Transcript
AMO KING
Fy enw i yw Amo. Fi yw'r Swyddog Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Brifysgol Agored yng Nghymru. Ac mae'n rôl rydw i wedi'i derbyn yn ddiweddar, ond fi hefyd yw Cadeirydd Rhwydwaith Staff Traws y Brifysgol Agored. Ac felly, dyna beth rydw i am ei drafod yn gyntaf ac am fy mhrofiad fel aelod o staff traws yn ystod y pandemig a gweithio hybrid.
Felly, wrth reswm, gwnaeth gweithio yn ein cartrefi roi ychydig mwy o ofod i mi o ran sut roeddwn am wisgo ac efallai cael torri fy ngwallt mewn ffordd ychydig yn fwy ymosodgar. Ac rwy'n credu, o siarad ag aelodau fy rhwydwaith, y bu hynny'n brofiad cyffredin. Ac mae pobl wedi cael y gofod i arbrofi ychydig yn fwy a chyflwyno'u hunain a symud yn y byd mewn ffordd sy'n agosach at yr hyn sy'n teimlo'n naturiol iddynt.
Ond wrth reswm, wrth ddod allan o'r cyfyngiadau symud dwys ac yn ôl i fodelau gweithio hybrid, mae pobl yn mynd â'u hunanddarganfyddiad, eu cysur, a'r newidiadau y maen nhw wedi'u gwneud yn eu bywydau o bosibl, yn ôl i'r amgylchedd gwaith. Ac wrth reswm, mae hynny o bosibl yn cyflwyno heriau o ran mynediad, o ran, dyweder, mynediad i doiledau y mae pobl yn teimlo'n gyfforddus yn eu defnyddio, hefyd cyd-adweithio â chydweithwyr nad oeddent wedi'u gweld ers tro efallai.
Felly, i mi, rydw i mor lwcus gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae gennym gymuned gyfeillgar dros ben, agos a chynhwysol yma. Felly, dydw i ddim wedi cael problem enfawr gyda hynny'n bersonol, ond rwy'n gwybod o siarad â chydweithwyr yn ardaloedd eraill y brifysgol, efallai y bu hynny'n fwy o her.
Felly, o ran yr hyn y gallai gweithleoedd ei wneud i ddarparu ar gyfer hynny, mae'n ymwneud â meddwl yn fras am gynnwys pobl draws; ynglŷn â'r adnoddau sydd ar gael a chyfleusterau fel toiledau a phethau felly; ynglŷn â hyfforddiant sylfaenol er mwyn i bawb deimlo'n gyfforddus yn rhyngweithio ac yn defnyddio rhagenwau gwahanol a phethau felly ac nid yw'n fath o beth y bydd pobl yn poeni amdano, wel, a fyddaf yn cael fy nerbyn? A allaf fynd yn ôl i mewn i'r gofod hwn a chyd-adweithio â phobl? Sut i negodi hynny.
Felly, ie, yn sicr rhywbeth sy'n ddiddorol iawn i feddwl amdano, ac yn arbennig yng nghyd-destun y sifft rhwng gweithio gartref, ac yna'n ôl i mewn i'r gweithle, a'r pwynt hwnnw o drawsnewid, os hoffech chi, yn ôl i gymunedau ein gweithle.
Felly, wnâi siarad ychydig am fy mhrofiad fel aelod o staff traws. Felly, yn ystod y pandemig, newidiais a gofynnais i'm cydweithwyr ddefnyddio'r rhagenw fe ar fy nghyfer i, ac roeddent yn hael iawn ac yn barod i dderbyn hynny.
A hefyd yn amgylchedd fy nghartref, roeddwn yn gallu gwisgo yn union fel y mynnwn. Doedd dim angen i mi boeni sut y byddai pobl yn edrych arnaf i, fel pasio fi neu gwrdd â dieithriaid newydd yng nghyd-destun y gweithle. Felly rhoddodd hynny ymdeimlad o ryddid enfawr i mi.
