Transcript
GEMMA HALLETT:
Mae cynifer o gyfleoedd drwy brentisiaethau gradd, prentisiaethau, dysgu ar-lein, cyrsiau bach byr, microgymwysterau, cyrsiau dwys, academïau. Pan oeddwn i'n gadael yr ysgol, roedd yr opsiynau yn gyfyngedig. Mae llwyth o opsiynau nawr. A'r hyn sydd ei angen arnom yw i'r byd gwaith ddechrau gweld, mewn gwirionedd, y gallwn eu cael i mewn yn gynnar. Gallwn eu hyfforddi sut bynnag rydym yn dymuno. Gallwn eu hyfforddi'n fewnol. Gallwn eu hyfforddi drwy ddarparwyr gwahanol.
Ond, i bobl ifanc, mae'n ymwneud â dechrau gweithio'n gynnar, meithrin sgiliau, dysgu ac ennill arian. Yn yr economi hon, dyma'r gwahaniaeth rhwng gadael gyda dyledion neu adael gyda gradd a dim dyledion. Mae cynifer o opsiynau
Ac rwyf wedi cwrdd â phobl ifanc yn y cymoedd sy'n uwchsgilio drwy gyrsiau micogymwysterau amrywiol ac yn rhedeg busnesau ar yr ochr, ar ôl dysgu eu hunain drwy YouTube. Mae cyfleoedd anhygoel ar gael erbyn hyn. Un llwybr yw mynd i'r brifysgol. [CHWERTHIN] Mae'n ddrwg gen i, ond mae llawer mwy.
Rwyf wedi dysgu cymaint gan bobl ifanc. Rwyf wedi bod yn astudio Cenhedlaeth Z. Ond, cyn hynny, roeddwn yn gweithio ym myd addysg. Felly roeddwn yn dysgu'n gyson am beth sy'n helpu pobl ifanc i ddysgu yn well. A'r hyn rwyf wedi'i weld yw datblygiad y genhedlaeth hon sydd am fanteisio ar gyrsiau bach byr a dysgu ar alw. Mae'n fwy na'r hyn y maent yn ei weld a'i glywed yn unig, mae'n ymwneud â sut maent yn ymgysylltu. A'u hymddygiad, a sut maent yn dysgu.
Mae'n golygu bod ‘ymlaen’ drwy'r adeg, ac ar gael i ddysgu yn gyson. Ac YouTube yw'r ail chwilotwr mwyaf am reswm, oherwydd bod pethau ar gael ar ffurf gryno. Mae'n uniongyrchol.
A'r hyn rwy'n ei ddysgu gan Genhedlaeth Z yw'r bobl ifanc hyn yn dweud wrthyf eu bod am ddysgu'n gyson. Nid rhywbeth hanesyddol, unionlin, un flwyddyn academaidd ac un pwnc yw dysgu. Mewn gwirionedd, mae'n golygu ‘rydw i eisiau gwneud ychydig o hyn a'r llall. Ac mi fydda i'n dysgu wrth fynd, ac yn rhoi'r gorau iddi oherwydd bod y cyfan ar gael.’
Mae gennym bobl mewn diwydiant yn gwneud penderfyniadau. Ac rydym yn dal i ddod o'r safbwynt hierarchaidd. Mae pobl yn meddwl, iawn, rydym wedi gwneud pethau fel hyn erioed felly byddwn yn parhau i wneud pethau fel hyn. Ac rydym yn wynebu rhwystrau. Ond y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw siarad â phobl ifanc, neu siarad â'r bobl rydych yn eu cyflogi, siarad â'r bobl rydych yn gweithio gyda nhw. Beth sy'n gweithio orau i chi? Ac rwy'n credu bod hynny'n dileu'r rhwystrau.
Felly'r hyn y mae'n rhaid i ni ei ddeall gan bobl ifanc, os gallaf fynd â chi ar daith fach, mae gennym Genhedlaeth Alffa nawr sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd sydd wedi arfer â newid y teledu drwy lusgo eu bys. Hon yw'r genhedlaeth lusgo, y genhedlaeth gyffwrdd.
