw'r ffordd y mae sefydliadau ac unigolion yn ymateb i'r newidiadau hynny ac a fydd y newidiadau'n parhau neu beidio, felly p'un a fydd y bobl sy'n parhau i weithio gartref neu'n cael eu gorfodi i fynd yn ôl i'r swyddfa yn gyfforddus â'r dewisiadau hynny.
Mae pawb wedi cael cwpl o flynyddoedd anodd iawn, iawn. Ac rydym wedi gorfod addasu'n eithaf cyflym i ffyrdd gwahanol o weithio. Mae rhai o'r ffyrdd hynny wedi gweithio'n dda iawn i rai pobl. Pobl ddim yn gorfod cymudo, er enghraifft, sy'n rhoi amser ychwanegol gartref.
Ond yn yr un modd, bu llawer o anfanteision. Dwi'n gwybod bod unigedd cymdeithasol yn cael effaith fawr iawn ar iechyd meddwl pobl. Ac mae hefyd yn anodd iawn cadw i fyny â rhai cydberthnasau gwaith, yn enwedig os oes sgyrsiau anodd i'w cael neu densiynau rhwng unigolion. Gall cyfarfodydd ar-lein a pheidio â chyfarfod wyneb yn wyneb waethygu'r rhain, a gallai cael sgwrs anffurfiol un-i-un wella cydberthnasau.
Felly, rheini yw'r pethau allweddol i mi wrth i ni symud ymlaen, sef dysgu'r ffyrdd gorau o weithio ar-lein, dysgu sut y gallwn fanteisio ar fynd yn ôl i mewn i'r swyddfa os mai dyna beth sydd angen i ni ei wneud a hefyd bod yn ystyriol fod y pandemig wedi newid pawb. Mae rhai pobl yn llawer mwy pryderus am fod mewn lleoedd cyhoeddus nawr a bydd angen rheoli hynny'n ofalus iawn.
Un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud am orbryder cymdeithasol yw ei fod yn hollol normal wrth i ni ddod allan o sefyllfa lle rydym wedi bod gartref gan mwyaf, wedi bod ar ein pennau ein hun gan mwyaf, efallai gyda theuluoedd, i fod yn bryderus wedyn am fynd yn ôl i sefyllfaoedd y byddem ni wedi bod yn gyfforddus iawn ynddynt ar un tro. Ond maen nhw'n newydd nawr. A dros y blynyddoedd diwethaf, mae pob un ohonom wedi dod yn ymwybodol iawn o agosatrwydd pobl eraill i ni'n gorfforol.
Dwi'n gwybod pan ddechreuais i ddychwelyd i'r gofodau yr oeddwn i wastad wedi bod ynddynt ar un tro, roeddwn yn llawer mwy ymwybodol o ba mor agos oedd pobl i mi. Roeddwn i'n anghyfforddus. Doeddwn i ddim wir yn gwybod sut i gael sgyrsiau lle byddwn yn gofyn i bobl sefyll yn ôl rhyw ychydig oddi wrthyf. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni normaleiddio hynny i gyd.
Nid yw bod ychydig yn orbryderus yn anhwylder ynddo'i hun. Mae'r mathau hynny o deimladau yn gwbl ddealladwy. A'r ffordd rydw i'n ei reoli'n bersonol yw trwy hunan-drafod gofalus iawn, felly calonogi fy hun, dweud wrthyf fi fy hun y bydd popeth yn iawn, cymryd camau i symud ychydig ymhellach i ffwrdd wrth bobl os bydd angen i mi wneud hynny, gofyn i bobl roi ychydig o le i mi os bydd hynny i'w weld yn briodol.
Dwi'n gwybod nad oes rhaid gwisgo masgiau mwyach, ond byddwn i'n ei annog os bydd yn gwneud i chi deimlo ychydig yn fwy diogel, a chynllunio'n ofalus iawn, meddwl yn ofalus am ble rydych chi'n mynd, sut allai fod, sut allech chi deimlo pan fyddwch yno, a pheidio â gwneud gormod ar unwaith er mwyn peidio â gorlethu eich hun na disgwyl gormod ohonoch eich hun, bod yn garedig ac yn drugarog iawn â chi eich hun wrth ichi ailymddangos yn y byd.
Dwi'n credu bod y pandemig wir wedi newid y ffordd rydym yn ystyried iechyd meddwl. I ddechrau, roeddwn i'n poeni i raddau am bobl a oedd yn sôn am ffrwydrad o broblemau iechyd meddwl neu eu bod yn disgwyl yn awtomatig y byddai cynnydd patholegol mewn anhwylderau iechyd meddwl.
Y gwir amdani oedd bod cryn raniad ymhlith pobl. Gwnaeth rhai pobl addasu'n dda iawn, ac ar ôl cyfnod cychwynnol o orbryder, roeddent yn gweld eu bod yn hoffi'r sefyllfa weithio newydd ac yn hapusach gartref. Rwy'n credu erbyn hyn, ein bod ni wedi dod i arfer ag ef i ryw raddau. Ond dwi'n gwybod y bu adroddiadau yn ddiweddar iawn o gynnydd mewn iselder ymhlith grwpiau penodol.
