Transcript
MICHAEL WOODS
Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, un o'r tueddiadau rydym yn ei weld yw bod newid parhaol i weithio o bell, a gall hynny fod yn eithaf arwyddocaol. Felly, yn 2011, dim ond tua un o bob 10 o weithwyr yng nghefn gwlad Cymru oedd yn gweithio gartref. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn anelu at annog o 30% o weithlu Cymru i weithio gartref.
NATASHA DAVIES
Mae'n bwysicach nag erioed bod iechyd meddwl a llesiant yn flaenoriaeth i gyflogwyr a sefydliadau. Heb y rhyngweithio go iawn hwnnw â chydweithwyr, gall fod yn fwy anodd gweld os oes rhywun yn ei chael hi'n anodd ymdopi.
But I think we also have to be mindful that we’re still kind of emerging from the pandemic. And actually, that had a very real and long-lasting impact on people’s wellbeing, which I think we’re going to have to be mindful of for a good number of years while people just re-find their feet and are dealing with a drastically changing world of work around them at the same time.
Ond rwy'n credu bod angen i ni gofio ein bod yn dal i ddod allan o'r pandemig. Ac mewn gwirionedd, mae hwnnw wedi cael effaith hirdymor wirioneddol iawn ar lesiant pobl, ac rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni gadw hynny mewn cof am sawl blwyddyn wrth i bobl gael eu cefn atynt, gan ymdopi â byd gwaith sy'n newid yn ddramatig o'u cwmpas ar yr un pryd. Felly, o fewn sefydliadau, rwy’n credu ei bod hi'n bwysig bod llesiant ac iechyd meddwl yn cael eu hadlewyrchu mewn strategaethau a pholisïau. Rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig bod strategaeth llesiant ar waith. Mae'n helpu i sicrhau ei bod yn parhau'n bolisi, am fod elfen o atebolrwydd yno.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod gennych hyrwyddwyr iechyd meddwl a llesiant yng nghyfarfodydd eich uwch-arweinwyr ac ar unrhyw fyrddau. Rhai pethau ymarferol iawn - cysylltu â staff yn rheolaidd i weld sut mae pethau'n mynd, yn enwedig gan nad ydym o reidrwydd yn mynd i fod yn cael y sgwrs wrth i ni wneud paned o de yn y swyddfa.
Hyfforddi ein harweinwyr a'n rheolwyr i fod yn hyderus ac i feddu ar yr eirfa sydd ei hangen i siarad am iechyd meddwl - bod yn hyderus i gyfeirio staff at ffynonellau cymorth, p'un a yw hynny'n golygu'r mesurau cymorth sydd wedi cael eu rhoi ar waith mewn sefydliad, neu'r cymorth a'r ddarpariaeth iechyd meddwl ehangach sydd ar gael y tu allan i'r gwaith.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod arweinwyr yn cael eu grymuso i ddiogelu llesiant staff. Ac fel sefydliadau, rydym yn ymgysylltu â sefydliadau arbenigol a all gynnig cyngor ac arweiniad ar sut i ymgorffori hyn yn ein ffyrdd o weithio, oherwydd ni ddylai unigolion orfod cymryd cyfrifoldeb llwyr am eu hiechyd meddwl a'u llesiant eu hunain. Oherwydd mae'r sefyllfa sydd ohoni o ddydd i ddydd yn effeithio ar bob un ohonom.
Felly'n mae'n bwysig ein bod yn ymgorffori'r ffocws hwn yn y ffyrdd o weithio rydym yn penderfynu eu mabwysiadau a'u rhoi ar waith yn ein gweithleoedd. Ac rwy'n credu mai'r peth pwysig arall yw ein bod yn buddsoddi yn hyn. Mae angen gwneud mwy na chynnal ambell gweminar ar lesiant o bryd i'w gilydd. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn hyn.
