Transcript

SHAUNNA LATCHMAN
Helo, fy enw i yw Shaunna. Fi yw'r Swyddog Cyfathrebu gweithredol yma yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru, sy'n cefnogi cyfathrebiadau mewnol gan mwyaf, gyda ffocws gwirioneddol ar iechyd meddwl a llesiant. Dydw i ddim wedi bod yma'n hir iawn. Rydw i wedi bod yma ers dechrau'r flwyddyn a dweud y gwir. Felly mae llawer o newid wedi bod.
Ac mae wedi bod yn eithaf braf a dweud y gwir, oherwydd pan ymunais i, roedden ni'n dal i weithio mewn modd hybrid, ac yn fwy na dim roeddem yn gweithio gartref. Ac erbyn hyn, rydym wedi symud i'r cartref a'r swyddfa. Ac a bod yn hollol onest, mae wedi bod yn brofiad gwych yma yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, a alla i ddim wir â dweud hynny am amgylcheddau gweithio blaenorol
Rydw i wedi bod yn y maes addysg uwch ers rhyw chwech neu saith o flynyddoedd erbyn hyn, ac yn fy rׅôl flaenorol wrth gwrs, cawsom ein rhoi dan gyfyngiadau symud yn ystod 2020, ac roedd hynny'n dipyn o newid byd i bawb. Ond fel menyw Ddu, roeddwn i'n teimlo bod yna rai profiadau a oedd yn unigryw iawn i gymunedau Du a Brown. Ac rwy'n teimlo i hynny fod yn dipyn o addasiad ar y pryd.
Oherwydd roedd pawb yn yr un cwch, ond yna, oherwydd lliw eich croen, roeddech chi'n teimlo bod yna rai elfennau na fydd neb arall yn eu deall. Ar y pryd, rhoddwyd cryn dipyn o sylw i'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar gymunedau Du a Brown oherwydd eu cefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Felly, roedd gennych y pandemig yma'n barod, ac yna roedd gennych y peth yma a oedd, oherwydd lliw eich croen, yn gallu effeithio hyd yn oed yn fwy arnoch.
Ac roedd y penawdau wir yn gallu codi ofn arnoch, felly heb wneud y gwaith darllen, roeddech chi'n dod i ryw fath o dybiaethau ar eich pen eich hun. Ac yna, unwaith yr oeddech yn deall y rhesymeg am y penawdau hynny, roeddech chi'n cymryd anadl. Ac yna'n ddiweddarach, cawsom achos o lofruddiaeth erchyll George Floyd, ac unwaith eto, rydych chi'n cael eich gorfodi i wynebu eich cefndir a lliw eich croen, ac yna mae'n rhaid i chi gael sgyrsiau nad ydych chi eu heisiau eu cael o reidrwydd mewn amgylchedd proffesiynol.
Oherwydd, yn anffodus, ar y pryd, fi oedd un o'r unig bobl Ddu yn fy nhîm ac yn fy adran, ac roeddwn i'n gorfod esbonio'r emosiwn y tu ôl i'r hyn a oedd yn digwydd o gwmpas y byd yn gyson, sut roedd yn effeithio arnaf, sut y byddai'n effeithio ar fy narpar gydweithwyr, oherwydd doedd dim llawer o bobl yn fy swyddfa a oedd yn edrych fel fi. Ac rydych chi am wneud y peth diwyd o fod yn gefnogol i'ch cydweithwyr ac ateb y cwestiynau oherwydd bod pobl bellach yn chwilfrydig ac maen nhw am wybod, roedd yna linell denau iawn rhwng chwilfrydedd ac anwybodaeth. Felly unwaith eto, rydych chi'n wynebu'r ofn gwirioneddol iawn o fod mewn pandemig, ac yna hefyd, cynnwrf emosiynol yr hyn sy'n digwydd o gwmpas y byd.
Ac alla i ddim ag esbonio'r peth, ond roedd fel petai fy nghorff wedi ymlâdd yn gyson. Oherwydd, rydych chi'n meddwl am aelodau eich teulu, rydych chi'n meddwl am y ffordd rydych chi'n edrych a sut mae hynny'n effeithio ar eich profiad, ac mae hynny'n rhan o'ch profiad pob dydd fel rhywun Du, ond rydych chi'n rhoi hynny i un ochr i bob pwrpas oherwydd bod gennych waith i'w wneud, oherwydd rydych chi am gael eich ystyried yn rhywun normal. Rydych chi am gael eich gweld fel pob un arall. Dydych chi am gael eich atgoffa eich bod yn Ddu, oherwydd rydych chi'n gwybod hynny, ac rydych chi'n gwybod bod eich profiadau yn wahanol.
Ond roedd y cyfnod penodol hwnnw yn un o straen ofnadwy. Ac yn anffodus, doedd y sefydliad yr oeddwn ynddo ddim yn gefnogol. A gwnaeth hynny wneud imi deimlo'n eithaf isel, eithaf ynysig ac yn siomedig iawn a bod yn hollol onest.
