Transcript
LURRAINE JONES
Helo. Lurraine Jones ydw i, a fi yw'r Dirprwy Ddeon ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Y Brifysgol Agored. Mae COVID-19 a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn parhau i dynnu sylw at yr anghydraddoldeb hiliol sy'n bodoli ym mhob rhan o gymdeithas y DU. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae gwaith ymchwil yn dangos nad yw'r maes addysg uwch yn un cyfartal i rai grwpiau o fyfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr Duon. Ni ellir anwybyddu anghydraddoldebau fel aflonyddwch hiliol a'r bylchau dyfarnu graddau clir rhwng myfyrwyr Duon a'u cyd-fyfyrwyr gwyn.
Boed yn aelod o staff neu'n fyfyriwr, mae cael eich cynnwys, teimlo ymdeimlad o berthyn a pherthynas â'r Brifysgol yn bwysig o ran llesiant ac o ran teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi. Cyhoeddodd Universities UK adroddiad o'r enw “Tackling Racial Harassment in Higher Education," a ddatgelodd bod bron i 25% o fyfyrwyr Duon ac o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cael profiad o aflonyddwch hiliol. Caiff y sgiliau cyflogadwyedd meddal sy'n ddymunol ar gyfer swyddi, gyrfaoedd a dyrchafiad, h.y. empathi, cyfathrebu, arweinyddiaeth a gwaith tîm, eu datblygu yn y cwrs hwn.
NATASHA DAVIES
Mae'n bwysig iawn bod arweinwyr a sefydliadau yn meithrin diwylliannau cynhwysol; eu bod yn cael y sylfeini'n iawn gan roi polisïau a gweithdrefnau da ar waith sydd, yn ogystal â bodloni'r isafsymiau cyfreithiol, hefyd yn gwneud ymdrech wirioneddol i anelu at yr arferion gorau; eu bod yn meithrin cydraddoldeb a chynhwysiant o'r brig o fewn strategaethau sefydliadol; eu bod yn gwneud yn siŵr bod rhywun yn hyrwyddo'r hawl hon ar lefelau uchaf y sefydliad, boed hynny o gwmpas bwrdd eich uwch-arweinwyr neu unrhyw fyrddau; eu bod yn sicrhau bod y diwylliant iawn ar waith er mwyn iddynt wneud yn siŵr y caiff polisïau a gweithdrefnau eu cymhwyso'n gyson; bod gennym arweinwyr ar bob lefel yn y sefydliad sy'n croesawu'r weledigaeth a'r gwerthoedd mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ac o ran diwylliant, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad yw'r ffocws hwnnw'n llithro oherwydd mae'n hawdd iawn datblygu arferion gwael. Ac yna gall hynny newid y diwylliant rydych wedi'i greu mewn sefydliad.
SAS AMOAH
Felly mae pum maes strategol allweddol yn LDS, fy uned i, sef Gwasanaethau Dysgwyr a Darganfod, ac mae'r pum maes hynny yn gyson â strategaethau ehangach Y Brifysgol Agored hefyd. Felly, mae gan y maes allweddol cyntaf yn fy adran, Pobl, Diwylliant ac Arloesi, lawer o is-grwpiau sy'n bwydo i mewn iddo. Ac un o'r rhai sy'n bwydo i mewn iddo yw EDI, a fi yw arweinydd y tîm EDI. Felly, mae gan y tîm nifer o wirfoddolwyr o bob rhan o'r uned, sy'n ddefnyddiol iawn. Ond yn ogystal â chael gwirfoddolwyr o'r tu fewn i'r uned, mae gennym nifer o wirfoddolwyr o'r tu allan i'r uned.
