Transcript
BECKY MAY
Helo, Becky yw fy enw i. Dwi'n ddylunydd profiad dysgu. A dwi wedi bod yn gweithio'n hybrid ers nifer o flynyddoedd, ar ôl newid o weithio mewn amgylchedd wyneb yn wyneb i gael fy nerbyn fel rhan o'r cwmni a gweithio 80% o bell ac 20% yn y swyddfa. Newidiais i weithio'n hybrid nifer o flynyddoedd yn ôl, cyn COVID hyd yn oed. A gwelais bryd hynny ei fod llawer yn llai hyblyg nag ydyw nawr.
Mae'n llai o broblem nawr. Ac mewn gwirionedd, mae timau bellach yn gweithio mwy i geisio gwthio ac ystyried llesiant yn lle hynny a chaiff cymryd egwyliau ei normaleiddio. Wedi dweud hynny, mae gweithio mewn byd hybrid fel rhywun sydd â dyslecsia a dyspracsia, yn ogystal ag afiechydon ac anableddau cudd eraill, yn golygu fy mod i'n teimlo bod troi lan mewn swyddfa a dod o hyd i ddesg rydd yn eithaf anodd ac yn achosi pryder. A byddai'n wych-- daeth y syniad hwn i mi pe gallech drefnu desg ymlaen llaw a bod gan y ddesg radd, fel y byddech yn graddio Airbnb neu unrhyw eiddo rhent arall, o ran hygyrchedd, fel lefelau sŵn a thynnu sylw. Ac rwy'n credu pe byddai pobl yn dechrau gwneud hynny, a'u bod nhw'n dechrau gweld corneli o'r swyddfa a oedd yn teimlo'n anghyfforddus i bobl, yna gallai gymell yr arweinwyr i ddechrau meddwl go iawn a chydnabod sut mae'n gweithio ar gyfer pobl niwroamrywiol a niwro-nodweddiadol sy'n gweithio yn y swyddfa, a lle nad yw pethau'n ddelfrydol.
Rwyf hefyd yn casáu'r trawma o orfod gwisgo mewn ffordd benodol. Er enghraifft, ein polisi gweithio yw gwisgo dillad busnes hamddenol. Wel, gall hynny fod yn eithaf dryslyd. A gall gwisgo siwtiau, ar ôl gweithio gartref yn eich dillad segura, fod yn anghyfforddus iawn. Ac mewn gwirionedd, gall teimlo'n boeth a chosi ar ôl gwisgo'ch dillad mwy ffurfiol drwy'r dydd eich atal rhag canolbwyntio.
Dwi'n teimlo bod llawer llai o strwythur i'm diwrnodau yn y swyddfa a'u bod yn eithaf anhrefnus. Mae pobl-- maen nhw am ddod draw a chael sgwrs wyneb yn wyneb â chi'n amlach gan mai dim ond am 20% o'r amser rydw i mewn. Mae rhyw newydd-deb amdano rywsut. Ac maen nhw am feithrin y cysylltiadau hynny. Ond i fi, mae'n defnyddio llawer o'm hegni. Dwi'n eithaf mewnblyg fel rheol, felly er ei bod hi'n gyffrous iawn bod o gwmpas pobl eraill, eu hegni a'u brwdfrydedd a'i bod hi'n wych cysylltu â nhw, mae'n eithaf blinedig, yn enwedig ar ôl dod o fyd lle dwi wedi bod mewn sefyllfa eithaf tawel a phwyllog.
Felly, byddwn yn cyfeirio at y sefyllfa fel gwlad o anhrefn a brwdfrydedd. Ac o'r herwydd, dwi'n tueddu i guddio fy mhryderon rywsut. Ac mae hynny, ar ben gorfod delio â'r ffactorau sy'n fy mlino, yn lladdfa a dweud y gwir. Ac weithiau, dwi'n mynd adref yn teimlo'n eithaf gwag erbyn diwedd y dydd.
Dwi'n teimlo hefyd fy mod i'n ymddwyn braidd yn rhyfedd yng nghwmni pobl eraill, neu nad wyf yn y cyflwr arferol, nodweddiadol y byddai pobl yn ei ddangos wrth weithio wrth y ddesg. Felly, mae'n bosib y byddech yn sylwi arnaf yn syllu allan o'r ffenestr am gyfnodau hir. Nid osgoi gwaith ydw i, dwi'n addo. Dwi'n canolbwyntio’n galed. Ac weithiau, dwi'n codi ar hap yn ystod cyfarfodydd neu sgyrsiau dim ond achos bod angen rhyw fath o symudiad egnïol arnaf er mwyn i mi ddeffro a gallu meddwl am bethau ychydig yn ddyfnach eto. Mae'n eithaf anodd esbonio'r rhesymau drosto, ond mae'n rhywbeth dwi'n ei wneud.