Ein staff yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr fel sefydliad. Os na fyddwn yn gofalu amdanynt - mae'n rhaid i ni ofalu amdanynt. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn buddsoddi ynddo ac, yn yr un modd, yn buddsoddi mewn newidiadau ehangach i ffyrdd o weithio. Mae'n bwysig ein bod yn agored i fyfyrio ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn well, a'n bod yn ceisio mabwysiadu dulliau ac adnoddau newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg a all helpu i wneud yn siŵr bod pob aelod o staff yn gallu cynnal iechyd meddwl iach.
Mewn amgylchedd cynyddol hybrid, y gwir amdani yw ein bod yn mynd i fod yn ddibynnol iawn ar dechnoleg ddigidol. Ac os na fyddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r lefelau gwahanol iawn o sgiliau digidol a chymhwysedd digidol sydd gennym ar draws y gweithlu, rwy’n credu bod perygl y byddwn yn allgáu pobl, yn enwedig os yw ein ffyrdd o sicrhau cyfathrebu da, cydweithio a rheoli iechyd meddwl a llesiant yn dibynnu'n gynyddol ar dechnolegau newydd a datblygol.
MICHAEL WOODS
Ac wrth gwrs, wrth i bobl weithio gartref, maen nhw'n llai dibynnol ar fod yn agos at y gweithle. Ac felly, maen nhw'n sylweddoli bod ganddynt fwy o hyblygrwydd o ran ble y gallant fyw. Ac i lawer o bobl, mae hynny'n troi'n ddiddordeb i symud i gymunedau gwledig.
Nawr, mae gan hynny ganlyniadau cadarnhaol a negyddol o bosibl i Gymru wledig. Yr elfen gadarnhaol yw bod yna bosibilrwydd y gallai helpu i gadw mwy o bobl iau yng Nghymru wledig drwy greu mwy o gyfleoedd gwaith.
Gall helpu teuluoedd iau i ddychwelyd i gefn gwlad Cymru, i ymgartrefu mewn rhai pentrefi gwledig y mae eu proffiliau oedran wedi'u hystumio i ryw raddau. Bydd yn golygu bod mwy o bobl mewn trefi bach a chymunedau gwledig yn ystod y dydd, gan helpu i gefnogi siopau a gwasanaethau lleol. Felly dyna'r elfennau cadarnhaol i'r sifft honno o bosibl.
Fodd bynnag, mae pryderon hefyd y bydd diddordeb cynyddol mewn symud i ardaloedd gwledig yn helpu i chwyddo prisiau tai yng Nghymru wledig. Ac mae hynny'n broblem fawr yn barod. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae hynny'n ychwanegol at y broblem sydd eisoes yn bodoli o ran fforddiadwyedd tai mewn sawl rhan o gefn gwlad Cymru, yn enwedig i bobl ifanc.
Un o'r pethau y mae angen i sefydliadau ei ystyried os ydyn nhw am annog pobl i weithio gartref yw mynediad cyfartal at hynny, oherwydd agwedd arall ar hyn wrth gwrs yw bod angen cysylltiad band eang dibynadwy er mwyn gallu gweithio gartref. Mae angen seilwaith digidol hygyrch.
Wrth feddwl drwy hynny, mae angen ystyried sut mae gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwahanol allu gwahanol i weithio gartref, ac mae ymdeimlad y gall twf hyn fod yn anghyson o ran daearyddiaeth. Mae'n bosibl y bydd yn ffafrio rhai rhanbarthau dros rai eraill.
Ac efallai yr hoffai sefydliadau a chwmnïau sy'n annog pobl i weithio gartref ystyried hynny ac ystyried pa gymorth y gallai fod angen iddynt ei gynnig i gyflogeion sydd o bosibl eisoes yn byw mewn ardaloedd lle nad oes mynediad cryf at y seilwaith digidol; a oes ffyrdd y gallant eu cefnogi, a oes angen iddynt ystyried, er enghraifft, ddarparu hybiau o bell neu gefnogi safleoedd mynediad o bell yn hytrach na gweithio gartref.
