3.2 Cefnogi llesiant eich cydweithwyr
Roedd yr adran flaenorol yn gofyn i chi ystyried eich llesiant eich hun yn y gwaith. Nawr, mae'n amser i chi feddwl am lesiant eraill – eich cydweithwyr.
Gweithgaredd 5 Sut allwch chi helpu eraill?
Darllenwch yr erthygl fer hon (500 gair) sy'n dwyn y teitl How can I support my colleagues? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , gan National Wellbeing Hub yr Alban (dim dyddiad), yna treuliwch ychydig o amser yn myfyrio ar y cwestiynau canlynol:
- Ydych chi wedi rhoi cynnig ar unrhyw rai o'r awgrymiadau yn yr erthygl? Os felly, pa mor llwyddiannus oeddent? Pa fath o ymateb a gawsant?
- I ba raddau ydych chi'n teimlo bod gennych chi gyfrifoldeb am gefnogi llesiant eich cydweithwyr yn y gwaith?
- Pa weithredoedd, syniadau, dulliau a strategaethau eraill ydych chi wedi'u hadnabod sydd â'r potensial i wella llesiant eich cydweithwyr?
Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.
Trafodaeth
Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gyfrifoldeb ffurfiol am gefnogi llesiant eich cydweithwyr, os gofiwch chi am y model PERMA, mae helpu eraill – cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant yn y gwaith – yn ffordd rwydd o ychwanegu mwy o ystyr i'ch bywyd yn y gwaith.
Bydd rhai o'r gweithgareddau a grybwyllwyd yn yr erthygl yn cael eu harchwilio'n fwy manwl yn ddiweddarach yn Adran 5.
Gall creu ‘cytundeb gweithio mewn tîm’, y mae pob aelod o'r tîm yn cyfrannu ato, fod yn ddull defnyddiol o helpu eraill, yn enwedig wrth weithio mewn tîm. Gall hyn helpu i gefnogi llesiant y tîm a llesiant unigolion. Mae adran 4 o Hybrid working: digital communication and collaboration yn rhoi arweiniad ar sut i greu ‘cytundeb gweithio mewn tîm’.