Transcript

GRACE EMIOHE
Grace Emiohe ydw i. Dwi'n gweithio fel uwch-ymgynghorydd perfformiad yn Y Brifysgol Agored. Dwi wedi bod yn y rôl honno ers bron i saith mlynedd erbyn hyn.
Felly, dwi'n sengl. Dwi'n byw ar fy mhen fy hun. Felly pan ddigwyddodd y pandemig, cafodd effaith fawr arnaf.
Felly, does gen i ddim cefnogaeth yn fy amgylchedd. Ac ar yr adeg honno, un o'r pethau a oedd yn rhyfedd iawn i mi oedd pan oedd y sefydliad yn gofyn am adborth gan bobl wahanol, dwi'n tueddu i- roeddwn i'n arfer bod yn y lleiafrif, ond doeddwn i ddim yn tueddu i ddod yn lleiafrif ychwanegol. Felly, beth mae hynny'n ei olygu?
Oherwydd bod pawb yn sôn am ba mor wych ydoedd, rwy'n berson teulu, mae gen i deulu a phethau gwahanol. Ond does gen i ddim teulu. Felly doedd yr hyn a oedd yn gweithio i bobl eraill ddim yn gweithio i fi. A hefyd, wel, dwi'n fenyw ifanc Ddu. Wyddoch chi?
Ac roeddwn i'n teimlo fel petai fy lleiafrif i'n dod hyd yn oed yn agosach. Felly roedd yn ymwneud â'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, beth sy'n gweithio i'r mwyafrif. Felly effeithiodd hynny'n fawr arna i. A'r ffaith hefyd bod COVID-19 yn effeithio ar fwy o bobl o gefndiroedd lleiafrifol, roedd hynny'n beth mawr iawn i mi.
Ac yna, es i'n sâl, a mynd i'r ysbyty. Roeddwn i yn yr ysbyty am gyfnod hir iawn. Ac roedd hynny'n agwedd syfrdanol arall i mi hefyd, yn enwedig o ran yr hyn rwy'n delio ag ef.
Roeddwn yn mynd i wneud ymchwil iddo. Mae'r hyn dwi'n delio ag ef yn rhywbeth sy'n effeithio ar fenywod Caribïaidd a Du gan fwyaf. Ac nid oes llawer o waith ymchwil wedi'i wneud o gwbl. Felly roedd hynny'n gryn dipyn o sioc, delio â hynny yn ystod y pandemig. Ac yn y gwaith hefyd yn gorfod meddwl sut i ddychwelyd i'r gwaith, sut galla i ryngweithio'n gymdeithasol, sut galla i ddelio â phethau. Ac roeddwn i'n dod o ongl wahanol.
Felly, soniais am y ffaith, yn bersonol, nad dim ond achos o pwy ydw i ydyw. Wyddoch chi? Mae'r gymdeithas yn dueddol o anelu at ystyried y mwyafrif, dyna ydoedd. A chafodd effaith fawr arnaf.
Ac rydw i wedi dysgu byw gyda hynny, sy'n beth drwg. Wyddoch chi? Ond drwy gydol fy mywyd, rydw i wedi dysgu byw gyda hynny gan fy mod yn rhan o'r grŵp lleiafrifol. Dysgais- do, wyddoch chi beth? Mae'n rhaid i fi ddelio â hyn a symud ymlaen, a dyna dwi wedi dysgu ei wneud.
Dwi'n cadw dweud hyn wrthynt. Mae'n rhaid i chi fy nghydnabod. Dwi'n gwybod ei bod hi'n anodd. Mae gennych filoedd o gyflogeion ond mae'n rhaid rhoi pethau ar waith i roi lle i rywun fel fi i ddod i mewn. A phan fyddaf yn cwrdd â rhywun fel fi, dwi'n cyfeirio at rywun sydd- nid dim ond menyw ifanc Ddu ydw i. Dwi'n fenyw ifanc ddu sengl hefyd. Mae hynny'n golygu fy mod i mewn dau gategori gwahanol. Ac mae'n fater o weld beth sy'n gweithio i mi.