NATASHA DAVIES
Er mwyn cael gweithleoedd mwy cyfartal, cynhwysol a theg, mae llawer o bethau y mae angen iddynt newid, ac mae llawer o actorion a all gymryd camau i sicrhau newid. Mae Chwarae Teg, yn 30 oed, yn sicr rydym wedi gwneud cynnydd ers i ni sefydlu yn gyntaf.
Ac mae pobl wedi helpu yn hynny o beth drwy arwain newid a gweithredu fel modelau rôl, ac maen nhw wedi chwalu rhai o'r rhwystrau a'r nenfydau gwydr i eraill sy'n dringo'r ysgol.
Ac rwy'n credu bod rhai pethau lle mae unigolion yn canfod eu hunain yn wynebu rhwystrau-- ceir ffynonellau cymorth. Ceir cynlluniau a mentrau sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli er mwyn rhoi iddynt y sgiliau, yr hyder a'r cymwysterau i allu symud ymlaen.
Mae mesurau ar waith mewn sefydliadau, rhwydweithiau a mentrau mwy sy'n dwyn pobl ynghyd i gydweithio er mwyn nodi beth yw'r problemau ac i ddangos i uwch-arweinwyr beth yw'r problemau a gobeithio, gwthio i newid pethau.
Ond yn y pen draw, rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â'r system fel nad oes rhaid i unigolion frwydro'n galed ac efallai newid y ffordd maen nhw'n gweithio er mwyn ffynnu mewn system nad yw, yn y pen draw, wedi cael ei dylunio i ystyried eu hanghenion nhw.
SHARON MALLON
Gall cyflogwyr fod yn ymwybodol iawn o effaith ynysu drwy fod yn ymwybodol o amgylchiadau unigol eu cyflogeion. Felly i rai pobl sydd â theuluoedd eithaf mawr neu sydd â chysylltiadau cymdeithasol da, efallai na fydd diffyg cysylltiad â chydweithwyr yn gymaint o broblem. Efallai eu bod yn rhan o rwydweithiau cymdeithasol eraill sy'n diwallu'r angen hwnnw.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod rheolwyr yn gofyn y cwestiynau sensitif hynny i bobl. Faint o gyswllt rydych yn ei gael â rhywun y tu allan i'r gwaith, neu a fyddech yn hoffi cael mwy o gyswllt a chyfleoedd anffurfiol yn ystod y dydd i gysylltu mewn ystafelloedd nad nhw'n gysylltiedig â gwaith? Mae cyfleoedd hefyd i drefnu sgyrsiau dal i fyny rheolaidd.
ELISE LOCKYER
P'un a ydych yn gweithio ar sail hybrid, o bell neu yn y swyddfa, mae iechyd meddwl a llesiant wedi bod yn bwnc mawr a bydd yn parhau felly am flynyddoedd i ddod. Yn enwedig os yw rhywun gweithio o bell neu ar sail hybrid, rwy'n credu mai'r unig beth y gallwch ei wneud yw darparu'r amgylchedd cywir, amgylchedd agored, ac amgylchedd o ymddiriedaeth lle y byddai, gobeithio yn dod i siarad â chi pe bai angen iddo wneud hynny. Neu siarad ag aelod o'r tîm, neu siarad â'i reolwr.
Bydd pawb, pwy bynnag ydych a beth bynnag fo'ch rôl mewn sefydliad, wedi cael rhyw fath o brofiad o broblemau iechyd meddwl. Efallai nad nhw yn bersonol, ond aelod o'u teulu fydd wedi wynebu'r problemau hynny. Mae gan bawb brofiad o drawma sy'n effeithio arnynt bob dydd.
Felly, yn sicr, os oes gennych broblem iechyd meddwl a llesiant, syndrom ffugiwr, neu os ydych yn amau eich hun, mae'n bwysig ein bod yn gallu siarad am hynny lle bo hynny'n dderbyniol a'ch cefnogi drwy gyfnod o amser, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud hynny.
