Transcript

JESSICA LEIGH JONES:
Fframwaith cyfreithiol yng Nghymru yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n annog sefydliadau i wella eu llesiant cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Ni yw'r wlad gyntaf yn y byd i gael beth gallech ei alw'n weinidog ar gyfer y rheini nad ydynt wedi'u geni eto. Felly mae gennym Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cynnwys saith nod allweddol.
Rhai o'r nodau hyn, er enghraifft, yw creu Cymru gydnerth, Cymru lewyrchus, Cymru sy'n fwy cyfartal. A datblygiad digidol yw un o'r ffactorau allweddol a fydd yn ysgogi hynny. Fodd bynnag, gall fod yn gleddyf daufiniog hefyd. Nid yw rhywfaint o'r seilwaith digidol sydd gennym yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel angenrheidiol er mwyn galluogi tegwch digidol. Ac rydym yn gweld allgáu digidol o ganlyniad i hyn.
Felly yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, gwnaethom gynnal rhaglen alffa wych ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, lle gwnaethom drawsnewid un o'r prosesau yn llwyr. Gwnaethom ddefnyddio negeseuon testun SMS i gynyddu cyfathrebu a lleihau amseroedd aros i gleifion a gofalwyr. Ac roedd y canlyniadau yn ardderchog.
Fodd bynnag, mae 12% o aelwydydd yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at fand eang neu signal ffôn symudol priodol o hyd. A byddai'r unigolion hynny wedi'u heithrio'n llwyr o broses wych fel honno. Felly mae gennym lawer o waith i'w wneud o hyd i fuddsoddi yn y seilwaith digidol hwnnw a rhywfaint o waith y mae'n rhaid i ni ei wneud i ystyried pobl nad oes ganddynt fynediad at hynny.
Rwy'n byw mewn ardal wledig iawn, nid wyf wedi gallu defnyddio prawf dilysu dau gam, sy’n fesur seiberddiogelwch hanfodol ar gyfer unrhyw sefydliad. Eto, am nad ydw i'n gallu derbyn negeseuon testun. Felly mae'n rhaid i ddatblygwyr safonau ac adnoddau digidol feddwl y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth oherwydd bydd rhai pobl wedi'u heithrio rhag defnyddio'r adnoddau hyn yn gyfan gwbl.
Rhywbeth o'r gorffennol yw swyddi am oes. Nid yw hyd yn oed yn golygu newid gyrfa sawl gwaith bellach. Mae'n golygu creu eich swyddi eich hun yn y dyfodol. Ac felly'r rôl y gall addysg bellach ac addysg uwch ei chwarae wrth helpu pobl i feithrin y sgiliau digidol hynny yw edrych o ddifrif ar sut rydym yn creu ymyriadau byr a bachog i uwchsgilio unigolion ac ar gyfer diwydiannau a chyflogwyr sy'n mynd ar y daith honno.
GEMMA HALLETT:
Nid wyf yn erbyn mynd i'r brifysgol, ond rwyf o blaid dangos yr holl opsiynau mewn ffordd sy'n ddigidol gynhwysol ac yn hygyrch i bobl ifanc. Y rheini sy'n mynd i'r brifysgol, yr 20% neu'r 30%, mae'r rheini'n iawn. Nid oes angen poeni am y rhain. Ond mae angen i ni boeni am y 70% / 80% sy'n weddill. Felly mae defnyddio adnodd, rhaglen ddigidol y maent wedi ymgysylltu â hi, y maent wedi'i chyd-greu, yn ffordd o ddangos yr holl gyfleoedd hynny, cynifer o gyfleoedd, yn enwedig yng Nghymru ar hyn o bryd, lle mae twf yn dod i'r amlwg mewn sectorau blaenoriaeth.
Fel y gall y bobl ifanc hyn, y rhai sy'n gadael yr ysgol, ddweud yn y pen draw-- nid yw'n ymwneud â swyddi'r dyfodol, mae'n ymwneud â sectorau'r dyfodol. Ond, i bobl ifanc, mae'n ymwneud â dechrau gweithio'n gynnar, meithrin sgiliau, dysgu ac ennill arian. Yn yr economi hon, dyma'r gwahaniaeth rhwng gadael gyda dyledion neu adael gyda gradd a dim dyledion. Mae cynifer o opsiynau. Rwyf wedi cwrdd â phobl ifanc yn y cymoedd sy'n uwchsgilio drwy gyrsiau micogymwysterau amrywiol ac yn rhedeg busnesau ar yr ochr, ar ôl dysgu eu hunain drwy YouTube. Mae cyfleoedd anhygoel ar gael.