Yn anffodus, i fi, mae'n creu atgofion o'r ffordd roeddwn yn cael fy nhrin yn yr ysgol ac o wneud hyn yn y dosbarth. Ac os oeddech chi'n rhywun a oedd yn edrych allan o'r ffenestr neu os nad oeddech yn bwrw ati'n awtomatig i ysgrifennu a chanolbwyntio ar eich gwaith, tybiwyd nad oedd gennych unrhyw ffocws. A dyna fyddai i'w weld yn fy adroddiadau ysgol, does dim ffocws 'da Becky. Wnaiff hi ddim llwyddo mewn bywyd am nad yw hi'n gwneud pethau yn y ffordd arferol. A dwi'n teimlo bod naws y negeseuon hynny o'r ysgol wedi aros gyda fi. A dwi wedi cario'r baich hwnnw gyda fi i'r byd hybrid newydd hefyd. Ac mae hynny'n ychwanegu at ryw fath o fwced o bryderon.
Mae gen i flinder cronig, neu ME, fel y cyfeirir ato weithiau. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i mi fod yn ofalus iawn gyda'm hegni am y dydd. Felly, os ydych chi erioed wedi clywed am drosiad y ddamcaniaeth llwyau, mae'n golygu fy mod i'n mesur y gweithgareddau penodol dwi'n eu gwneud yn ystod y dydd mewn llwyeidiau.
Mae pob llwy yn cynrychioli gweithgaredd penodol i mi. A dwi'n amcangyfrif yn aml bod gen i ryw 12 llwyaid o egni y dydd. Does gen i ddim cyflenwad diddiwedd. Ac mae rhai gweithgareddau yn ystod y dydd, fel taith brysur iawn ar y tiwb i Lundain neu mynd â'r plant i'r ysgol yn y bore a cheisio bod wrth fy nesg erbyn 9:00, neu hyd yn oed mynd i gyfarfodydd creadigol hir iawn, i gyd yn defnyddio egni o'r llwyeidiau sydd gennyf bob dydd. Ac yn aml iawn, erbyn i fi fynd adref ac allgofnodi, does dim llwyau ar ôl. Ac felly, mae hynny'n effeithio ar fy mywyd teuluol a bywyd y cartref.
Wel, mae'r pethau â llai o strwythur sy'n ymddangos yn ystod y dydd yn defnyddio'r gyllideb egni a oedd gennyf ar gyfer y diwrnod cyfan pan fyddaf yn gweithio yn y swyddfa. Felly, yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw os bydd pobl yn glir iawn ac yn trefnu amser ymlaen llaw yn fy nghalendr a'u bod yn trefnu cyfarfodydd mewn blociau o 15 i 50 munud ar y mwyaf, gallaf fod yn barod a chadw egni ar eu cyfer. Ond, fel y dywedais i, os bydd pobl yn tarfu arnaf yn barhaus pan fyddaf wrthi'n gweithio'n galed ac yn canolbwyntio'n ddwys, bydd hynny'n cael effaith arnaf a gall effeithio ar ansawdd fy ngwaith.
A dydw i ddim yn dda iawn gyda ffiniau. Ac fe wna i wastad stopio i bobl. Ac fe wna i siarad â nhw, ond fel rheol, mae hynny'n niweidiol i fi. A fi fydd yn talu'r pris wedyn. Dwi wedi gweld cwmnïau'n ceisio darparu ardaloedd tawel a mannau tawel i bobl weithio ynddynt. Ac mae'r rhain yn wych. Ac maen nhw'n gam tuag at fod yn fwy niwro-gynhwysol. Ond mae angen iddyn nhw wir geisio bod yn ofalus wrth ystyried beth y mae hynny'n ei olygu a sut mae'n edrych i'w cyflogeion a siarad â nhw, oherwydd gallan nhw deimlo fel cell feddal yn aml iawn. Ac rydych chi wedi cael eich gwahanu, neu unwaith eto, gan ddychwelyd at y teimlad o berfformio'n wael yn yr ysgol, eich bod wedi cael eich rhoi yn y gornel ddrwg, ond mewn gwirionedd, rydych chi'n ceisio ailfywiogi ac ail-ganoli eich hun.
