Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Cyflwyniad

Ers dechrau 2020, mae'r sector addysg uwch (AU) wedi gorfod ymateb i newid ac ansicrwydd hollol newydd yn sgil pandemig byd-eang COVID-19. Mae'r 'addasu i ar-lein' (Salmon, 2020) yn gorfodi ffyrdd brys o weithio ar gyfer staff prifysgol sydd wedi'u lleoli ar gampws mewn ymgais i barhau i addysgu myfyrwyr pan nad oedd presenoldeb mewn darlithoedd, seminarau, etc. yn cael ei ganiatáu. Cymerodd nifer o sefydliadau addysg uwch (SAUau) y cyfle i fyfyrio ar sut y gallai'r arferion a'r polisïau brys hyn esblygu i ddull gweithredol ac wedi'i gynllunio ar gyfer gweithio mewn awyrgylch hybrid, neu sut y dylent gael eu hesblygu. Roedd y broses hon o fyfyrio yn cynnwys canolbwyntio'n fwy am lesiant a chynhwysiant staff a myfyrwyr, ac yn ystyried y canlynol:

  • effeithiau – cadarnhaol a negyddol – ymarferion digidol a fabwysiadwyd o ganlyniad i orfodaeth o ran gweithio gartref
  • disgwyliadau cyflogeion o ran gweithio mewn swyddfa
  • tybiaethau am y ffordd y caiff cyfleusterau a systemau campws y brifysgol eu rheoli a'u defnyddio.

Pam mae llesiant a chynhwysiant mor bwysig mewn cyd-destun addysg uwch? Mae Barbara Bassa, Cyfarwyddwr Rhaglen yn Advance HE yn egluro:

There is no argument about the fact that the quality of student experience at university starts with the quality of the services provided by the university staff: academics and professional support staff. In order for all staff to provide these quality experiences, they need to feel well and supported themselves. You cannot pour from an empty cup.

(Bassa, 2022)

Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Cafodd ei ddatblygu gyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), sef y corff cyhoeddus sy'n gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg uwch. Mae'r cwrs yn eich annog i ystyried eich datblygiad eich hun fel unigolyn, ac fel rheolwr neu arweinydd, os yw hynny yn rhan o'ch rôl.

Er bod y cwrs yn canolbwyntio ar gyd-destun cenedlaethol a sector addysg uwch yng Nghymru, gellir defnyddio'r egwyddorion a'r ystyriaethau yr ymdrinnir â nhw yn y cwrs hwn ar gyfer cenhedloedd a diwydiannau/sefydliadau eraill.