Mae gennym bobl yn y diwydiant yn gwneud penderfyniadau, rydym yn dod o'r safbwynt hierarchaidd o hyd. Mae'n iawn. Rydym wedi gwneud pethau fel hyn erioed felly byddwn yn parhau i wneud pethau fel hyn. Ac rydym yn wynebu rhwystrau wedyn. Ond y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw siarad â phobl ifanc, neu siarad â'r bobl rydych yn eu cyflogi, siarad â'r bobl rydych yn gweithio gyda nhw i ganfod beth sydd orau i chi.
Ni allwn gyffredinoli bod gan bawb y set hon o sgiliau digidol. Yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, nid yw ar gael i bobl. Mae llawer o bobl, pobl ifanc yn ne Cymru, yn byw mewn tlodi cenedliadol, gyda thrydydd cenhedlaeth o dlodi mewn rhai rhannau o'r cymoedd. Os gallwn chwalu'r rhwystrau hyn gan ddefnyddio cysyniad syml iawn y mae'r bobl ifanc yn helpu i'w gynllunio er mwyn dod â'r cyfleoedd hyn i'w cymunedau a gyda'r byd gwaith fel y mae, modelau hybrid. Mae gennym gwmnïau yng Nghaerdydd sy'n gallu cyflogi pobl o'r cymoedd. A, heb orfod teithio, gallant weithio.
Mae cyfle a her i sefydliadau yng Nghymru hefyd. Felly os ydym yn canoli o gwmpas Caerdydd ar hyn o bryd, gall cwmnïau yng Nghaerdydd gyflogi pobl yn y cymoedd, pobl sy'n meddwl mai rhywbeth achlysurol yw teithio i Gaerdydd yn hytrach na rhywle i gymudo iddo. Felly mae'n agor y gronfa talent honno. Gallwn gyrraedd y cymunedau oherwydd dulliau gweithio o bell. Gallwn gynnig swyddi yng Nghymru i bobl o Gymru.
I'r gwrthwyneb, am nad yw'r set sgiliau ar gael o bosibl, mae'r swyddi hynny yn mynd i weithwyr o bell mewn lleoedd eraill. Mae 99.7% o fusnesau yng Nghymru yn BBaCh, ac mae 70% yn gwmnïau ag un unigolyn yn unig. Felly nid oes ganddynt yr adnoddau i uwchsgilio a chynorthwyo staff. Felly mae her yno. Ac rwy'n ceisio mynd i'r afael â'r her honno.
MATT WINTLE:
Rwy'n credu bod tegwch i bobl sy'n gweithio gartref yn bwysig iawn i ni. Hynny yw, sicrhau bod pobl yn cael yr un cyfleoedd. Ac mae hynny'n golygu sicrhau bod gan bobl yr un amgylchedd gweithio neu amgylchedd gweithio cyfartal. Ac mae angen gallu ymateb i hynny a gwrando ar hynny a darparu'r hyn sydd ei angen ar bobl er mwyn gallu gwneud eu gwaith yn dda. Ac rydym wedi gwneud hynny mewn sawl ffordd. Rydym wedi gwneud hynny drwy gymorth ariannol, cymorth technegol, rydym wedi osgoi dweud, ‘wel, bydd rhaid i chi ddod yn ôl i mewn felly’ oherwydd, eto, mae hynny'n creu system ddwy-haen.
Felly rwy'n credu bod sylweddoli nad yw popeth yn gyfartal a gallu ymateb i hynny a chynnig y cymorth sydd ei angen ar bobl wedi bod yn bwysig iawn i ni. Ac nid oedd hynny'n hawdd. Roedd y tri neu'r pedwar mis cyntaf yna, roeddwn i'n dal i weithio ym maes technoleg ar y pryd, yn heriol dros ben. Mae sicrhau bod gan bawb yr adnoddau angenrheidiol i allu gwneud eu gwaith yn effeithiol yn anodd iawn. Ac os nad aethoch drwy'r cyfnod dwys hwnnw o wneud hynny, yna byddai'n rhaid cynnal y ffocws dros amser oherwydd, fel arall, byddwch yn gadael pobl ar ôl.
A byddai ond angen anghofio am ychydig o bobl i ddechrau chwalu'r diwylliant cadarnhaol hwnnw a allai fod yn eich busnes. Mae'n bwysig iawn eich bod, fel busnes, yn parhau i ganolbwyntio ar degwch i bobl sy'n gweithio gartref ac yn y swyddfa a sicrhau bod y profiad yn wych i bawb, yn enwedig mewn perthynas â'r annhegwch posibl rhwng amgylcheddau cartref pobl a'u technoleg a'r hyn sydd ganddynt i weithio gydag ef. Ac ni allwch anghofio hynny oherwydd, hyd yn oed os byddwch wedi gwneud llawer o ymdrech i gyflawni hyn i bobl, mae'n bosibl na fydd yr un peth am byth. Felly nawr mae hyn yn rhan arferol o redeg y busnes.