Ac yna, yn y diwedd, deuthum o hyd i'r swydd yma yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, ac mae'r gwahaniaeth yn y ffordd y mae pobl yn dod ataf i, y gwahaniaeth yn y ffordd yr ydw i wedi cael fy nhrin, yn aruthrol. Ac nid yw hynny'n golygu nad oedd fy nghydweithwyr yn fy sefydliad blaenorol yn bobl hyfryd, mi oedden nhw. Roedd a wnelo mwy â'r ffaith nad oedd y rheolwyr yn gwybod sut i drin y sefyllfa a doedden nhw ddim yn gwybod sut i'm cefnogi fel unigolyn Du ac roedd hynny'n siomedig dros ben.
Ond mae'n stori gwbl wahanol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae'n teimlo'n llawer mwy cynhwysol a chroesawgar. Ac mae yna rai microymosodiadau rydych chi'n cael profiad ohonynt fel person Du o ddydd-i-ddydd ac rydych chi'n delio â nhw i bob pwrpas oherwydd dydych chi ddim eisiau gorfod esbonio pethau i bawb. Ond doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i mewn sefydliad lle y gallwn i fod yn fi fy hun.
Does neb yn fy holi am unrhyw beth. Does neb yn gwneud imi deimlo'n anghyfforddus. A phan ddaw pobl ataf yn llawn chwilfrydedd, mae'r chwilfrydedd hwnnw'n gwbl onest ac agored. Nid yw'n cael ei wneud mewn ffordd ymwthiol na chyhuddgar, sydd wedi bod yn brofiad dymunol iawn i mi.
Mae bod yn Y Brifysgol Agored bron wedi glanhau'r system. Roeddwn i wedi cael llond bol ar rai pethau a oedd yn digwydd yn gyson, drosodd a throsodd ar ôl gweithio ym maes addysg uwch cyhyd. Ac rydych chi'n dadrithio i ryw raddau.
Dechreuais yn y maes gwaith hwn i ddechrau gyda'r gobaith o newid pethau, cael dylanwad, ac yn ddelfrydol, annog mwy o bobl a oedd yn edrych fel minnau naill ai i weithio ym maes addysg uwch neu gymryd rhan mewn addysg uwch, yn enwedig oherwydd doedd gen i ddim cymwysterau lle roedd addysg uwch yn y cwestiwn. Y tro cyntaf i mi sylweddoli pa mor wahanol oedd y Brifysgol Agored oedd pan ymunais i ym mis Ionawr a dywedodd rhywun wrthyf y bydd llwyth o gyfarpar yn cael ei anfon atoch a dyma sut y byddwch yn eu defnyddio.
Ac rwy'n cofio derbyn y pecyn yma, ac ynddo roedd popeth y byddai ei angen arnoch, felly sgrin fawr, gliniadur, clustffonau, popeth y byddai ei angen arnoch i gael y drefn gywir yn y cartref. Cafodd popeth ei ddarparu ar fy nghyfer.
Roedd rhaid i fi gael fy sgrin fy hun yn fy rôl flaenorol. Bu'n rhaid i mi gael fy mysellfwrdd fy hun. Roedd rhaid i fi fynd i mewn i'r swyddfa yn gorfforol i gasglu pethau. Roedd hi'n glir iawn fod y Brifysgol Agored wedi dysgu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, o fod mewn pandemig, a phwysigrwydd cael y drefn weithio gywir.
Ac nid oedd tybiaeth fod gen i'r nwyddau na'r drefn gywir gartref. Roedd hi bron fel, a oes gennych bopeth sydd ei angen arnoch? Os na, mae'n iawn. Peidiwch â phoeni. Dyma restr wirio. Rydym yn mynd i anfon hyn i gyd atoch chi.
Felly, fyddwn i'n dweud bod fy rheolwr llinell i'n wych. Rydym yn cael sesiynau dal i fyny rheolaidd bob wythnos, ac rydym yn llunio ein rhestr wirio arferol o beth sy'n digwydd, ac yna mae wastad lle ac amser i mi drafod unrhyw beth sy'n fy mhoeni. Ac mae bron fel petai, eich cyfle chi yw hi nawr, beth bynnag rydych chi eisiau ei drafod.
Ac oherwydd y ffordd y mae'n troi at bethau ac oherwydd ei ffordd hamddenol gyda fi, dydw i ddim wedi cael unrhyw broblemau yn dweud, rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn am y peth hwn, neu roedd hyn yn dân ar fy nghroen i. Allwn ni edrych ar hyn yn wahanol? Mae'n agored iawn i glywed sut ydw i'n teimlo am rywbeth. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, cael rheolwr llinell sy'n gadael i chi ddweud sut rydych chi'n teimlo ac yna'n gwrando arnoch ac yn gweithredu ar eich pryderon. Mae hynny'n gwneud imi deimlo'n fwy hyderus yn y sefydliad cyfan.
