Transcript
SPEAKER
Rwy'n credu imi ddechrau ym mis Ebrill, ar ddechrau'r cyfyngiadau symud. Felly cafodd popeth ei anfon allan i fy nghartref. Welais i ddim y swyddfa o gwbl am oesoedd. Roeddwn i'n-- doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai'n digwydd yn ystod yr wythnosau cyntaf cyn imi ddechrau.
Yn ffodus, roedd gen i reolwr llinell gwych a wnaeth estyn allan, ac roedd yn hyfryd iawn a rhoddodd dawelwch meddwl i mi. Cafodd yr holl offer eu hanfon ataf. Gan fod popeth yn digwydd o bell, cefais lawer o sesiynau cynefino yn ystod fy wythnosau cyntaf o gyfarfod â phobl.
Ond roedd yn rhyfedd iawn. Rydw i'n credu mai'r rheswm penodol dros hynny oedd oherwydd ei fod mor newydd. Dydw i erioed wedi gweithio ym maes addysg uwch o'r blaen. Sefydliad newydd, pobl newydd, pawb yn eistedd gartref yn fy swyddfa, neu yn eu swyddfeydd. Felly, roedd pethau'n ddwys iawn, ond roedd yn teimlo fel petai arweiniad.
Ond rwy'n credu, bryd hynny, mai fi oedd un o'r bobl gyntaf i gael sesiwn gynefino o bell. Ond erbyn hyn, rydym wedi recriwtio i raddau helaeth iawn dros y cyfnod hwnnw, ac rydym wedi arfer â gwneud y sesiynau cynefino hynny o bell a gweld sut mae'n edrych. Ond roedd popeth yn frawychus iawn ac yn ansicr iawn i bawb ar y pryd. Felly roedd popeth yn teimlo'n waeth.
Felly, ie, roedd pethau'n drwm i ddechrau, cadw golwg ar bobl yn gyson, mwy o gadw golwg ar y pethau cychwynnol gyda'm rheolwr llinell. Ond hefyd, gwnaethom bethau penodol. Cynhaliwyd cwisiau cymdeithasol a'r dysgu, a oedd yn estyn allan i'ch annog chi i wneud hynny.
Mae yna rywbeth bach hyfryd rydym yn ei wneud yma, sef pryd bynnag y bydd pobl newydd yn dechrau, bydd rhyw bwt bach a llun ohonynt yn cael eu hanfon at bawb. Ac mae'n annog pobl i estyn allan a dweud helo. A gwnes i hynny, a doeddwn i ddim wedi cael profiad o hynny o'r blaen. A gwnaeth sawl un estyn allan a dweud helo, gwnaethoch drafod hyn. Mae gen i ddiddordeb mawr yn hyn.
Ac roedd hynny'n beth braf iawn i ddechrau i wneud i mi deimlo, yn fwy o ran o bethau rhywsut, er na chefais y cysylltiadau hynny yn y ffordd naturiol. Felly, roedd yn gadarnhaol iawn ond yn sicr-- roedd angen llawer mwy o feddwl ymwybodol a chynllunio ymwybodol arno na gadael i bethau ddigwydd yn y ffordd y bydden nhw mewn swyddfa.
Rwy'n dod i mewn dridiau yr wythnos. Ond mae gen i rywfaint o hyblygrwydd o ran pa ddiwrnodau yw'r rheini. Yn bersonol, rydw i'n hoff iawn o weithio yn y swyddfa. Rwy'n hoffi'r strwythur o adael y tŷ, cerdded i mewn i'r gwaith, neu fynd ar y bws i'r gwaith a chael gadael fy ngliniadur yma ar ddiwedd y dydd.
Dwi wir yn hoffi gwahanu'r gofod. Mae'n bwysig iawn imi gael y strwythur hynny ar bethau. Mae'n golygu fy mod i'n cael gweld pobl, nad ydw i'n ei wneud gartref o reidrwydd oherwydd fy mod i'n byw ar fy mhen fy hun. Mae cael y ddynameg honno a chael yr awyrgylch hwnnw o'ch cwmpas o gerdded o gwmpas yn hamddenol, mynd i'r gegin, cael sgwrs gyda rhywun yn bwysig iawn i mi. Ond hefyd, y cysylltiadau hynny, a'r ffrindiau rydw i wedi'u gwneud wrth weithio o bell, rydw i'n cael eu gweld nhw yn y swyddfa ac mae hynny mor hyfryd.