MICHAEL WOODS:
Un o'r pethau y mae angen i sefydliadau ei ystyried os ydynt am annog pobl i weithio gartref yw mynediad cyfartal at hynny oherwydd, agwedd arall ar hyn wrth gwrs yw bod angen cysylltiad band eang dibynadwy er mwyn gallu gweithio gartref. Mae angen seilwaith digidol hygyrch.
Felly mae pryderon. Wrth feddwl drwy hynny, mae angen ystyried sut mae gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwahanol allu gwahanol i weithio gartref, ac mae ymdeimlad y gall twf hyn fod yn anghyson o ran daearyddiaeth, mae'n bosibl y bydd yn ffafrio rhai rhanbarthau dros rai eraill. Ac efallai yr hoffai sefydliadau a chwmnïau sy'n annog pobl i weithio gartref ystyried hynny, ystyried pa gymorth y gallai fod angen iddynt ei gynnig i gyflogeion sydd o bosibl eisoes yn byw mewn ardaloedd lle nad oes mynediad cryf at y seilwaith digidol.
P'un a oes ffyrdd y gallant eu cefnogi, p'un a oes angen iddynt ystyried, er enghraifft, ddarparu hybiau o bell neu gefnogi safleoedd mynediad o bell yn hytrach na gweithio gartref. Felly mae nifer o fentrau ar raddfa fach sy'n cael eu rhoi ar waith er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r bylchau gwirioneddol o ran mynediad at seilwaith digidol. Ond y ffordd arall o ymdrin â hyn yw ceisio meddwl o ddifrif am ddarparu cyfleusterau mwy cyfunol.
Felly ystyried mannau gwaith a hybiau cymunedol, mewn trefi bach er enghraifft. Gallai'r rhain gynnig mynediad at fand eang cyflym a chyfarpar digidol arall, efallai fod lleoedd i gynnal cyfarfodydd a mannau gwaith eraill y gallai pobl sy'n gweithio gartref ddod i mewn a'u defnyddio, yn ogystal â phobl sydd â busnesau lleol yn yr ardal o bosibl. Gallai'r lleoliadau hyn gael eu hychwanegu at gyfleusterau sydd eisoes yn bodoli, fel llyfrgelloedd ac ati. Neu gallent fod yn gyfleusterau newydd.
Felly eto, mae rhai mentrau yn dechrau datblygu yn y ffordd honno, ac mae rhai modelau hanesyddol ar gyfer hybiau o'r fath. Ond rwy'n meddwl bod hyn yn dod yn fwy o ran o waith cynllunio pobl mewn perthynas â sut mae angen i ni baratoi Cymru, yn enwedig Cymru wledig, drwy ddarparu'r seilwaith. Nid yn unig o ran y seilwaith technegol – y gwifrau a'r ceblau – ond hefyd seilwaith hybiau a mynediad at gyfleusterau er mwyn sicrhau bod manteision yr economi ddigidol yr un mor hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru.
NATASHA DAVIES:
Y gwir amdani yw, rydym yn mynd i fod yn hynod ddibynnol ar dechnoleg ddigidol. Ac os na fyddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r lefelau gwahanol o sgiliau digidol a chymhwysedd digidol sydd gennym ar draws y gweithlu, rwy’n meddwl bod perygl y byddwn yn eithrio pobl, yn enwedig os yw ein ffyrdd o sicrhau cyfathrebu da, cydweithio a rheoli iechyd meddwl a llesiant, yn gynyddol ddibynnol ar dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.
Felly rwy'n credu, fel busnesau, ond hefyd gan y llywodraeth, fod angen i ni fuddsoddi mewn sgiliau digidol sylfaenol heb os er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bawb linell sylfaen dda. Rwy'n credu y bu'n rhaid i rai sefydliadau yn eithaf cyflym, yn ystod y pandemig, fabwysiadu dull gweithredu llawer mwy digidol yn gyntaf. Felly rwy'n meddwl hefyd ei fod yn mynd y tu hwnt i'r sgiliau digidol sylfaenol a gwneud yn siŵr ein bod yn cefnogi staff, a'n gweithlu a'n harweinwyr i fod yn hyderus wrth groesawu technoleg newydd a rhoi cynnig arni wrth iddi gael ei chyflwyno.
Ni all hyn fod yn rhywbeth sefydlog. Gall technoleg fod yn ffordd wych o gynnwys pobl ond, os na chaiff ei defnyddio yn y ffordd gywir neu os na chaiff ei hystyried o safbwynt cydraddoldeb, gall eithrio pobl hefyd. Felly rwy'n credu bod hyn yn lle pwysig i bawb feddu ar lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o ran cydraddoldeb a chynhwysiant. A bod yn effro i'r ffordd y mae angen i hynny effeithio ar benderfyniadau ynghylch sut rydym yn defnyddio technoleg, sut rydym yn cyfathrebu, sut rydym yn strwythuro pethau fel cyfarfodydd tîm, lleoliadau gwaith cydweithredol, elfennau cymdeithasol, a'r math yna o beth. Os ydym am wneud y newid mawr i fwy o weithio o bell – sy'n ymddangos yn anochel ac, yn sicr, nod Llywodraeth Cymru yw cael 30% o'r gweithlu yn newid i weithio i ffwrdd o'r swyddfa fel mater o drefn – rydym yn mynd i orfod meddwl am y seilwaith sydd ar waith i gefnogi hynny ar lefel sylfaenol iawn i bob rhan o Gymru.