Felly, mae nifer o unedau a phobl wahanol wedi'u cynrychioli sy'n perthyn i nifer o wahanol fathau o gategorïau hefyd, a grwpiau ar y cyrion. Ond mae gennym hefyd bencampwr gweithredol yn y grŵp, sy'n ddefnyddiol iawn. Felly, pan fyddwn ni'n dechrau cynnig y syniadau hyn, gall y pencampwr gweithredol eu hyrwyddo o ran trio eu troi'n bolisi hefyd. Ond mae gennym gynrychiolaeth o'r swyddfa EDI ganolog hefyd, felly dyna mewn gwirionedd yw ein cysylltiad canolog. Felly, wrth i ni ddatblygu'r polisïau a'r cynigion hyn, mae gennym linell uniongyrchol i'r tîm EDI canolog a gall y tîm hwnnw ein helpu i'w llywio wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith.
Mae cael nifer o wirfoddolwyr gwahanol o bob rhan o'r uned yn werthfawr iawn, yn enwedig oherwydd bod gennym nifer o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol, o lefelau gwahanol, o lawer o brofiadau personol gwahanol hefyd. Felly, dwi'n teimlo bod cael yr holl bobl hynny gyda'i gilydd yn annog sgyrsiau agored a gonest iawn, ac yn cynnig ffordd hawdd iawn o nodi rhwystrau y mae grwpiau penodol yn eu hwynebu. Felly, ar ôl i ni nodi rhwystr, rydym yn ceisio datblygu polisi a fyddai'n mynd i'r afael â'r pryder penodol a godwyd.
Felly dwi'n gwybod, yn y gorffennol, bod polisïau sydd bellach yn rhan o drefniadau busnes fel arfer yn yr unedau wedi dechrau yn y grŵp. Felly, er enghraifft, mae gennym bellach amcanion cydraddoldeb sy'n rhan o CDSA, Arfarniadau Datblygu Gyrfa, sy'n gam cadarnhaol iawn. Ond rydym hefyd wedi clustnodi cyllidebau datblygu gyrfa yn benodol ar gyfer pobl o grwpiau ar y cyrion. Felly, awgrymodd ein gwaith ymchwil fod pobl o grwpiau ar y cyrion yn llawer llai tebygol o ymgymryd â'r hyfforddiant. Felly, drwy glustnodi'r gyllideb datblygu hyfforddiant, gallwn sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn, hyd yn oed os na fyddant wedi ymgymryd â'r hyfforddiant ar ddechrau'r flwyddyn.
NATASHA DAVIES
Wrth reswm, bydd hyfforddiant a phethau felly'n bwysig iawn hefyd ond nid fel digwyddiad untro yn unig. Buddsoddiad parhaus mewn datblygiad ydyw er mwyn i'r holl staff gyfrannu at amgylchedd gwaith mwy cyfartal, teg a chynhwysol. Ac yna, yn y pen draw, mae'n bwysig iawn ein bod yn mesur yr hyn rydym yn ei wneud. Oes dangosyddion perfformiad allweddol sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth? Ydym ni'n cynnal arolygon ymgysylltu â staff er mwyn cadarnhau bod y syniad sydd gennym o ddiwylliant y sefydliad yn gywir? Oherwydd os nad ydym yn mesur ble rydyn wedi cyrraedd, fyddwn ni ddim yn gwybod pryd i ddathlu llwyddiannau. Ni fyddwn yn gwybod lle mae angen dysgu o gamgymeriadau, ac ni fyddwn yn gallu nodi meysydd lle gallwn newid ac addasu er mwyn bod hyd yn oed yn well o bosibl neu er mwyn datrys unrhyw broblemau a allai fod gennym.
SAS AMOAH
Yn ein barn ni, un o'r effeithiau cadarnhaol rydym wedi'i chyflawni o ddatblygu gwaith yn y ffordd hon yw creu proses recriwtio fwy cynhwysol. Er enghraifft, rai blynyddoedd yn ôl, gwnaethom gynnal peilot recriwtio dienw a gwnaethom gymharu nifer y staff a gawsom o amrywiaeth o gefndiroedd fel rhan o'r broses recriwtio draddodiadol yn erbyn y broses recriwtio ddienw.