Felly ar hyn o bryd- a dwi wedi gorfod delio â'm hanawsterau mewnol fy hun gan fy mod ar fy mhen fy hun. Doedd gen i ddim cefnogaeth wyddoch chi. Bu'n rhaid i mi wedyn edrych ar beth oedd yn gweithio i fi yn ystod y cyfnod hwnnw. Ac yn sydyn, dwi'n cael gwybod bod yn rhaid i fi newid gan fod angen i bawb nawr wneud gwaith hybrid. Mae angen i bawb ddechrau dychwelyd ond heb ystyried beth yn union sy'n gweithio i fi gan y bu'n rhaid i mi ddelio â hyn ar fy mhen fy hun heb lawer o gefnogaeth.
Ac mae'n ymwneud â dychwelyd a gwneud yn siŵr ei fod yn ymwneud â - y broblem fwyaf i fi yw bod y gefnogaeth yn cael ei dinistrio nawr gan fy mod i'n gorfod ymaddasu i'r ffordd newydd o weithio sy'n iawn i fi, yn fy marn i. Ac mae hynny'n ofid i mi fel person. Un o'r pethau sydd wedi fy helpu'n fawr yw fy rheolwr llinell gan eich bod yn mynd ar goll mewn pwll mawr iawn o bethau.
Felly, dwi'n gallu rhoi gwybod i'm rheolwr llinell- dwi'n cael llawer o gefnogaeth gan fy rheolwr llinell wyddoch chi, o ran, iawn, sut gallwn ni symud pethau ymlaen, sut gallwn ni- oherwydd pan ddigwyddodd y pandemig, roeddwn yn teimlo bod angen i fi fynd i'r swyddfa gan fy mod yn rhan o'r categori hwnnw o bobl a oedd yn teimlo mai dim ond rhywbeth a fyddai'n para mis fyddai hwn.
Felly, wnes i ddim paratoi, wyddoch chi, ac wedyn daeth yn fisoedd, ac roeddwn yn dechrau meddwl, o, mae angen cynllun arna i. Dwi'n cwympo. Felly, gweithiodd fy rheolwr llinell gyda fi.
A phan ddechreuais i nodi pethau a fyddai'n gweithio i mi yn hynny o beth, cefais lawer o gefnogaeth. Felly, dwi'n meddwl o ran y sefydliad, mae'r ffaith bod ein rheolwr llinell yn gallu gwneud penderfyniadau gyda ni yn dda iawn, iawn. A dwi'n credu bod hynny'n rhywbeth y gwnaeth y sefydliad yn dda iawn.
A rhoeson nhw lawer o bethau ar waith o ran cysylltiadau, cysylltiadau cymdeithasol. Felly, gwnaeth hynny helpu'n fawr oherwydd i rywun fel fi, roedd angen y cysylltiad cymdeithasol hwnnw arnaf er mwyn i mi wybod nad dim ond fi oedd. Nid fi yw'r unig un sydd ar ôl, y fenyw olaf heb ei chlywed, oherwydd fy mod i wedi cael fy nghloi yn fy nhŷ.
Felly roedd rhywfaint o, wyddoch chi- ar gyfer fy unedau i, cafwyd sesiynau ymgynnull fel tîm ac ymgynnull cymdeithasol, lle roeddech yn gallu dod â'ch diod eich hun. Rydych chi'n- nid cyffwrdd â phobl wyneb yn wyneb ydyw. Ond roedd yn fy atgoffa nad ydw i ar fy mhen fy hun. Mae yna bobl eraill gyda fi, ac roedd hynny'n dda iawn.
O ran bod yn y gwaith, roedd llawer o arolygon, yn rhyngwladol a hefyd ar draws y sefydliad ond hefyd o ran fy uned fy hun, er mwyn cael gwybod fy marn. Wyddoch chi? A hefyd math arall o gymorth oedd gweithio gyda fi i weld pa fath o gyfarpar sydd ei angen arnaf i'w gwneud hi'n hawdd gweithio gartref a phethau felly.
Felly, roedd cymorth o ran cyfarpar ar gael hefyd a chan fy mod yn sôn bod angen hwn a'r llall arnaf, cefais gyfle i ddod i'r swyddfa a chasglu'r pethau yr oedd eu hangen arnaf i'm helpu i gael trefn briodol ar bethau gartref. Felly roedd y sefyllfa o ran cyfarpar yn dda iawn yn fy marn i, a chefais gymorth yn hynny o beth. Hefyd, nodi pa fath o drefniadau cysylltu rheolaidd y byddai eu hangen arnaf.
Er enghraifft, roedd fy nhîm yn cynnal sesiwn codi ar eich traed ddyddiol, sef sesiwn 30 munud, gyda 15 munud i gael sgwrs am y pethau roeddech chi'n eu gwneud pan oeddech yn arfer gweld eich gilydd. Ac roedd 15 munud am waith, a oedd yn ddefnyddiol iawn, iawn.