Ond mae'n eithriadol o hyblyg. Mae gen i ddiwrnodau wedi'u hamserlennu. Ond os na fyddaf am ddod i mewn ar y diwrnodau hynny, neu os byddaf yn aros am barsel, neu, dyweder, bod gennyf olch i'w wneud, yr holl bethau pob dydd, ymarferol hynny, mae gymaint yn haws i'w gwneud nhw nawr y gallwch chi weithio gartref. Os byddaf am gyfnewid y diwrnodau hynny, wnâi ddod i mewn ar ddiwrnod gwahanol.
Ac mae'n rhwydd iawn ac yn ymwneud i raddau helaeth â'r hyn sy'n gweithio i mi. Felly, mae'n hyfryd. Mae'n braf iawn. Rwy'n credu ei fod yn gydbwysedd da i'w gael. Ac mae'n beth da i'w gadw. Mae cryn dipyn o le i barhau i arbrofi-- mewn gwirionedd, roedd hynny'n gweithio i mi bryd hynny, ond efallai wnâi roi cynnig ar rywbeth arall nawr. Felly, mae hynny wedi gweithio'n dda iawn i mi.
Mae pawb yn hyfryd, ond wrth reswm, mae gennych bobl benodol rydych chi'n cyd-dynnu'n fwy â nhw. Felly, mae gallu dod o hyd i'm pobl o fewn y gofod hwnnw, mae'n braf iawn gwybod bod gennych bobl y gallwch fynd atyn nhw, a gymerodd beth amser wrth ddechrau o bell. A chymerodd ychydig mwy o wneud fy hun yn amlwg i bobl. Ond mae'r Brifysgol Agored hefyd wedi bod yn agored iawn i hynny ar yr un pryd. Felly, mae'n bosibl y byddwch yn gwneud eich hun yn amlycach, ond mewn gwirionedd, byddwch chi'n cael rhywbeth yn ôl.
Rwy'n credu bod pobl yn cymryd yn aml fy mod i'n syth, ond dydw i ddim. Ac rwy'n credu pe bawn i gyda phartner a oedd yn fenyw, rwy'n credu, efallai, nid i fi o reidrwydd, ond er fy mod i'n berson eithaf preifat, mae yna berygl os nad yw'r unigolyn hwnnw wedi datgelu ei fod yn hoyw, eu bod nhw, mewn gwirionedd, o gael y mewnwelediad hwnnw i fywyd cartref rhywun, mewn perygl o ddatgelu eu rhywioldeb, os nad yw hynny'n rhywbeth maen nhw'n barod i'w wneud nac eisiau ei wneud am ba reswm bynnag.
Felly, mae'n tarfu'n eithaf sydyn ar eich bywyd ac yn uno bywyd preifat a gwaith mewn ffordd yr oedd pobl yn ei gweld hi'n haws ei reoli o'r blaen. Boed hynny'n gywir neu'n anghywir. Ond rwy'n credu y byddai rhai pobl am gadw'r pethau hynny ar wahân. Felly rwy'n credu'n sicr bod mwy o risg o gwmpas hynny.
Mae mwy o risg o ran pobl sydd ddim eisiau rhoi eu camerâu ymlaen o bosibl oherwydd beth bynnag sy'n digwydd yn y cefndir, beth bynnag y gallai pobl ei ddehongli o hynny. Ac felly'n bendant-- er ei fod yn gweithio i mi, gallwn i weld y byddai hynny'n bryder mawr i rai pobl. Ac nid yw hynny'n golygu o ran rhywioldeb yn unig. Mae hynny'n ymwneud â llawer o wahanol agweddau ar fywydau pobl, cyfrifoldebau gofalgar, anableddau, archwilio rhywedd.
Felly, mae pethau'n mynd yn eithaf niwlog. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i chi gael llawer o ffydd yn y sefydliad a'r bobl sy'n arwain y sefydliad i ymateb i chi, ac i ymateb i'ch cymuned mewn ffordd gadarnhaol a chroesawgar. Ac rwy'n credu bod Y Brifysgol Agored yn gwneud hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod efallai nad dyna yw'r achos i bawb.
Gan ddibynnu ar y math o unigolyn ydych chi, rwy'n credu ar ôl siarad â'm cydweithwyr sydd wedi dioddef trwy'r pandemig, fel y mae pob un ohonom wedi'i wneud, maen nhw'n gwybod bod y gefnogaeth ar gael, ond maen nhw naill ai ddim eisiau troi ati, efallai, oherwydd os ydym yn trafod iechyd meddwl, ac iselder a phethau, bod stigma o amgylch hynny. Ond hefyd, mae'n eithaf od oherwydd mewn sawl ffordd, mae hyn yn rhywbeth rydym wedi mynd trwyddo gyda'n gilydd..