Weithiau, wrth gwrs, ni fyddwn yn gallu gwneud hynny, ac ni fydd gennym yr arbenigedd i gynnig yr hyn sydd ei angen ar yr unigolyn. Ond yn yr achosion hynny lle nad ni sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi unigolyn, gallwn ddibynnu ar ein hadnoddau allanol a'n gweithwyr proffesiynol allanol i gamu i'r adwy. Felly, rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r adnoddau sydd gennym yn fewnol - y sgiliau, y cydweithio, a'r cyfathrebu mewnol - ochr yn ochr â'r adnoddau sydd gennym yn allanol. Oherwydd mae angen arbenigwyr i allu datrys rhai o'r heriau mawr y mae rhai unigolion yn eu hwynebu.
MATT WINTLE
Rydym yn gweld bod yn rhaid i ni ddweud wrth bobl nad oes rhaid iddyn nhw wneud hynny yn eu hamser sbâr. Mae'n rhaid i ni daro'r cydbwysedd cywir. Oherwydd y broblem arall o ran gweithio gartref yw bod rhywun bob amser 'ar gael'. Ac rydym yn delio â hynny hefyd ac yn annog pobl i sicrhau bod ganddynt ofod ar wahân. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn gadael y gofod ar ddiwedd y dydd ac yn mynd i wneud rhywbeth gwahanol. Ac ni ddylech fynd yn ôl i'r gofod hwnnw nes eich bod yn gweithio eto.
Ac mae'n rhaid i ni annog yr ymddygiadau hynny go iawn, ac mae'n creu rhyw fath o system ddwy haen hefyd. Oherwydd rwy'n ddigon ffodus fy mod yn gallu gwneud hynny, am fod gen i ystafell benodol i weithio, ond nid yw pawb mor ffodus. Felly, rydym yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol na all rhai pobl o bosibl wneud hynny. Maen nhw'n gweithio lle maen nhw'n byw, a dyna'u hunig ddewis.
Felly fel rheolwr yn y sefyllfa honno, mae angen i chi fod yn ystyriol o hynny ac annog pobl i ddod â'r diwrnod gwaith i ben mewn rhyw ffordd, gan wneud yn siŵr nad ydyn nhw yn parhau i weithio yn ystod y nos a'u bod yn cael y seibiant hwnnw.
Mae llesiant ein cyflogeion bob amser wedi bod yn bwysig iawn i ni yn Admiral. Cyn y pandemig, roedd yn rhywbeth a oedd yn flaenoriaeth i ni wrth redeg ein busnes. Mae pobl bob amser wedi bod wrth wraidd ein busnes, ac rydym yn ymfalchïo yn hynny fel rhan o'n diwylliant.
Wedi dweud hynny, yn amlwg, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn fod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi rhoi straen a phwysau penodol ar bobl. Ac, felly, rydym wedi gorfod ymateb i hynny mewn ffordd benodol. Y ffordd orau o ddelio â hynny, yn fy marn i, yw drwy addysgu ein rheolwyr am empathi, gan ddeall bod pawb yn wahanol.
Efallai fod gan bobl sefyllfaoedd gwahanol gartref, ac efallai y byddan nhw'n ymateb i hynny mewn ffyrdd gwahanol. Allwch chi ddim gwneud tybiaethau, oherwydd yn aml, bydd problemau llesiant yn bodoli o dan y wyneb. Mae'n bosibl na fyddan nhw'n bethau y gallwch eu gweld, ac efallai y bydd yn rhy hwyr cyn i chi fynd i'r afael â nhw. Felly, rydym wedi cyflwyno pecynnau hyfforddiant, er enghraifft i'n rheolwyr sy'n eu helpu i ddeall mwy am sut i nodi'r pethau hyn, a sut i gael y sgyrsiau cywir â phobl. Ac fel y soniais, deall y ffyrdd gwahanol y gallai pobl ymateb i'r straen a'r pwysau rydym wedi eu hwynebu.