Rydyn ni'n dal i fyny dros goffi hefyd, lle mae pawb yn dod i mewn ac yn dod â'n coffi gyda ni. Dim ond rhyw 15 munud arall oedd hynny i fi, ryw ddwy waith neu dair yr wythnos. Ac rydych- y pethau hynny rydych chi'n eu gwneud pan fyddwch yn eich swyddfa, rydych chi'n mynd i'r gegin ac yn digwydd gweld rhywun arall yno. Felly, rydym yn ceisio troi hynny i mewn i- Felly, rydym wedi rhoi llawer o bethau ar waith i geisio darparu cyfleoedd ar gyfer y rhyngweithio cymdeithasol hwnnw.
Felly, mater o nodi beth fyddai'n gweithio a chael ein hadborth ar hynny, pa fath o adnoddau yr oedd angen i ni eu trefnu, wyddoch chi, a faint o hyblygrwydd y mae angen i ni ei roi i bobl, gan roi'r gallu i bobl ddweud ei bod hi'n iawn i adael eich system am ryw 10 munud i fynd am dro. Anfon y math hwnnw o ddelwedd. Ein bod yn ymddiried ynoch chi, ac roedd hynny'n allweddol yn fy marn i gan eich bod yn meddwl, o, dydw i ddim eisiau iddo feddwl nad wyf fi ar-lein neu fy mod all-lein neu beth bynnag.
Felly, dydych chi ddim- dwi'n meddwl mai'r peth pwysig i mi am y sefydliad oedd nad oedd yn cymryd pethau'n ganiataol. Mewn gwirionedd, roedd yn cael ei gyfleu gan na allwch dybio bod rhywbeth yn cael ei roi'n awtomatig. Felly roedd hynny'n dda.
Dwi'n credu mai un o'r pethau y gellid ei wella yw pan fyddwn yn gwneud arolwg ac yn tueddu i weld mwyafrif, bod angen i ni aros am ychydig ac ystyried y lleiafrif. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae'n rhaid i ni geisio peidio â dim ond penderfynu cynnal pleidlais. O, 10 allan o 12. Mae hynny'n iawn. Awn ni gyda'r 10 o bobl.
Efallai bod y ddau berson yn ymddangos yn fach o ystyried y sefyllfa fwy- ond maent yn fodau dynol hefyd. Felly, dwi'n credu mai'r nod yw parhau i wneud beth maen nhw'n ei wneud ond ceisio cyrraedd y lleiafrif hefyd a gweld beth y gallan nhw ei wneud i ddarparu ar gyfer y lleiafrif hwnnw. Felly, petai'r mwyafrif yn dweud ei bod hi'n well gennym weithio mewn modd hybrid, mae'n well gennym- gallai fod lleiafrif bach, sy'n dueddol o fod eisiau rhywbeth gwahanol.
Ac mae'n ymwneud â meddwl y tu allan i'r bocs a dweud, iawn, sut gallwn ni eu cyrraedd nhw? Wyddoch chi? Ac nid mater o ddim ond ceisio addasu ar gyfer pob un person ydyw. Mae'n dweud y byddwn ni'n mynd ati ein hunain i wneud yn siŵr na chaiff y rhai bach eu colli. Caiff y lleiafrif eu colli ar adegau pan fyddwn yn ceisio dod o hyd i ateb.
Ond dwi'n credu bod defnyddio dull eich uned- mae eich rheolwr llinell o gymorth mawr gan y bydd yn cyflwyno elfen un i un. A dwi'n meddwl mai dyna fydd yn gwneud y gwahaniaeth enfawr. Ac mae hynny'n rhywbeth yr oedd fy uned yn gallu ei wneud. Felly, bydd hi'n braf clywed hynny ar draws yr uned gyfan gan y bydd hynny wir yn sicrhau bod y lleiafrif yn cael ei gynnwys.
Rydym wedi dysgu gweld pwysigrwydd bod yno i'n gilydd. Un o'r pethau a oedd yn wir cyn y pandemig oedd bod bywyd mor gyflym. Doedd dim eiliad o dawelwch. Wyddoch chi? Ac mae hyn wedi cyflwyno llawer o elfennau cadarnhaol o ran cefnogi ein gilydd.