A'r hyn y gwnaethom ei ganfod, pan wnaethon roi'r gorau i ddefnyddio llawer o'r wybodaeth ddynodi, fod cynrychiolaeth o grwpiau o gefndiroedd sy'n sylweddol ar y cyrion a'r unigolion o'r grwpiau hynny a gafodd eu cyflogi gan Y Brifysgol Agored bron wedi dyblu. A daeth hynny'n sail dystiolaeth gref iawn i'r adran adnoddau dynol ganolog, yr hyn a gaiff ei alw'n “Gwasanaethau Pobl” gennym, ailystyried ei phroses recriwtio gynhwysol hefyd. Felly, maen nhw wedi ymgymryd ag elfennau o'r hyn a ddatblygwyd gennym ac wedi creu eu proses recriwtio ddienw eu hunain.
Ar gyfer sefydliadau addysg uwch, byddai mynd i'r afael â'r bwlch dyfarnu graddau rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr yn bryder allweddol. Yn sicr, dylai hynny fod yn ffocws penodol yn fy marn i. Ac wrth reswm, un o'r ffyrdd y gallwch ddechrau cefnogi myfyrwyr yn y ffordd honno yw trwy greu cwricwlwm mwy cynhwysol. I'r staff, dwi'n credu os gallwn ddechrau mynd i'r afael â'r bwlch cyflogau rhwng grwpiau ethnig gwahanol a rhywiau gwahanol hefyd, dwi'n credu bod honno, unwaith eto, yn ffordd dda a chadarn iawn o fynd i'r afael â materion. A dwi'n credu bod y ddau bryder allweddol hyn yn bwysig iawn o ran addysg uwch.
NATASHA DAVIES
Dwi'n credu bod pethau y gallwn ni eu gwneud fel cyflogwyr, oes, mae yna gamau cadarnhaol y gellir eu cymryd fel rhan o'n hymarferion recriwtio. Ond mae yna bethau eraill y gellir eu gwneud o ran recriwtio, o ran sut rydym yn dylunio disgrifiadau swyddi, sut rydym yn dylunio swyddi. Mae'n dod yn ôl i bethau fel ffyrdd o weithio. A fydd gweithio gartref yn bosibl i bawb? Na fydd. Felly, rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnig ffyrdd gwahanol o weithio a fydd yn gweddu i amgylchiadau pobl wahanol.
Gan weithio gyda grwpiau cymunedol, arweinwyr dibynadwy mewn cymunedau gwahanol, gan fod ymddiriedaeth yn fater pwysig hefyd. Yn enwedig, er enghraifft os ydym yn sôn am bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, mae hiliaeth yn rhemp o hyd. Mae gwahaniaethu yn rhemp o hyd. Mae cymaint o straeon am brofiadau gwael ym maes cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae poblogaeth lai o bobl o gefndir ethnig lleiafrifol o bosibl. Dyna pam ein bod yn gweld nifer mawr o bobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn gadael de Cymru, er enghraifft, i symud i leoedd fel Birmingham a Llundain, gan fod ymdeimlad y bydd y lleoedd hyn yn cynnig amgylchedd mwy croesawgar, cynhwysol a diogel iddynt.
Felly, dwi'n credu bod ymddiriedaeth yn bwysig iawn, a gallwn wneud llawer â chymunedau lleol. Wrth feddwl am lwybrau i mewn, allwn ni wneud mwy o ran prentisiaethau, interniaethau i roi cyfle ymarferol i bobl ddod i mewn a chanfod eu ffordd? A dwi'n credu bod cynnwys y mesur gweithredu cadarnhaol yn bwysig hefyd, oherwydd nid ydym yn byw mewn meritocratiaeth. Hoffen i pe byddem, ond y realiti yw, weithiau, mae angen i ni drin pobl yn wahanol er mwyn gwneud yn siŵr bod canlyniadau yn deg. A nes ein bod yn cyrraedd y pwynt lle gallwn sicrhau chwarae teg i bawb, rwy'n meddwl y bydd hynny'n ofynnol.