Er enghraifft, mae gennym ardaloedd gwledig mawr iawn yn y wlad. Oes gan bawb fynediad at fand eang cyflym ac o safon? Ddim ar hyn o bryd. Fel mae angen mynd i'r afael â hynny fel mater o frys. Oes signal ffonau symudol da? Oherwydd nid ydym wrth ein desg yn y swyddfa gartref bob amser, os ydym yn crwydro o gwmpas ar ein ffonau. Ac eto, nid oes signal ffonau symudol da ym mhob man.
Ond rwy'n credu ei fod yn ymestyn i benderfyniadau ynghylch adeiladu hefyd. Ydym ni'n adeiladu eiddo sydd â lle ar gyfer swyddfa gartref fel gofyniad safonol? Rwy'n credu bod hyn yn fwy o broblem mewn ardaloedd trefol, ond mae gennym nifer o dai amlfeddiannaeth, er enghraifft, yng Nghaerdydd, lle mai dim ond ystafell wely sydd gan bobl neu fflatiau stiwdio neu fflatiau un ystafell.
Ond rwy'n meddwl bod angen cael trafodaeth llawer mwy am oblygiadau ehangach y norm o weithio yn fwy ar wasgar ac o bell. Ac mae'r sgyrsiau hynny wedi dechrau, ond rwy'n credu bod angen iddynt ddigwydd yn llawer cyflymach mae'n debyg er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym yn rhoi pobl mewn sefyllfa nad yw'n gweithio'n dda iawn iddynt, er enghraifft, efallai nad oes ganddynt ddigon o le gartref neu efallai nad oes ganddynt fynediad at y band eang sy'n ofynnol er mwyn achub ar gyfleoedd newydd.
JO PARKER:
O ran creu sefydliad sy'n ddigidol gynhwysol, nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Mae pawb yn unigryw, mae gan bawb gefndiroedd gwahanol, mae gan bawb anghenion a phrofiadau gwahanol, ac rydych yn dod â'r holl bethau hyn gyda chi pan fyddwch chi'n dod i'r gwaith. O ran cynhwysiant, rwy'n credu, mae'n debyg, y pethau sy'n dod i'r amlwg-- rwy'n gweithio mewn llyfrgell, felly mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau yn rhithwir. Gwnaethom lwyddo i newid i ddarparu cymorth ar-lein i'n myfyrwyr ac rydym yn darparu y rhan fwyaf o'n gwasanaethau ar-lein beth bynnag.
Ond rwy'n credu mai'r hyn y gwnaethom ei ganfod wrth ryngweithio â'n gilydd oedd mai sicrhau bod gan bobl y lle i wneud eu gwaith oedd y peth anoddaf. Felly lleoliad priodol yn y gwaith ond yna newid i fod gartref a chadw'r cydbwysedd hwnnw rhwng bywyd a gwaith. Felly roedd lle yn broblem. Offer. Mynediad digonol at offer a mynediad digonol at fand eang. Y galedwedd a'r feddalwedd berthnasol, sicrhau bod popeth wedi'i osod ac yn gweithio. Ond yna, mae sgiliau yn fater i'w ystyried hefyd. Ac rwy'n meddwl, i fi, mai dyna'r tri phrif beth. Wrth sôn am fod yn gynhwysol, mae tri phrif beth i feddwl amdanynt. Oes gennych chi'r offer, y lle a'r sgiliau? Gan feddwl am sgiliau digidol a'r dyfodol a ble rydym yn mynd, rwy'n credu ein bod yn rhoi mwy o ffocws ar fynediad cyfartal. Rwy'n meddwl y bydd pobl sydd wedi tyfu i fyny gyda mwy o bethau digidol efallai yn dechrau-- roeddwn i'n mynd i ddweud ‘cymryd drosodd’, ond nid dyna rwy'n ei feddwl.
Mi fyddant yn dechrau dod i'r amlwg o ddifrif. Os ydych chi'n meddwl am fy mhlant i, maent yn chwarae gyda'u dyfeisiau ac yn dysgu pethau i fi. Ac rwy'n meddwl bod y posibiliadau o ddysgu gan bobl eraill a phobl iau yn addysgu pobl hŷn a beth bynnag, rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth cyffrous iawn.