Felly, rwy'n gwybod bod llawer o bobl rydw i wedi siarad â nhw yn ymwybodol iawn fod pobl eraill yn mynd trwy bethau hefyd, a dydyn nhw ddim am fod yn faich arnynt. Felly, maen nhw'n ystyriol iawn o ofod pen pobl eraill, pethau ar eu meddyliau, a dydyn nhw ddim am ychwanegu at hynny. Elfen o bersonoliaeth yw hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn rhoi sicrwydd i bobl fod hynny'n iawn a does dim rhaid iddyn nhw fynd trwy bethau ar eu pen eu hunain.
Rwy'n credu o ran ymarferoldeb, mae gennym ddiweddariad yma gan y cyfarwyddwr, sef diweddariad wythnosol sy'n mynd o gwmpas. Mae Louise yn gwneud gwaith da o ran tynnu sylw. Ein rhaglen gymorth i gyflogeion yw hon. Dyma'r gweithgareddau a'r digwyddiadau llesiant sy'n cael eu cynnal gennym. Ac mae hynny'n bwysig iawn. Mae'n rhywbeth rydw i'n ei wneud wrth weithio gyda myfyrwyr. Ond mae'r stigma yno o hyd a bydd y stigma yn dal i fod yno. Felly mae'n ymwneud â pharhau i chwalu hynny a normaleiddio pobl sy'n gofyn am help, mewn gwirionedd.
Rwy'n credu, mewn sawl ffordd, ein bod ni wedi tyfu'n aruthrol dros y pandemig. Ond rydyn ni'n dal i fod ychydig yn llai. Ac felly, rydym yn gallu cadw'r tryloywder hwnnw. Ac yn sicr, fel unigolyn, rydw i'n teimlo bod fy mewnbwn yn cael ei werthfawrogi. Mae'n teimlo fel gwneud penderfyniadau ar y ffordd y bydd pethau'n edrych i ni fel sefydliad, fel Y Brifysgol Agored yng Nghymru i ryw raddau, penderfyniad ar y cyd.
Ac mae gen i ffydd yn ein huwch dîm arwain. Ac rwy'n gwybod y cefais i yn bersonol fy nghalonogi gan y ffaith ein bod yn cael dod yn ôl i'r swyddfa. A chefais fy nghalonogi'n fawr gan y ffaith bod gan Louise safiad eithaf clir ar y ffaith nad oeddem yn mynd i golli'r gofod. Mae'r gofod yn bwysig. Mae cydweithio yn bwysig. Mae cael amser i gysylltu yn bwysig. Ac roedd hi'n galonogol iawn ei chlywed hi-- ei chlywed yn egluro hynny, rhoddodd ffydd i mi y byddai pethau'n cael eu gwneud yn iawn.
Oherwydd rwy'n credu i fi, pe bawn i'n gwybod fy mod i gartref bum diwrnod yr wythnos, y byddwn i'n chwilio am swydd wahanol. Fyddwn i ddim am wneud hynny. Dydw i ddim yn hoffi hynny. Nid dyna'r amgylchedd rydw i eisiau. Felly mae'r ffaith ei bod hi mor llafar am y ffaith ein bod ni'n mynd i gael swyddfa newydd, ein bod ni'n ymroi'r gofod i gyflogeion yng Nghymru, yn galonogol iawn.
Ac rwy'n gwybod y gallaf fynd i siarad ag un o'm cydweithwyr sydd ar un o'r timau cynllunio am sut mae hynny'n edrych. Rwy'n gwybod y gallaf fod yn rhan o ymgynghori o gwmpas pethau. Rwy'n gwybod y gallaf gael sgwrs gyda'm rheolwr llinell. Felly mae'n teimlo'n agored iawn. Mae'n teimlo fel petai gennych lais yn y ffordd y mae'n edrych.
Weithiau, roedd hi'n ddryslyd gweithredu ar draws y pedair gwlad, heb wybod bob amser pryd y byddai cyhoeddiadau'n dod allan, a oedden nhw ar gyfer Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon. Ac oherwydd bod gennym sefyllfaoedd deddfwriaethol gwahanol, roedd gennym sefyllfaoedd llywodraethu gwahanol yn ymwneud â'r hyn a oedd yn digwydd gyda'r pandemig bryd hynny. Felly roedd hi'n eithaf dryslyd llywio'r hyn a oedd yn digwydd i ni yng Nghymru, mewn gwirionedd.