Ond rhai o'r prif fanteision o weithio yn y swyddfa o gymharu â bod gartref yw eich bod yn cael yr ymateb cyflym y mae ei angen arnoch i'ch cwestiynau'n syth. Ac rydych chi'n cael yr adborth cyson hwnnw na fyddwch o bosibl yn ei gael pe na fyddech yn cael-- pe na fyddech yn cael y cysylltiad wyneb yn wyneb hwnnw. Ac un peth dwi'n euog iawn ohono yw gor-ddadansoddi pan fydda i gartref. A dwi mewn tawelwch ac yn aros am ymateb. Felly, os anfonais i gwestiwn neu os bydda i wedi creu cyflwyniad ymyriad dysgu penodol ac nad wyf wedi clywed dim byd nôl, does gen i ddim i'w ddarllen na bwydo oddi arno. Felly, dwi'n dechrau datgymalu'r holl waith da rydw i wedi bod yn ei wneud yn fy mhen.
Ond mewn gwirionedd, yn y swyddfa, byddwch chi'n cael yr adborth uniongyrchol hwnnw'n syth bin. Gallwch weld beth yw barn y swyddfa ar wynebau pobl. Dwi hefyd yn teimlo'n llai unig yn y swyddfa. Felly er ei bod hi'n eithaf blinedig bod o gwmpas pobl eraill, dwi'n dal i deimlo unigrwydd hefyd. A dwi'n credu ei bod hi'n eithaf pwysig siarad amdano a'r ffordd y mae pobl wahanol yn cael profiad gwahanol ohono.
Felly dwi'n tueddu i oresgyn hynny, weithiau, drwy eistedd mewn llyfrgell leol neu siop goffi neu mewn man cydleoli er mwyn i fi allu bod o gwmpas pobl eraill a gwybod bod pobl eraill yn dal i fod yn fyw ac ar hyd y lle. A dwi'n teimlo'n llai ynysig. Ond y peth da amdano yw nad oes neb angen unrhyw beth wrtha i. A gallaf barhau gyda fy ngwaith fy hun, ond cael rhyw fath o ysbrydoliaeth greadigol a theimlo'n llai pryderus pan fyddaf gyda phobl eraill.
Ac weithiau, dwi'n llwyddo i ymdopi â hynny yn y gwaith. Doedd hi ddim yn bosib eistedd mewn siop goffi yn ystod y cyfyngiadau symud. A dwi'n gwrando ar synau cefndirol swyddfa y gallwch eu cael ar rai o'r sianeli apiau cerddoriaeth gwahanol.
Wrth weithio gartref, mae gen i fwy o drefn. A dwi'n rhannu hyn gyda'r tîm. Felly rydyn ni'n cael sesiynau codi ar ein traed ar fore dydd Llun. Ac rydyn ni'n trafod sut mae ein hwythnos yn edrych, gartref ac yn y gwaith a'r gorgyffwrdd posibl o ran beth allai effeithio arnon ni yn y swyddfa, a beth allai effeithio ar fywyd y cartref oherwydd y prosiectau rydyn ni'n gweithio arnyn nhw. Ac rydyn ni wir yn ceisio gweithio o gwmpas hynny gymaint â phosib. Ac rydym yn cynllunio ciniawau.
Felly mae pob un ohonom yn cytuno i ddefnyddio ein hamser cinio i wneud rhywbeth, yn lle eistedd a gweithio trwy'r egwyl ginio neu fwyta rhywbeth afiach neu hyd yn oed drefnu cyfarfodydd a chiniawau. Felly mae hynny wedi bod yn newid da iawn yn sgil gweithio o bell, ac mae mwy o bobl yn gweithio o bell nawr. Cyn COVID-19, dwi'n credu y byddwn i wedi gweithio trwy fy nghinio.
A dwi'n credu ei fod wedi bod yn wych gan ei fod yn creu'r ymdeimlad nad unigolyn dau ddimensiwn y tu ôl i sgrin ydych chi mwyach. Nid cartŵn mohonoch. Rydych chi'n unigolyn ac mae'n meithrin yr empathi hwnnw a dealltwriaeth o beth sy'n effeithio arnoch a'ch anawsterau. Yna, rydyn ni'n dechrau gofalu am bobl eraill. Ac rydyn ni'n fodel rôl i weddill y tîm.
