Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Cyd-destun eich sefydliad

Mae'n bosibl bod gan eich sefydliad strategaethau llesiant a chynhwysiant ar waith eisoes, ond ai dogfennau polisi yn unig ydynt, neu a ydynt yn cael eu corffori drwy ymddygiadau a sgiliau staff ar bob lefel a gwerthoedd, diwylliant ac ymarferion yn eich gweithleoedd ffisegol a digidol? Fel yr awgryma'r teitl, bydd y cwrs hwn yn archwilio amrywiol agweddau ar lesiant a chynhwysiant, cyn ystyried sut allwch chi eu dwyn ynghyd i ddatblygu a chynnal gweithle hybrid cefnogol a chynhwysol.

I gael gwybod am agweddau eraill ar ddatblygiad cyfundrefnol yn y gweithle hybrid, efallai yr hoffech astudio'r cwrs Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy'n rhan o'r casgliad hwn.

Yn y fideo isod mae cyfranwyr yn rhannu eu dirnadaeth a'u dulliau o gefnogi llesiant a chreu sefydliad mwy cynhwysol.

Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sep101_wellbeing_in_the_workplace_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn cydnabod yr angen i ymgorffori llesiant a chynhwysiant ym mhob lefel a rôl wahanol mewn sefydliad. Ar gyfer llesiant, gall hyn olygu amrywiaethu'r dull cymorth ‘un ateb i bawb’ a sicrhau bod hyfforddiant ardystiedig ar gael (e.e. Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl), neu fod cadeiryddion grwpiau cymorth i staff yn hwyluso trafodaethau a'r gallu i fyfyrio mewn lle diogel, yn hytrach na dibynnu ar wasanaeth cymorth i gyflogeion unigol sydd wedi'i allanoli.