Un o'r pethau rwy'n gyffrous iawn amdano o ran dyfodol gwaith yw nid y gwaith ei hun o reidrwydd ond yr amgylchedd. Felly mae gennym Genhedlaeth Z sydd wedi tyfu i fyny ar eu dyfeisiau a'r genhedlaeth nesaf o gyflogeion yn dod i mewn sy'n barod i ddysgu, sydd eisiau dysgu, eisiau meithrin sgiliau newydd ac sy'n mynd ati i wneud hynny yn eu hamser eu hunain. Rwy'n meddwl bod hynny'n feddylfryd hanfodol y gallwn ei groesawu a mynd allan o'u ffordd a gadael iddynt barhau i wneud hynny ym myd gwaith.
A gwyddom fod gweithio hybrid a gweithio o bell yn dod beth bynnag. Y cyfan y mae'r pandemig wedi'i wneud yw cyflymu hynny. Felly mae o fudd i Genhedlaeth Z, ac mae'n rhywbeth rydym wedi anelu ato erioed. Nid pawb. Dydw i ddim eisiau cyffredinoli. Ond mae'r bobl o Genhedlaeth Z rwy'n siarad â nhw, y bobl ifanc rwy'n siarad â nhw, yn llawn cyffro am y posibilrwydd o weithio o bell, a pheidio â chael swydd 9 tan 5 gyffredin. Mae'n addas ar gyfer eu ffordd o fyw ar alw a chryno.
JESSICA LEIGH JONES:
Felly o fewn fy sefydliad yn iungo, gwnaethom ddarganfod er bod y bobl ifanc a oedd yn ymuno â'n sefydliad yn gyfarwydd iawn ag adnoddau cydweithio digidol, nid oeddent yn gallu defnyddio Excel yn arbennig o dda.. Felly, fel rhan o'n proses gynefino, bu'n rhaid i ni ddarparu hyfforddiant penodol ar ddefnyddio Excel a datblygu fformiwlâu Excel.
I aelodau mwy aeddfed y gweithlu, yr adnoddau cydweithio hynny oedd yn peri anhawster. Gallaf feddwl am enghraifft benodol lle byddai rhywun ond yn lanlwytho eu gwaith pan oedd wedi'i gwblhau yn llwyr, ac roedd hynny'n rhwystredig iawn i'r arweinwyr digidol a oedd yn dweud bod angen creu'r ffeil o fewn Google Workspace. Ac mae angen i bawb allu ei gweld, ac mae angen i bawb allu cyfrannu ati.
Ac roedd hynny'n newid byd go iawn i'r unigolyn penodol hwn oherwydd ei fod yn poeni y byddai'n cael ei feirniadu am beidio â chynhyrchu dogfen orffenedig. Felly gwnaethom lwyddo i gyrraedd cyfaddawd lle byddai'r unigolyn hwn yn datblygu'r ddogfennaeth o fewn y gyriant ond yn lanlwytho fersiwn PDF ar ôl ei chwblhau. Felly rwy'n credu bod hynny wir wedi helpu i gau'r bwlch rhwng y cenedlaethau o fewn y sefydliad a pharchu'r gwrthdaro diwylliannol, os hoffech chi, rhwng y rhai sy'n gyfarwydd â'r byd digidol a'r cyflogeion mwy aeddfed sydd gennym.
Mae dysgu pobl sut i ddefnyddio adnoddau digidol yn eithaf syml, ond weithiau mae eu defnyddio'n effeithiol i gydweithio ychydig yn fwy heriol. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn addysgu pobl mewn perthynas â llif gwaith digidol a symud oddi wrth rolau annibynnol mewn sefydliad lle mae unigolyn yn gyfrifol am swyddogaeth benodol.
A dyna beth mae'r unigolyn yn ei wneud a dim byd arall, a symud i fodel lle mae gennym strwythur mwy hyblyg lle rydym yn defnyddio gallu pobl wahanol o fewn ein sefydliad i gyfrannu at adeiladu rhywbeth gwell nag y gallai unrhyw un ohonom ei wneud yn unigol. A dyna yw grym y byd digidol, a grym adnoddau cydweithio digidol.