Byddwn wedyn yn trafod hynny eto yn nes ymlaen yn yr wythnos i weld a ydych chi'n cadw ato. Ac mae gennych atebolrwydd, sydd o gymorth mawr. Fel arall, dwi ddim yn meddwl y byddwn i'n cadw ato. Fel tîm, mae'r cyswllt rhyngom wedi dod yn well dros amser. A dwi'n teimlo nawr fy mod yn gallu gwneud diwrnod cyfan o waith mewn un.
Felly, dwi'n tueddu i weithio o 5 o'r gloch y bore gan fewngofnodi a chael cyfran fawr o'm diwrnod allan o'r ffordd, ni fyddai hyn yn bosibl pe byddwn yn gweithio mewn swyddfa. Felly pe byddwn i wedi gorfod aros tan 9:30 i wneud fy ngwaith, fydden i'n gweld fy mod i wedi gwastraffu cryn dipyn o'm patrwm egni naturiol hyd at y pwynt hwnnw. A dwi fel 'deryn ar dân yn aros i fynd am 9:30. A bydd ffrwydrad o syniadau'n dod allan mewn ffordd hollol ddi-drefn, nad yw'n dda i ddim i neb.
Felly mae gweithio gartref yn golygu y gallaf weithio yn ôl fy rhythm naturiol i wneud yr hyn sy'n gweithio i fi. Ac yna gallaf gymryd amser allan o'm diwrnod i fynd â'r ci am dro ychydig yn hwyrach neu efallai gwneud rhywfaint o hunanofal, fel myfyrdod. Dwi hefyd yn gallu defnyddio fy meic yn ystod cyfarfodydd a phodlediadau hirach. Lle o'r blaen, roeddwn yn teimlo bod yn rhaid i fi eistedd y tu ôl i'r ddesg drwy'r amser. Nawr, os bydd angen i fi fynd i ffwrdd a meddwl am bethau neu fynd trwyddynt yn fy mhen a'u datgymalu ac edrych arnynt o gyfeiriadau gwahanol, dwi'n aml yn defnyddio beic ymarfer sydd gen i yn y tŷ neu'n mynd â'r ci am dro.
Ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn oherwydd dwi'n gweithio mewn rôl eithaf creadigol, felly mae angen y rhyddid a'r hyblygrwydd hynny arnaf heb deimlo bod fy nghydweithwyr yn edrych arnaf neu'n meddwl fy mod i'n gwastraffu amser. Er enghraifft yn ddiweddar, gofynnwyd i mi feddwl am ymyriad dysgu arloesol newydd yn fy rôl bresennol, rhywbeth nad oedden nhw wedi'i weld o'r blaen. Ac roedd gen i ddiddordeb mawr yn y llyfrau Choose Your Own Adventure. Felly, prynais ambell un o'r rheini i'w darllen yn ystod amser gwaith. Ac wedyn, dechreuais edrych ar bethau fel cysyniad Bandersnatch gan Charlie Brooker. A dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu gwneud hynny mewn swyddfa oherwydd, petai rhywun yn edrych dros fy ysgwydd ac yn gweld fy mod i'n gwylio Black Mirrors gan Charlie Brooker ar YouTube er enghraifft, fydden nhw'n teimlo fy mod i'n gwastraffu amser y cwmni ac yn cael amser wrth fy modd yn gwylio'r teledu.
Ond mewn gwirionedd, gwneud rhywfaint o ymchwil dysgu oeddwn i. Felly, pe byddwn i wedi bod yn y swyddfa, fyddwn i'n sicr heb feddwl am y cysyniad a'r syniad hwnnw. O ran fi fy hun, mae bod gartref yn eithaf creadigol. Mae'n rhoi lle i chi archwilio pethau ac edrych ar bethau mewn ffordd wahanol. Ac mewn gwirionedd, mae wedi fy ngwneud yn fwy arloesol.
Ac yn ddiweddar, cefais fy nghyflogi mewn gwirionedd gan fy mod i'n gwneud pethau'n wahanol a dwi wedi dod â syniadau newydd i'r fei. A dim ond o ganlyniad i'r rhyddid o weithio yn y fath fodd y digwyddodd hynny. Yn amgylchedd y cartref dwi'n gweithio ynddo, byddwn i'n sicr yn dweud fy mod i'n fwy hamddenol, dwi'n llawer mwy creadigol, a dwi'n gallu gwneud y gwaith yn y ffordd y mae angen i fi ei wneud, a'r ffordd y mae'r busnes angen i mi ei wneud hefyd. Alla i ddim bod yn greadigol os bydda i'n eistedd tu ôl i'r ddesg drwy'r amser.