Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Sgyrsiau am lesiant

Mae arweinwyr effeithiol yn cydnabod yr angen i ymgorffori llesiant a chynhwysiant ym mhob lefel wahanol mewn sefydliad. Gall arweinwyr a rheolwyr helpu i adeiladu diwylliant cynhwysol a chefnogol o ddiogelwch seicolegol lle y mae'r staff yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau a'u hanghenion yn y gweithle.

Mae'r sgyrsiau a gewch am lesiant yn agwedd bwysig ar ymddygiadau modelu a galluogi sy'n cefnogi llesiant y gweithle. Mae cynnal sgyrsiau am faterion personol neu sensitif yn gofyn i chi feithrin ymddiriedaeth, bod yn onest am y cymorth y gallech chi/y sefydliad ei ddarparu a defnyddio eich barn er mwyn cytuno ar y camau nesaf. Er bod angen ystyried yr hyn a gaiff ei rannu bob amser, gall rhoi dull mwy empathetig ar waith, a gwrando'n astud arwain at sgyrsiau gwell.

Caiff empathi a gwrando'n astud eu harchwilio'n fanylach yn y cwrs Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy'n rhan o'r casgliad hwn. Mae'n bosibl y byddai'r cwrs hwnnw yn ddefnyddiol i'ch helpu i feithrin eich ymwybyddiaeth a'ch sgiliau wrth roi dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolion ar waith (Berry, 2022) wrth siarad ag eraill. Yn Ffigur 7, mae Berry yn awgrymu naw nodwedd hanfodol y mae angen eu rhoi ar waith ar gyfer cynnal sgyrsiau sy'n canolbwyntio ar yr unigolion:

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 7 Sgyrsiau sy’n canolbwyntio ar yr unigolion, wedi'i addasu o Berry (2022).

Mae gan sawl sefydliad y rhwydweithiau priodol ar waith er mwyn cefnogi cyflogeion a rheolwyr llinell i ddechrau cynnal sgyrsiau gwell. Yn y gweithgaredd terfynol hwn, byddem yn canolbwyntio ar ddod â'r hyn rydym wedi'i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd ac yn gofyn i chi fyfyrio ar sut rydych yn teimlo am gynnal sgyrsiau personol ac archwilio sut y byddech yn mynd ati i rannu eich profiadau eich hun (fel unigolyn) o bosibl a chynnal sgyrsiau sensitif (fel arweinydd neu reolwr), er mwyn cefnogi eich staff a datblygu cymorth mwy effeithiol yn y gweithle.

Gweithgaredd 6: Sgyrsiau gwell

Timing: Caniatewch tua 30munud

Gall cynnal sgyrsiau am faterion personol yn y gweithle fod yn anodd. Fel unigolyn, mae'n bosibl nad ydych yn barod i rannu'r hyn y gall fod yn digwydd yn eich bywyd am lawer o resymau, ac fel rheolwr, mae'n bosibl na fyddwch yn gwybod sut i ddechrau sgwrs ag aelod o'r staff er mwyn holi os oes rhywbeth o'i le. Dim ond ar adegau pan fydd rhywbeth yn ‘digwydd’ - megis ymddygiad annisgwyl, perfformiad gwael neu absenoldeb annisgwyl - y mae'n amhosibl peidio â dechrau sgwrs sensitif yn aml.

Gall teimlo fel y gallech rannu profiad personol yn agored yn y gweithle gymryd amser, ac yn aml, dim ond ar ôl i'r unigolyn siarad â ffrindiau a theulu agos y mae hyn yn digwydd, ac yna â chydweithwyr y mae'n ymddiried ynddo a'u rheolwr llinell yn y pen draw. Yn yr astudiaeth achos isod, rydym yn defnyddio'r enghraifft o gamesgoriad er mwyn eich helpu i ystyried sut y byddech, o bosibl, yn mynd ati i ddechrau sgwrs sensitif yn y gwaith.