JONATHAN MORGAN:
Mae'r sgiliau a'r trawsnewidiad digidol rydym yn ei gael gan y genhedlaeth nesaf eisoes yn wych. Mae'r genhedlaeth nesaf eisoes yn ein haddysgu am sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, sut i groesawu technolegau newydd a'u defnyddio heb orfod mynd ar gwrs hyfforddiant chwe mis o bosibl. Nawr, y cyfan sydd angen ei wneud yw lawrlwytho ap, dechrau ei ddefnyddio a gwneud i bethau anhygoel ddigwydd.
Mae trawsnewidiad digidol ar y lefel honno yn wych. Ond yr hyn yr hoffem ei weld hefyd gan bobl sy'n dod i sefyllfa cyflogaeth yw bod yr adnoddau a ddefnyddir, yr adnoddau swyddfa, yr adnoddau llunio dogfennau a chreu taenlenni, a'r adnoddau cydweithio, bod y cyflogeion newydd yn cymryd yr amser i astudio'r rheini'n fanwl a'u dysgu'n dda iawn. Oherwydd eu bod yn allweddol ar gyfer cynhyrchiant o ddydd i ddydd.
Felly mae'n bosibl bod gan y genhedlaeth newydd y gallu anhygoel hwn i fynd i'r afael â phethau newydd a dysgu sut mae defnyddio dyfeisiau difyr yn gyflym iawn er budd y cwmni. Ond mae lefel sylfaenol o fanylder ar adnoddau o ddydd i ddydd na ddylid anghofio amdani, ac mae'n waith caled dysgu hyn.
ELISE LOCKYER:
Felly mae'r ddemograffeg wahanol sydd gennych yn y sefydliad yn mynd i fod yn bresennol bob amser. A pha genhedlaeth bynnag rydych yn canolbwyntio arni, mae damcaniaethau bod pobl wahanol yn cynnig “ffyrdd gwahanol o weithio”. Ond maent yn grwpio'r holl bobl hyn. Mae mileniaid yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae Cenhedlaeth Z yn ymddwyn mewn ffordd benodol.
Ac rwy'n credu mai'r gwirionedd yw, i fi, ei fod yn dod yn ôl at eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau fel sefydliad a'r hyn rydych yn ceisio ei gyflawni. Mae'n dod yn ôl at ddiben y busnes. Ac os ydych yn gwbl glir o ran diben y busnes a phwy ydych chi a'ch gwerthoedd a'ch ymddygiadau, dylech allu addasu ar gyfer pa genhedlaeth bynnag sy'n ymuno â'r gweithlu.
Nawr, mae'n debyg mai her gweithio hybrid a gweithio o bell yw y gall pobl wahanol ar adegau gwahanol yn eu bywydau fod yn fwy neu'n llai cyfforddus gyda thechnoleg. Felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr eich bod yn deall ac yn cael y sgyrsiau gyda'r unigolion hynny am y sgiliau hynny ac yn deall beth gallwn ei wneud i gefnogi datblygiad y sgiliau hynny drwy hyfforddiant a phrosesau cynefino.
I'r rheini sy'n dechrau gyrfa am y tro cyntaf, yr her yw y byddent yn eistedd gartref, o bosibl, ar eu diwrnod cyntaf. Ni fydd pobl o'u cwmpas. Ni fydd ganddynt restr glir o bethau i'w gwneud, na hyfforddiant, nac arweiniad, fel y byddent wedi'u cael pe baent yn y swyddfa efallai. Ac nid ydynt yn clywed sgyrsiau a gwersi anecdotaidd y byddwch yn eu hamsugno heb feddwl mewn amgylchedd swyddfa.
Felly un peth rydym wedi gorfod ei wneud yw bod yn hollol glir o ran sut rydym wedi dechrau dogfennu ein holl brosesau a gweithdrefnau, darnau bach yn esbonio sut mae gwneud pethau, ac agweddau ar wybodaeth fesul cam, lle gall pobl gael gafael ar wybodaeth pan fydd ei hangen arnynt.
Ac felly mae gennych chi gyfeiriadur o wybodaeth lle gall pobl gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt drwy system dechnolegol i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr anghenion a'r gofynion i wneud eu rôl, ond wrth gwrs, y gallant bob amser alw ar bobl o'u cwmpas drwy gynllun cyfeillio neu drwy eu tîm o bobl os bydd angen iddynt alw ar rywun er mwyn gofyn unrhyw gwestiynau ychwanegol y tu hwnt i'r hyn sydd wedi'i ddogfennu.