2.1 Mesurau ystadegol o lesiant
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG, 2023) yn mesur llesiant ar lefel genedlaethol gan ddefnyddio cyfres o ddangosyddion y mae'n gofyn i bobl roi sgôr yn eu herbyn ar gyfer eu lefel o fodlonrwydd mewn cysylltiad ag agweddau gwahanol ar eu bywydau. Mae'r dangosyddion yn cynnwys y canlynol:
- Llesiant personol – a ydynt yn fodlon ar eu bywydau yn gyffredinol; pa mor werthfawr yw'r pethau y maent yn eu gwneud yn eu barn nhw; pa sgor y byddent yn ei roi ar gyfer eu hapusrwydd ddoe; pa sgor y byddent yn ei roi ar gyfer eu hymdeimlad o orbryder ddoe
- Perthnasoedd – oes ganddynt bobl a fyddai ar gael iddynt pe byddai angen help arnynt; a ydynt mewn cydberthnasau anhapus; pa mor aml y maent yn teimlo'n unig; a ydynt yn ymddiried mewn pobl eraill?
- Iechyd – a oes ganddynt anabledd y rhoddir gwybod amdano; a ydynt yn fodlon ar eu hiechyd; a oes tystiolaeth o iselder neu orbryder; beth yw'r disgwyliad oes iach ar eu cyfer?
- Galwedigaeth ('ein gwaith') – a ydynt yn ddi-waith; a ydynt yn fodlon ar yr amser hamdden a gânt; a ydynt wedi gwirfoddoli fwy nag unwaith yn ystod y 12 mis diwethaf; a ydynt wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd diwylliannol neu gelfyddydol o leiaf dair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf?
- Lleoliad ('lle'r ydym ni'n byw') – a ydynt wedi bod yn ddioddefwyr trosedd; a ydynt yn teimlo'n ddiogel wrth gerdded ar eu pen eu hunain wedi iddi nosi; a ydynt yn teimlo eu bod yn rhan o'u cymdogaeth; a ydynt wedi mynd allan i'r amgylchedd naturiol o leiaf unwaith yr wythnos yn ystod y 12 mis diwethaf; a ydynt yn fodlon ar eu llety?
- Cyllid personol – a ydynt yn fodlon ar incwm y cartref; a ydynt wedi'i chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol?
Mae'r cwestiynau hyn yn cynnig golwg ehangach o lesiant nag yr oeddech wedi'i ystyried yn wreiddiol. Bydd rhai o'r rhain yn cael eu trafod eto yn Adran 3. Serch hynny, rydych nawr am ystyried llesiant o bersbectif seicolegol.