Astudiaeth Achos: camesgor a'r gweithle

Mae tystiolaeth gynyddol bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar gynnydd mewn cydraddoldeb rhywiol. Gallwch archwilio'r materion sy'n effeithio ar fenywod yn yr adran ar Gynhwysiant ar gyfer menywod yn y cwrs Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol, o fewn y casgliad hwn.

Mae problemau iechyd ymysg menywod sy'n gysylltiedig â ffrwythlondeb yn gyffredin, boed hynny yn anawsterau beichiogi, cymhlethdodau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, neu'r menopos. Mae camesgor yn bwnc sensitif gan fod peidio â datgelu eich bod yn feichiog cyn 12 wythnos yn normal yn y DU, ond mae nifer o achosion o gamesgoriadau yn digwydd yn ystod camau cynnar iawn y beichiogrwydd. Gall hyn arwain at bobl yn mynd drwy'r broses alaru nad yw eraill yn ymwybodol ohoni. Mae Canolfan Ymchwil Camesgor Genedlaethol Tommy's yn gweithio gyda phrifysgolion ac ysbytai ac mae'n ymrwymedig i ddeall mwy am y rhesymau pam fod camesgoriadau yn digwydd, eu heffeithiau ar unigolion a sut i'w hatal. Mae'r ymchwil gan Tommy's yn awgrymu bob menywod a'u partneriaid wedi profi anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn sgil camesgor:

At nine months, none of the women with healthy pregnancies had PTSD, anxiety, or depression. But among women with early pregnancy loss:

  • almost one in five (18%) had PTSD
  • one in six (17%) had anxiety
  • one in 20 (6%) had depression.

Farren J, Jalmbrant M, Falconieri N, et al, 2020

Yn y fideo isod, mae Esther Spring, Arweinydd Dysgu - Digidol ac Arloesedd, a Dr Nick Barratt, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Dysgu a Darganfod yn Y Brifysgol Agored, yn trafod eu profiadau o gamesgor a'r cymorth a oedd ar gael yn y gweithle.

Wrth i chi wylio'r fideo, ystyriwch sut y byddech yn ymdrin â sefyllfa debyg, a pha gymorth sydd ar waith yn eich sefydliad. Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl sut rydych yn teimlo wrth wrando ar yr hyn a brofodd Esther, gan y gall bod yn ymwybodol o'r ffordd rydych yn teimlo ac yn ymateb ddylanwadu ar eich dull o ddechrau sgyrsiau tebyg yn y dyfodol. Yna, ystyriwch fyfyrdodau Nick ar y profiad ar ddiwedd y fideo.

Rhybudd sbarduno: Noder bod y fideo hwn yn trafod y broses o gamesgor a'i heffeithiau yn fanwl.

Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sep112a_diverse_voices_misscarriage_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

O wylio'r fideo ac ystyried myfyrdodau Nick, sut y byddech chi'n mynd ati i gynnal sgyrsiau sensitif, a pha broblemau y byddech yn dod ar eu traws o ran y cymorth sydd ar gael mewn gweithle hybrid neu o bell yn unig. Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch isod:

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yn y fideo nesaf, mae Nick ac Esther yn trafod sut y gall sefydliadau a rheolwyr roi cymorth i'w staff mewn perthynas â llesiant a chynhwysiant. Ystyriwch y dulliau gwahanol y gellid eu cymryd, a'r effaith y gall sefyllfaoedd eu cael ar unigolion a rheolwyr. Wrth i chi wylio'r fideo, myfyriwch ar eich dull eich hun a dull eich sefydliad o sicrhau llesiant a chynhwysiant ac ystyriwch yr hyn y gallech ei wneud yn wahanol.

Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sep112b_supporting_others_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch isod ar y meysydd i'w hymchwilio ymhellach, a'r sgyrsiau a gallech eu cynnal ag eraill a allai fod o fudd er mwyn datblygu arferion gweithio gwell.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).