DAVE SNOWDEN
Dwi'n cofio rhoi darlith yn Google unwaith a nodwyd rhywbeth a ddywedais, sef os ydych chi wir eisiau recriwtio codwyr da, gallech edrych ar bobl â Syndrom Asperger. Ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n dda iawn am godio yn dda iawn mewn mathemateg hefyd ac ar y pen hwnnw o'r raddfa. Does dim byd yn gywir nac anghywir yn ei gylch. Dwi wedi ysgrifennu sawl erthygl ar gyfer rhywun sy'n synesthesiac, felly mae hi'n gweld testun fel lliwiau. Ac nid yw'n ymwneud ag amrywiaeth wybyddol yn unig. Mae'n ymwneud ag amrywiaeth ffisegol ac arbrofol hefyd.
Felly, un o'r pethau mawr y mae angen i ni ddechrau edrych arno ar hyn o bryd, yw sylweddoli na chaiff ymwybyddiaeth ei chyd-leoli â'r ymennydd. Gelwir hyn yn “ddealltwriaeth ôl-Cartesaidd”, a'r ddeuoliaeth meddwl a chorff yw hynny. Mae'r cysyniad Cartesaidd wedi bod yn hynod broblematig. Felly, rydym yn gwybod bod y corff yn gwneud llawer o benderfyniadau drosoch chi. Dim ond ar ôl i chi wneud eich penderfyniad y bydd eich ymennydd yn gweithio, er mwyn gwirio a oedd yr ymateb awtomataidd yn iawn y tro hwn neu beidio.
Gwyddom hefyd o lyfr Andy Clark, o'm gwaith i a gwaith pobl eraill bod naratif cymdeithasol yn cynnig math o gynhaliaeth estynedig ar gyfer eich ymwybyddiaeth. Ie? Ac mae hynny'n cysylltu â chysyniadau lledrithiol, er enghraifft, o gydosodiadau a'r cysyniad cymhlethdod o atynwyr dieithr a chysyniad naratif trosiad. Felly mewn gwirionedd, rydych chi yn yr ecosystem hynod gymhleth hon. Nid ydych yn cael data ac yn edrych arnynt yn rhesymegol ac yn gwneud penderfyniad. Ie?
Mae elfennau penodol yn gysylltiedig â'r amgylchedd rydych chi ynddo. Ceir strwythurau cydosod sy'n penderfynu ar yr hyn rydych chi'n ei weld neu'r hyn nad ydych yn ei weld. Ac yna, mae gennych y materion gwybyddol sylfaenol hyn, graddau'r cyfrifoldeb sydd gennych, graddau'r ddealltwriaeth sydd gennych. Felly dywedwch ein bod yn dechrau edrych ar hynny mewn ffordd wahanol, o ystyried y ffordd rydym yn gweithio nawr, byddech yn cyflwyno sefyllfa, er enghraifft, i'ch gweithlu cyfan. Byddent yn dehongli'r sefyllfa honno ac mae'r dehongliad dynol yn allweddol.
Rydym yn defnyddio'r hyn a elwir yn “arwyddocâd semiotig” neu'n “arwyddocâd haniaeth uchel” fel nad oes neb yn gwybod beth yw'r ateb iawn. Mae hynny'n bwysig iawn. Fel arall, bydd pobl yn chwarae gemau. Ac o hynny, ceir “tirweddau ffitrwydd”. Daw hyn o fioleg esblygol. Felly, maent yn dangos potensial esblygol y cyflwr presennol, prif feysydd lle bydd y penderfyniad yn cael ei dderbyn yn hawdd, meysydd lle bydd yn fwy anodd. Ac yna'n hollbwysig, yr allanolion hynny, y bobl hynny sydd wedi gweld gorila. A gallwn wneud hynny nawr er mwyn i swyddog gweithredol allu gweld y canlyniadau hynny ymhen pum munud. Mynd ati i'w gyflawni, cael y canlyniadau, peidio byth â siarad. Ac mae hynny'n chwalu'r broses linellol.