Rwy'n credu hefyd, o gyd-adweithio ar-lein, bod gennych rywfaint o reolaeth dros y ffordd rydych chi'n edrych ar y sgrin. Ac wrth i ni symud yn ôl i fyd 3D a rhyngweithio mewn ffordd ychydig yn fwy organig, nid oes ymdeimlad o reolaeth o reidrwydd. I mi'n bersonol, rwy'n credu i'm hamgyffrediad fod yn fwy-- efallai yr oedd pobl yn ei chael hi'n haws addasu'r rhagenwau os mai cydadwaith un-i-un ydoedd.
Ac yna, pan fyddwch yn ôl mewn cyd-destun, efallai gyda dynion cis, wrth hynny, rwy'n golygu dynion a gafodd eu dynodi'n wryw adeg eu genedigaeth ac sy'n parhau i ddynodi eu hunain felly, mae yna gymhariaeth sy'n dod i mewn o bosibl. Ac felly, gwelais efallai bod pobl wedi cael ychydig mwy o drafferth i gadw yn eu pen yr hyn a ofynnais amdano yng nghyd-destun pam nad ydych chi fel y dynion hynny, sy'n iawn, ac mae hynny'n hyfryd, ac yn rhan o amrywiaeth.
Ond i mi, efallai i hynny fod yn rhwystr i fod fel, o wel, roeddwn i yn y swigen ddiogel yma lle roedd gen i reolaeth lwyr. Ac es i'n ôl i hyn, a sut ydw i'n mynd i drafod hynny a chadw fy hyder yn y gofod yna?
Ac rwy'n gwybod, o siarad ag aelodau eraill o'r rhwydwaith staff traws, ei fod yn brofiad eithaf cyffredin o ran pobl yn gallu cael y rhyddid i ymgartrefu yn eu man cysurus eu hunain gyda nhw eu hunain, ond yna gorfod dod â hynny'n ôl i gymuned y gweithle, a sut mae gwneud hynny mewn ffordd lyfn, a'r cymorth a all fod yn angenrheidiol gan reolwyr llinell a chydweithwyr eraill i wneud hynny.
Felly, i fi, rwy'n ffodus dros ben fy mod i'n gweithio yn swyddfa Caerdydd a bod gennym doiledau hygyrch, hyfryd. Gallwn i fynd i'r toiled ar bob llawr pe bawn i eisiau. Mae'n fendigedig, ond rwy'n gwybod i gydweithwyr eraill, efallai y bydd ychydig yn fwy anodd iddynt gael mynediad i gyfleusterau sy'n teimlo'n gyfforddus, lle nad ydynt yn rhyw feddwl, o, a fydd rhywun yn fy ngweld i'n mynd i mewn fan hyn, a meddwl fy mod i yn y lle anghywir. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod yn wych.
Ac yn sicr, o feddwl am gyflogwyr yn gyffredinol, rhoi ychydig o feddwl i sut y gall pobl fynd at yr holl gyfleusterau hynny yn y gweithle, mewn amgylchedd lle nad oes rhaid iddynt ddyfalu a fydd rhywun yn meddwl fy mod i yn y lle anghywir. Felly, mae gallu gwneud toiledau niwtral o ran rhywedd yn rhodd.
Dwi hefyd yn lwcus iawn. Yn fy nghyd-destun i, mae cymuned y gweithle yn y Brifysgol Agored yng Nghymru yn un fach. Mae rhyw 190 o aelodau o staff, felly'n debygol o fod yn ddigon agos atoch i allu adnabod pawb yn ôl eu henw. Ac felly, i mi, mae hynny wedi bod o fantais enfawr oherwydd mae pobl yn fy adnabod i, ac mae yna gymorth cymunedol gan gydweithwyr.