NICK BARRATT
Rydym wedi ceisio cymryd dull seiliedig ar dystiolaeth. Felly, wrth feddwl am yr uned rwy'n gyfrifol amdani, y Gwasanaethau Dysgu a Darganfod, rydym wedi cynnal cyfres o arolygon pwls, er mwyn cadw mewn cysylltiad â'n pobl yn rheolaidd. Wrth i bob cam o'r pandemig ddechrau neu wrth i ni ddod allan ohono, roeddem am weld sut roedd pobl yn teimlo.
Ydyn ni'n gwneud digon i gefnogi eu llesiant, er enghraifft? A oes amrywiaeth o setiau data y gwnaethom edrych arnynt. Felly gwnaethom drych ar ein cyfansymiau salwch. A gwnaethom sylwi, i ddechrau, fod salwch byrdymor wedi gostwng yn ddramatig. Ac yna, gwnaethom ddechrau gweld bod rhai o'r materion llesiant yn gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Felly, gwnaethom sylweddoli, wel, iawn, efallai nad yw pobl yn cael y peswch a'r annwyd y byddech yn eu cael mewn swyddfa, ond maen nhw bellach yn gweithio'n galetach ac yn hirach ac yn dangos rhai o arwyddion unigedd. Felly, gwnaethom geisio gwneud yn siŵr ein bod yn archwilio beth oedd yn achosi hynny, gan gynnig cyfleoedd i bobl ddod ynghyd mewn amgylcheddau diogel rhag COVID-19 ar y safle er mwyn cael y cyffredinrwydd a'r rhyngweithio dynol hwnnw, os oeddent yn ei chael hi'n anodd ymdopi heb y cymorth y byddent yn ei gael ar y safle ac nad oeddent o bosibl yn ei gael gartref.
Felly roeddem yn ceisio arfer dull seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'r dull hwnnw bellach wedi cael ei ymgorffori yn rhywfaint o'n gwaith blaengynllunio. Felly, rydym yn awyddus i gadw rhai o fuddiannau gweithio oddi ar y safle ond gan adfer buddiannau gweithio ar y safle, ac i brofi a gwerthuso'r hyn sy'n gweithio, p'un a yw hynny'n golygu defnyddio gofod gwahanol ai peidio, gan werthuso sut mae pobl yn ymateb, nid yn unig o ran a ydyn nhw'n teimlo'n fwy cynhyrchiol ond hefyd o ran y ffordd maen nhw'n teimlo amdanyn nhw eu hunain, ac a yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn rhai o'r ystadegau llesiant rydym yn eu monitro. Felly, rydym wedi creu cynllun pobl cadarn iawn, a fydd yn newid gydag amser, wrth i ni fynd drwy gamau gwahanol.
Rydym yn ystyried sut rydym yn cadw mewn cysylltiad â'n timau bob blwyddyn, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cysylltu eu gweithgareddau â diben penodol - beth yw ein pam? Beth yw ein diben? Ac, felly, gallant wedyn ddechrau meddwl am yr amgylchedd cywir, a'r cymorth cywir sydd ei angen arnynt. Bydd hynny'n wahanol i dimau gwahanol ym mhob rhan o'r uned, ac, wrth gwrs, ym mhob rhan o'r brifysgol.
Gallwn wedyn ddechrau cydleoli timau a oedd yn gweithio mewn seilos o bosibl, wedi'u gwahanu ar hyd a lled y campws, a gweld a ydyn nhw'n gweld buddiannau gwahanol o ganlyniad i gael eu cydleoli. Felly, mae popeth rydym yn ei wneud, fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifysgol, yn seiliedig ar ymchwil a dealltwriaeth sy'n seiliedig ar ddata. Ond cofiwch ein bod yn defnyddio rhywfaint o brofiad chwilfrydig hefyd.