MATT FINCH
Dwi'n credu mai un o'r cwestiynau mawr y mae cymunedau'n ei wynebu mewn adeg o newid yw'r syniad o gynhwysiant ac anghydraddoldeb. Ac mae hyn yn berthnasol ar bob lefel, o ddaearyddiaeth a phoblogaeth, i unigolion a sut y cânt eu croesawu i le ac i gymuned ac i sefydliad. A chafwyd rhywfaint o waith rhagweld diddorol y bûm yn ddigon ffodus i fod yn rhan ohono drwy Raglen Horizon Europe y Comisiwn Ewropeaidd o'r enw “IMAJINE”, sy'n edrych ar y ddynameg newidiol rhwng gwledydd a rhanbarthau Ewrop.
A dwi'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn i'w gofio, yn enwedig o ran cynhwysiant digidol, yw nad yw'n ymwneud yn llwyr â sgiliau a gallu technegol, mae'n ymwneud â gwerthoedd newidiol. Yn anad dim, mae'n ymwneud ag ymdeimlad newidiol o hunaniaeth. Un o'r pethau y gwnaethom ni sylwi arno oedd na allwch fwrw ati i ddim ond cyfrifo pethau wrth ystyried cyfiawnder, gan ei fod yn ymwneud â gwerthoedd. Rhywbeth ansoddol ydyw o hyd, sy'n symud, sy'n destun dadl a thrafodaeth. Ac os byddwch yn ystyried mynd i lys barn a'u bod yn sôn am benderfynu ar rywbeth ar sail cydbwyso tebygolrwydd, nid yw wir yn ymwneud â thebygolrwydd a rhifau bryd hynny hyd yn oed. Mae'n ymwneud â straeon cystadleuol sy'n ceisio perswadio pobl o hyd.
Felly, un o'r pethau y mae angen i ni feddwl amdano yw hunaniaeth a gwerthoedd pobl a hyd yn oed yr anghydbwysedd pŵer sy'n rhan ymhlyg o gynhwysiant. I ba raddau y mae'r sefydliad neu'r gymuned ei hun yn dweud y byddwn yn parhau'n ddigyfnewid ac y byddwn yn eich croesawu? I ba raddau y byddwn ni hefyd yn newid i addasu i newydd-ddyfodiaid, i'r newid o ran cyfansoddiad y cymunedau gwahanol rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt? Gwelais sylw diddorol iawn yn ddiweddar gan feddyg yn Seland Newydd a oedd wedi newid y nodiadau roedd wedi'u gwneud am ei gleifion. A dywedodd, roeddwn i'n arfer ysgrifennu "patient doesn’t speak English" ac erbyn hyn dwi'n ysgrifennu, "doctor doesn’t speak Arabic" neu beth bynnag yw'r iaith.
Felly un o'r pethau i feddwl amdano yw, sut mae'r pŵer yn gweithio yn y lleoliadau gwahanol hyn? Ac mae pethau fel ‘Ynysoedd yn yr Awyr’ yn rhoi cyfle i ni ystyried a yw'r ddynameg honno'n newid. Yn draddodiadol, cafwyd rhaniad trefol-gwledig, ond gallai pegynau’r rhaniad hwnnw newid gydag amser. A gwelsom gyda'r pandemig a gyda'r ffasiwn am weithio o bell, i ba raddau y gallai pobl ffoi o'r dinasoedd, y syniad y gallai technolegau digidol greu cyfleoedd newydd er mwyn i bobl fyw yn wahanol, gan gynnwys lle maen nhw'n byw.
Ond wedyn, mae'n ymwneud â mynediad, nid dim ond at y seilwaith, nid dim ond at y sgiliau technegol sy'n gadael i chi golli'r offer hyn, ond hefyd â'r cwestiynau hynny o ran diwylliant a gwerthoedd a chyfiawnder. A'r gwir amdani yw, oherwydd bod y pethau hyn yn digwydd nawr, mae angen i ni ddychmygu cyd-destunau gwahanol posibl er mwyn deall beth sy'n digwydd go iawn. Oherwydd nid yw'r barnau gwerth hynny yn ymwneud yn unig â'r hyn sy'n gywir ac yn anghywir nawr, yn ein barn ni. Maent yn ymwneud â sut y bydd pethau'n gweithio yn y dyfodol.