Felly, mae yna lawer o bobl yn ein swyddfa, ond dydych chi byth yn teimlo felly oherwydd bod gennym system gylchdro yma. Er enghraifft, bydden i'n dod i mewn ddydd Llun a dydd Iau, ac yna, bydd rheolwr y swyddfa'n cyfathrebu i wneud yn siŵr bod lle parcio ar gael, er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych bopeth i'ch gwneud yn gysurus. A hefyd, pan fydd cyfleoedd yn codi i ni ddod i mewn ar ddiwrnodau nad ydym yn arfer dod i mewn arnynt, caiff hynny ei annog hefyd er mwyn ein galluogi i gymysgu â chydweithwyr nad ydym yn eu gweld yn aml. Mae bod gartref yn amlach wedi cynnig cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, ac mae'n teimlo fel petaen nhw'n cydnabod hynny ac am annog y gefnogaeth honno ar gyfer eu staff.
Felly mae yna elfen o gyfrwng cyfathrebu dwy ffordd heb os, boed hynny o'r diweddariadau rheolaidd gan y cyfarwyddwr a hithau'n atgyfnerthu'r mesurau diogelwch maen nhw wedi'u rhoi ar waith a bod cyfryngau cyfathrebu agored, neu drwy reoli llinell gwirioneddol a'r bobl hynny'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gwrando ar eu staff unwaith eto, ac yn rhoi'r cyfle iddynt roi adborth. Gyda'r ffocws ar iechyd meddwl ac ar lesiant, mae'n bwysig i ni wrando ar y ffordd y mae pobl yn teimlo nawr oherwydd mae yna bandemig o hyd a chryn dipyn o ansicrwydd, ac mae pobl yn dal i orfod gwneud llawer o newidiadau yn ymwneud â gofal plant a chyfrifoldebau gofalu a chymudo. Felly mae'n teimlo fel pe bawn ni'n ceisio pontio'r bwlch i sicrhau bod pobl yn teimlo'u bod yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod penodol hwn.
Yma, rwy'n edrych ymlaen yn wirioneddol at ddod i mewn oherwydd fy mod i'n teimlo'n ddiogel. Rwy'n teimlo bod y swyddfa wedi'i threfnu i lifo'n rhydd, i bobl gael digon o le, ar gyfer yr ardaloedd diheintio ym mhobman. Felly, mae'r diogelwch corfforol yno.
Mae yna ymadrodd, a elwir yn gyfnewid codau, ac yn ei hanfod mae'n golygu lle mae rhywun o-- rwy'n credu, yn wreiddiol, iddo gael ei greu i drafod pobl o gymunedau amlddiwylliannol neu gymunedau amlieithog, felly rydych chi'n cyfnewid rhwng ieithoedd. Ac wrth i amser fynd heibio, mae wedi dod yn ymadrodd sy'n ymwneud mwy â disgrifio pobl o gefndiroedd amrywiol sy'n llythrennol newid eu hymddygiad neu'n monitro eu hymddygiad yn eu hamgylchedd i wneud yn siŵr eu bod yn dod drosodd yn fwy derbyniol. A dydych chi ddim yn meddwl am y peth. Ac yn sicr, dydw i ddim wedi meddwl am y peth tan i mi weld yr ymadrodd cyfnewid cod, ac roeddwn i fel, o, beth yw hynny?
A sylweddolais i mewn gwirionedd pan fyddwch chi mewn amgylchedd proffesiynol fel person Du, rydych chi'n gweld eich hun yn gwneud eich hun yn dawelach, yn haws i gydweithwyr eich derbyn. Ac nid penderfyniad gweithredol ydyw o reidrwydd. Weithiau, mae'n rhywbeth y mae rhywun yn ei addysgu i chi'n ifanc, bod yn rhaid i chi fod yn dawelach, yn fwy pwyllog. Dydych chi ddim am ddod drosodd fel rhai o'r ymadroddion sy'n cael eu defnyddio i ddisgrifio pobl Ddu mewn ystyr gwahaniaethol.
Ac yna, pan wnaethom symud i weithio'n rhithwir, mae'r math hwnnw o fantell yn diflannu. Oherwydd ar hyn o bryd, mae pawb yn cael eu croesawu i mewn i'ch cartref, yn yr un modd ag yr ydych chi'n cael eich croesawu i gartref pawb arall. Ac mae yna rannau o'ch diwylliant dros eich cartref i gyd am mai eich cartref chi ydyw. Eich lle diogel chi ydyw.
A dydych chi ddim yn meddwl am y peth nac yn ei gwestiynu tan i rywun ar ochr arall y camera ddweud, beth yw hynny? Beth mae'n ei olygu? O ble mae'n dod? O, dydw i byth wedi gweld unrhyw beth felly o'r blaen.
Ac yna, mae'n rhaid i chi esbonio eich gwahaniaethau diwylliannol, eich cefndir, eich credoau, pethau efallai na fyddech yn dewis eu trafod mewn amgylchedd gwaith, ond eich bod chi nawr yn gorfod cael pobl yn eich cartref. Felly, rydych nawr yn gorfod cael y sgyrsiau hyn. Ac yn yr eiliadau hynny, mae elfennau o anwybodaeth yn dod trwodd ac rydych yn gweld eich hun yn dweud, wel, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod gan yr unigolyn hwn y rhagdybiaethau hynny am fy niwylliant, a nawr, rwy'n gorfod addysgu rhywun ar sut beth yw hi i fod yn Ddu.