Felly, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n parhau i gael y sgyrsiau hynny am yr effaith y mae wedi'i chael ar bob un ohonom. Dwi'n gwybod i'r sefyllfa yr oedd pob un ohonom ynddi wedi rhoi caniatâd i ni drafod agweddau ar y ffordd yr oeddem yn ymateb yn emosiynol i'r sefyllfa.
Gwnaeth ein galluogi i adlewyrchu, efallai, ar beth roeddem yn ymdopi'n dda ag ef a beth nad oeddem yn ymdopi'n dda ag ef. A dwi'n credu gan ein bod ni'n gallu cymdeithasu ychydig yn fwy, mae'n gyfnod braf iawn i ni adlewyrchu ar hynny.
Mae cryn dipyn wedi bod yn y cyfryngau yn canolbwyntio ar lesiant ac iechyd meddwl. Ac rwy'n tybio mai fy neges gref i fyddai annog ein hunain i feddwl amdano fel rhywbeth y gallen ei reoli ac ymateb iddo, nad ydym ond yn derbyn iddo gael effaith negyddol iawn arnom, y gallwn ei ddefnyddio fel profiad dysgu ac fel profiad o dwf. Ac yn sicr, dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth sy'n bosibl i ni i gyd.
Dwi'n credu bod nifer o bethau cadarnhaol wedi dod i'r amlwg o'r pandemig, un o'r rheini, dwi'n credu, yw bod pob un ohonom yn fregus gyda'n gilydd. A dwi'n credu i ni fod yn llawer mwy agored nag erioed o'r blaen am y ffaith fod pethau'n anodd.
Dwi'n credu i ni allu trafod ein hiechyd emosiynol mewn ffordd nad oeddem wedi gadael i ni ein hunain ei wneud o'r blaen efallai. A dwi'n credu i ni adael i sgwrs am drafferthion a brwydo'n ôl ddod i'r amlwg. Mae yna rai enghreifftiau braf iawn o gysylltiadau wnes i gyda phobl eraill dim ond oherwydd imi ddweud wrthynt fod pethau'n anodd iawn. A'r sgyrsiau hynny yw'r rhai yr hoffwn i eu symud yn eu blaen.
Ar lefel bersonol, unwaith eto, dwi ddim yn credu ein bod ni'n siarad digon am y twf a all ddigwydd trwy amgylchiadau trawmatig iawn. Ac roedd yr amgylchiadau'n llawer mwy trawmatig i rai pobl nag oedden nhw i mi. Ond dwi'n gwybod bod cryn dipyn i'w ddysgu o ran sut rydym wedi ymdopi dros y blynyddoedd diwethaf, beth rydym wedi'i ddysgu amdanom ni ein hunain.
Ac mae hyd yn oed gwybod y gallwch gyrraedd iselfannau go iawn, ond dod yn ôl ohonynt yn rhywbeth y gall pob un ohonom ddysgu ohono a dathlu'r gwydnwch y gall arwain ato.
Dwi wedi dysgu llawer am ffiniau nad oeddwn yn ei wybod o'r blaen. Ac mae hynny'n rhannol oherwydd yn ystod y pandemig, cwympodd yr holl ffiniau i lawr. Ac roeddwn i'n gweithio oriau dwl, ac yn addysgu gartref, ac yn ceisio cadw pawb yn hapus ac anghofiais i amdanaf fy hun.
Ac un o'r pethau rydw i wedi'i ddysgu, yn enwedig nawr ein bod ni i gyd yn gweithio gartref, ac fy mod i ar gael yn dechnegol, drwy fy sgrin gyfrifiadurol unrhyw bryd, yw ei bod hi'n bwysig i mi osod ffiniau o'm cwmpas sy'n fy niogelu innau a'm hiechyd meddwl. Rwy'n teimlo imi oroesi'r pandemig a dysgu llawer ohono. Fyddwn i ddim eisiau ei ailadrodd, ac yn sicr fydden i ddim yn ailadrodd y ffordd y chwalodd fy ffiniau i gyd.
Ond dwi'n credu bod y ffiniau hynny yn gryfach nag erioed erbyn hyn. A dwi'n cydnabod bod gen i gyfyngiadau. Ond dwi'n cydnabod os byddaf yn tynnu'n ôl pan fyddaf yn teimlo bod y cyfyngiadau hynny yn agos at gael eu cyrraedd, y gallaf wneud penderfyniadau cryf a chyfleu'r penderfyniadau hynny i'm cyflogwr sy'n fy niogelu ac a fydd yn parhau i'm diogelu, ond y bydd hynny yn y pen draw, yn fy ngalluogi i fod yn gynhyrchiol a chyflawni wrth symud ymlaen.
Felly, nid yw'n golygu gollwng unrhyw fath o gyfrifoldeb. Nid yw'n golygu hynny o gwbl. Mae'n golygu derbyn na allwch barhau i weithio fel hynny am gyfnodau hir o amser heb oblygiadau.