Yn amlwg, mewn gweithle ehangach, mwy o faint, gallech gyd-adweithio â mwy o bobl ddieithr, ac mae'n bosibl y bydd hynny'n rhyw fath o fflachbwynt. Felly, yn yr achos hwnnw, dim ond rhywfaint o hyfforddiant ymwybyddiaeth o drawsrywedd er mwyn i bobl-- rhyw fath o drefn ar gyfer llwyddiant mewn gwirionedd, a gwybod sut i gyd-adweithio â phobl oherwydd, mae mwyafrif y bobl, gyda'r ewyllys gorau yn y byd, yn ceisio gwneud eu gorau, ond mae a wnelo â'r cysur o wybod beth i'w ddweud. Felly, os gall gweithleoedd feddwl am ddarparu hynny, yna byddai hynny'n wych hefyd.
Gallaf feddwl am esiampl o gyfarfod lle gwnaeth rhywun fy nghyflwyno ac roedd wedi bod trwy bob rhagenw posibl dan haul ac aeth i banig. Felly, nid yw'n rhywbeth a fyddai'n fy nghynhyrfu o gwbl, ond o ran cyfarfod â phobl newydd a chael fy nghyflwyno iddynt, nid dyna yw'r cyhoeddiad gorau, oherwydd rydych chi fel, mae'r person yma'n wahanol.
Felly roedd hynny wedi digwydd i fi. Ond roeddwn yn gallu siarad â'm rheolwr llinell am y peth a dweud, o, roedd pethau'n lletchwith iawn, ac roeddent yn gefnogol dros ben. Ac rwy'n meddwl, ie, cael pobl mewn swyddi rheoli llinell sydd â rhywfaint o ymwybyddiaeth ac sy'n dangos empathi yn ei hanfod, oherwydd mae'n rhywbeth sy'n digwydd. Bydd pobl yn dweud y peth anghywir i ryw raddau. Ac nid yw nac yma nac acw, ond mae a wnelo â chefnogi pobl er mwyn iddynt beidio â theimlo mai nhw yw'r broblem mewn gwirionedd.
Agwedd arall yr hoffwn i ei thrafod o ran fy mhrofiad i yw bod yn aelod o'r gymuned LHDT (LGBT) ehangach ac yn unigolyn cwiar. Un agwedd benodol ar fod yn gwiar i mi yw fy mod i'n ymarfer di-fonogami moesegol, sy'n golygu bod gennych y potensial i gael mwy nag un partner rhamantus ond bod pawb yn ymwybodol o hynny, a'i fod yn drefniant cydsyniol rhyngddynt.
Felly, mae gen i ddau bartner. Rwy'n byw gyda phartner, ac mae gen i bartner pell i ffwrdd hefyd. Ac yn ystod y pandemig, yn amlwg, roedd hyn yn hunllef llwyr, yn methu â gweld ein gilydd am fisoedd ar y tro. Ac mewn gwirionedd, mae gweithio hybrid wedi bod yn rhodd enfawr o ran y potensial i weithio mewn lleoliad arall a threulio amser da gyda'r partner arall hwnnw.
Byddwn i'n ei ystyried fel strwythur teuluol amgen. Ac felly dyna'r lefel bwysigrwydd i mi, sydd gan hynny, a gallu treulio amser yn gwneud lle ar gyfer y gydberthynas honno. Yn enwedig mewn perthynas â'r pandemig, er bod yr elfen o gyfyngiadau bellach wedi dod i ben, mae dal potensial am banig oherwydd caiff cynlluniau eu gwneud ac yna cânt eu tarfu arnynt oherwydd bod rhywun yn cael COVID-19. A dydyn ni ddim yn gwybod a fyddwn yn gallu gwireddu ein cynlluniau.
Felly, gall yr hyblygrwydd hwnnw o safbwynt y cyflogwr a gallu mynd i weithio mewn lleoliad arall yn hynod werthfawr o ran rhoi rhyw ymdeimlad o ddiogelwch. Ac rwy'n credu ei fod yn ymdrin hefyd â'r heriau iechyd meddwl ehangach yn ymwneud â'r pandemig, nid dim ond o ran bod ofn heintiau neu'r pethau eraill, ond symud ymlaen o hynny, y ffordd rydym yn delio ag aflonyddwch parhaus, a natur anrhagweladwy a diffyg rheolaeth. Felly mae'n clymu i mewn â gwedd gorbryder iechyd meddwl hefyd.