Yn ystod y pandemig, daeth cydweithiwr nad oedd yn gweithio yn fy adran ond yr oeddwn yn arfer gweithio gyda hi draw â cherdyn a chodi llaw ataf gan ei bod hi'n teimlo fy mod i ar fy mhen fy hun. Roedd hi'n gwybod hynny wyddoch chi, ac roedd hi am weld sut oeddwn i. Felly roedd hynny'n rhywbeth a wnaeth– roedd yn falm i'r galon. Pum munud yn codi llaw o'm balconi Juliet.
Ond roedd yn dal i fod yn rhyw fath o- roedd yn gyfle i gael cysylltiad â rhywun. Felly dwi'n teimlo bod y cysylltiad hwnnw â phobl wedi ein hatgoffa nad ydym ar ein pen ein hunain. Ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n wych.
Achos, rydyn ni'n clywed am y pethau mawr sy'n digwydd. Ond yn y gwaith, dwi wedi gweld hynny gyda'm cydweithwyr, cysylltu â'n gilydd, rhyw fath o, hyd yn oed pan na allem weld ein gilydd, dim ond gyrru i lawr i dŷ rhywun, dim ond pwyso ar y corn a chwifio llaw atyn nhw, pethau fel hynny er mwyn – ac mae hynny'n rhywbeth sydd wir yn falm i'r galon. Felly dwi'n credu mai'r cysylltiad â phobl yw'r agwedd bwysig.
Felly cyn i'r pandemig ddechrau, fi oedd un o'r bobl hynny a oedd yn credu bod angen i mi fod yn y swyddfa i weithio. Roedd gen i feddylfryd cryf iawn yn hynny o beth- mae angen i'r swyddfa fod yn swyddfa a dyna sut mae'n gweithio. Ac un o'r pethau dwi wedi gweld yw bod gweithio gartref yn mynd yn- mae wedi fy ngwneud i'n fwy cynhyrchiol. Roeddwn i'n eithriadol o- rwy'n weithiwr caled iawn, ond mewn gwirionedd dwi wedi canfod fy mod i'n dod i adnabod fy lle fy hun.
Mae wedi fy natblygu i'n fwy ac nid yw hynny'n golygu fy mod i o blaid- dydw i ddim yn erbyn gweithio o bell. Ond yr hyn roeddwn i'n teimlo fy mod i wir, wir yn ei garu am hyn wrth ein cynnwys ni fel pobl yw cyn hynny, fod y gymdeithas hon wedi ein dysgu mai'r unig ffordd o weithio oedd trwy fynd i'r swyddfa. Mae'n rhaid i chi, a dyna oedd fy meddylfryd innau. Dyna'r unig ffordd, ac yna dwi'n dechrau cydnabod y gallaf helpu i- y datblygiad sy'n bosibl o ran penderfynu pa batrymau gwaith i'w dilyn.
A dwi'n credu bod hynny'n rhywbeth da y mae'r sefydliad yn ei gydnabod, felly byddwn yn ei wneud yn y ffordd hon. Mae'n rhaid iddo fod o 9:00 i 5:00. Dydw i ddim yn gwybod i ba raddau y llwyddwyd i fabwysiadu hynny, ond mae'r sgwrs am hynny yn bodoli. Hyd yn oed, ai 9:00 i 6:00 yw'r peth iawn i'w wneud? Felly, dwi'n credu bod hynny'n dod â'r bod dynol i'r blaen, gan ddweud ein bod yn cydnabod bod eich anghenion yn wahanol i anghenion unigolyn arall, felly fe wnawn weithio gyda chi.
Felly ers cymaint o flynyddoedd, buom yn trafod trefniadau gweithio cytbwys. Rydyn ni'n sôn am ddod â- rydyn ni'n sôn am sut rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gennych gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Ond dwi'n credu bod y pandemig hwn wir wedi pwysleisio hynny gan ei fod bellach wedi agor y drws ar gyfer y sgwrs, lle gallwn siarad go iawn a dweud, iawn, beth allwn ni ei wneud? Sut gallwn ni eich helpu chi i sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng bywyd a gwaith y mae ei angen arnoch?
Ac mae'n creu llawer o gyfleoedd i bobl fod yn greadigol gan fod angen lle tawel arnoch i fod yn chi eich hun. Felly o ran y pandemig, dwi'n credu ei fod wedi bod yn eithaf chwyldroadol i'r gweithlu. Felly, mae'n ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae'n gyffrous.